Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres y Teulu Boncyrs: 1. Bili Boncyrs a'r Pants Hud
Cyfres y Teulu Boncyrs: 1. Bili Boncyrs a'r Pants Hud
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Stori ddoniol gyda darluniau lliwgar a bywiog am y bachgen bach hoffus, Bili Boncyrs sy'n helpu ei chwaer a'i ffrind i wireddu eu dymuniadau, gyda chymorth pâr o bants hud; i blant 5-7 oed. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2004.
Disgrifiad Saesneg / English Description
An amusing story, with colourful and lively illustrations about the loveable boy, Bili Boncyrs who helps his sister and friend to make their wishes come true, with the aid of a magic pair of pants; for children 5-7 years. Reprint; first published in 2004.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780862437640
- Gwales Code
- gwales.com.9780862437640
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres y Teulu Boncyrs: 1. Bili Boncyrs a'r Pants Hud
- Awdur / Author
- Lewis, Caryl
- Current Price ex VAT
- £2.95
- Current Price inc VAT
- £2.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2011-04-20
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Evans, Gary
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 24 pages
- Size
- 208 × 200 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Daw Caryl yn wreiddiol o Ddihewyd ger Aberaeron. Graddiodd o Brifysgol Durham cyn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth i ennill gradd uwch mewn ysgrifennu. Ennillodd Iawn Boi? Wobr Tir na n-Og 2004 ac enwyd ei nofel Martha Jac a Sianco yn Lyfr y Flwyddyn 2005. Mae hi wrth ei bodd yn ei hamser hamdden yn arlunio a bwyta Maltesers.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma’r llyfr cyntaf yn y gyfres sy’n olrhain hanes Bili Boncyrs a’i deulu gwallgof. Mae DJ Donci Bonc eisiau ymuno â band yr ysgol ond mae ei lais yn OFNADWY, ac mae Mili eisiau ymuno â thîm pêl-fasged yr ysgol er nad oes gobaith ganddi. Mae Bili'n poeni wrth weld y ddau yn ddigalon. Mae Bili’n cael syniad. Mae’n addurno hen bâr o bants a ddefnyddir i lanhau’r tŷ ac yn argyhoeddi DJ Donci Bonc a Mili mai pants hud ydynt ac y byddant yn gallu gwneud unrhyw beth pan fyddant yn eu gwisgo. Mae’r pants hud yn rhoi hyder i DJ Donci Bonc a Mili ac mae’r ddau yn hapus dros ben oherwydd eu bod wedi cael eu dymuniad. Daw’r stori fyw gyda chymorth lluniau trawiadol ac iaith naturiol. Mae yma wedd fodern i’r llyfr wrth gyfnewid rôl draddodiadol y rhieni. Hoffais gyffyrddiadau megis Sili’r gath yn darllen papur a defnyddio ‘pants’ fel gwrthrych i wireddu breuddwydion. Efallai bod enwau’r cymeriadau sef Bili, Tili a Mili braidd yn ddryslyd ar y darlleniad cyntaf. Rwy’n siŵr y bydd yn apelio at blant sydd wedi dechrau cael blas ar ddarllen llyfrau’n annibynnol.
Share
