Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Yma: Yr Ynys

Cyfres Yma: Yr Ynys

Regular price £5.99 GBP
Regular price Sale price £5.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Y nofel gyntaf mewn trioleg ar gyfer yr arddegau hŷn. Mae Gwawr a Cai yn paratoi ar gyfer taith yn ôl i'r Henwlad er mwyn darganfod mwy am fywyd eu hynafiaid cyn ffrwydriad dinistriol y Diwedd Mawr a gafodd effaith tyngedfennol ar y byd. Bydd nofelau 2 a 3 yn cael eu cyhoeddi yn 2018 a 2019.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The first title in a trilogy for older teenagers. Gwawr and Cai prepare to journey back to the Henwlad where they hope to learn about the lives of their ancestors before a destructive explosion which had a fateful effect on the world. The second and third titles will appear in 2018 and 2019.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784615031
Gwales Code
gwales.com.9781784615031
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Yma: Yr Ynys
Awdur / Author
Roberts, Lleucu
Current Price ex VAT
£5.99
Current Price inc VAT
£5.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2017-11-15
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
144 pages
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Hanes, gwleidyddiaeth, gwrthdaro, heriau llencyndod, a phlethwaith o themâu oesol – dyna gynhwysion y nofel afaelgar hon o waith Lleucu Roberts, y nofel gyntaf mewn trioleg. Stori wedi’i gosod yn glyfar iawn yn y dyfodol yw Yma: Yr Ynys . Disgrifia gymdeithas ôl-apocalyptig unigryw ganrif wedi i griw o 49 o bobl fynd i guddio mewn ogof i osgoi’r Diwedd Mawr – y bomiau niwclear a ddaeth yn agos i ddinistrio bywyd ar y Ddaear yn 2030. Drwy ddilyn helyntion dau rebel direidus pymtheg oed – Cai a Gwawr – ceir portread o’r Ynys unigryw, gyntefig ei naws. Ochr yn ochr â hyn ceir ôl-fflachiadau o fywyd ganrif a mwy ynghynt, trwy gyfrwng Dyddiadur Mam Un, sylfaenydd bywyd ar yr Ynys, ac un sy’n cael ei haddoli gan yr ynyswyr ar sail geiriau ei Dyddiadur. Ynddo, ceir disgrifiadau o draddodiadau a diwylliant Cymru, ochr yn ochr â’r paratoadau ymarferol a gwyddonol a wnaethpwyd ymlaen llaw yn yr ogofâu a’r twneli er mwyn gallu sefydlu cymdeithas yr Ynys. Mae yna dinc proffwydol digon brawychus i’r nofel gyda’r cyfeiriadau at wleidyddiaeth y byd cyn i’r bomiau niwclear daro – byd o gweryla cas rhwng gwledydd, a chyfnod, yn benodol 2016, pan ‘fu farw gwirionedd’. Ceir cyfeiriadau cyson hefyd at gysgod canser, sydd â’i grafangau’n dal i dagu a difa bywyd. Pererindod criw bychan o ynyswyr – a Cai a Gwawr yn eu plith – yn ôl i Gymru, gwlad enedigol Rhian, Mam Un, ac i Aberystwyth, y dref lle magwyd hi, yw craidd y nofel. Dyma daith o ddarganfod yn ôl i fyd wedi’r gaeaf niwclear, taith sy’n dwyn i gof bererindod yr ymfudwyr cyntaf i Batagonia ar long y Mimosa . Yn naturiol, gan mai’r gyfrol gyntaf o drioleg yw’r nofel yma, hau hadau ar gyfer anturiaethau’r criw y mae Yma: Yr Ynys . O ran arddull, mae’r iaith yn gyhyrog a’r ysgrifennu’n grefftus ond cyffyrddus iawn. Fe ellid dadlau bod iaith Lleucu Roberts yn heriol ar adegau, ond heriol mewn ffordd dyner a gofalus, ffordd sy’n cyfoethogi’r dweud ac yn hybu’r stori mewn modd hynod effeithiol. Heb os, mae’r nofel hon yn argoeli’n dda ar gyfer gweddill y drioleg.

View full details