Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres y Teulu Boncyrs: 2. Bili Boncyrs a'r Cynllun Hedfan
Cyfres y Teulu Boncyrs: 2. Bili Boncyrs a'r Cynllun Hedfan
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Stori ddoniol gyda darluniau lliwgar a bywiog am y bachgen bach hoffus, Bili Boncyrs yn ceisio helpu ei ffrind yr asyn sy'n hiraethu am ei deulu yn Sbaen; i blant 5-7 oed. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2004.
Disgrifiad Saesneg / English Description
An amusing story, with colourful and lively illustrations about the loveable boy, Bili Boncyrs who tries to comfort his friend the donkey who is pining for his family in Spain; for children aged 5-7 years. Reprint; first published in 2004.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780862437657
- Gwales Code
- gwales.com.9780862437657
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres y Teulu Boncyrs: 2. Bili Boncyrs a'r Cynllun Hedfan
- Awdur / Author
- Lewis, Caryl
- Current Price ex VAT
- £2.95
- Current Price inc VAT
- £2.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2011-04-20
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Evans, Gary
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 24 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma lyfr sy’n gwireddu’r teitl drwyddo draw. Mae’r swyn yn enwau’r cymeriadau – Bili Boncyrs, D J Donci Bonc, Mili, Sili a Tili yn awgrymu fod yma stori anhygoel o wirion, a bod un digwyddiad ar ôl y llall yn siŵr o wneud i ni chwerthin. O’r cychwyn cyntaf, mae’r stori’n datblygu o fod yn hanesyn bach tawel a thrist i fod yn stori gynhyrfus gyda diweddglo annisgwyl. Meddyliwch mewn difrif! Tri o blant wrthi’n ceisio gosod D J Donci Bonc ar sglefrfwrdd gydag adenydd o gardfwrdd a sosban ar ei ben!! A’r cyfan er mwyn i D J gael mynd i Sbaen i weld ei fodryb a’i ewyrth. Ond . . . ar ôl adeiladu at uchafbwynt, gyda’r hen D J yn codi i fyny i’r awyr . . . sôn am drychineb! Mae’r hen D J druan yn glanio’n bendramwnwgl ar y llawr a’i holl obeithion yn chwilfriw! Dyma lyfr a fydd yn apelio at blant cynradd o’r lleiaf un, fel stori i’w darllen gan riant, athro, neu gan y plentyn ei hun. Mae tipyn o chwarae ar deimladau yma – y tristwch dagreuol ar y dechrau, gobaith, siom ac yna’r pleser o gael gwyliau yn yr ardd! Mae’r lluniau’n gyfraniad pwysig iawn. Bron na ellir creu’r stori gyfan wrth edrych ar y darluniau’n unig. Dyma gyfle gwych i feithrin dychymyg a ‘dawn dweud’ plant bach. Ceir yma ddeialog syml a slic ac mae ymadroddion fel ‘llefain y glaw’ a ‘twt twtian’ yn siŵr o ehangu geirfa’r plant. Wrth ddarllen y stori, fedrwn i ddim llai na chydymdeimlo efo Donci Bonc – hwyrach y dylai fod wedi cael cyrraedd Sbaen wedi’r cwbl, er mwyn cadw’r ffantasi’n fyw. ‘Hwyrach’ ddwedais i. Tro nesa, efallai?
Share
