Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres yr Onnen: Cam wrth Gam

Cyfres yr Onnen: Cam wrth Gam

Regular price £5.95 GBP
Regular price Sale price £5.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Stori deimladwy am berthynas agos dau efaill. Ar ôl damwain beic erchyll mae Cain yn ysgrifennu dyddiadur i helpu Lleu i gofio am ei fywyd cyn y ddamwain.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A tender and poignant story about the close relationship of twins. After a dreadful biking accident, Cain begins to write a diary mapping Lleu's life before the accident.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847718396
Gwales Code
gwales.com.9781847718396
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres yr Onnen: Cam wrth Gam
Awdur / Author
Llwyd, Mared
Current Price ex VAT
£5.95
Current Price inc VAT
£5.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2014-04-02
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
224 pages
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cam wrth gam y mae gwella wedi damwain ddifrifol, ac olrhain y camau hyn yn hanes bachgen un ar ddeg oed o’r enw Lleu a wna ail nofel Mared Llwyd. Mae Lleu’n gyffro i gyd yn y bennod agoriadol wrth fynd gyda Cain, ei efeilles, ar eu beiciau newydd sbon ar ddydd Calan. Ond buan y trosglwyddir y naratif i lais Cain wrth iddi gadw cofnod yn ei dyddiadur o wellhad poenus ac araf Lleu yn yr ysbyty wedi iddo gael i daro gan gar a dioddef niwed i’w ymennydd. Darllenwn am ei air cyntaf, amdano'n agor ei lygaid, yn gadael yr Uned Gofal Dwys, dysgu bwydo’i hun, y ffisoatherapi, y therapi iaith a lleferydd, ac ati. Darlunir effaith y ddamwain ar y teulu cyfan – ar y rhieni, ar y ferch sydd yn cyfnewid rôl â’i hefaill a oedd wastad yn fwy hyderus na hi, ac ar y claf ei hun. Hoffais y syniad o’r cof fel albwm lluniau gwag sydd angen cael ei ail-lenwi fesul llun, a cheir yma hiwmor hefyd wrth i Cain fwrw ati i lenwi’r albwm lluniau, a straffaglio gyda’r broses ysgrifennu. Gwych o beth yw cyflwyno strwythur arbrofol i ddarllenwyr oedran cynradd. Mae’r amrywiaeth o leisiau yn creu portread cynnil o frawd a chwaer, ac ymdrechion yr heddlu i ddod o hyd i’r gyrrwr yn gwau trwy’r cwbl, gan greu nofel afaelgar ac eang ei hapêl.

View full details