Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres yr Onnen: Diffodd y Sêr
Cyfres yr Onnen: Diffodd y Sêr
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel hanesyddol yw Diffodd y Sêr . Mae'r stori wedi'i seilio ar hanes Hedd Wyn ac mae'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gefndir i'r digwyddiadau. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2014.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Ellis has to become a soldier, like dozens of other young men from the Trawsfynydd area, during the First World War. But Anni looks up at the stars each night and wishes that her brother could come home to Yr Ysgwrn, especially after seeing the terrible effect the fighting has had on the father of her best friend. A special prize is waiting for Ellis if he returns home safely ...
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847716972
- Gwales Code
- gwales.com.9781847716972
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres yr Onnen: Diffodd y Sêr
- Awdur / Author
- Llewelyn, Haf
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-02-06
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 128 pages
- Size
- 194 × 130 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Haf Llewelyn yn ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion, ac wedi gweithio fel athrawes gynradd. Mae’n byw yn Llanuwchllyn, ger y Bala.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma nofel sy’n werth ei darllen. Yn gefndir iddi mae hanes Hedd Wyn, y bardd-filwr a syrthiodd ar Gefnen Pilckem ym mrwydr Passchendaele yn Fflandrys ym 1917 lle collodd bron i chwarter miliwn o filwyr eu bywydau. Adroddir yr hanes trwy lygad Anni, un o chwiorydd Hedd Wyn, ac yn ganolog i’r stori mae ei hanesion hi a Lora, ei ffrind pennaf. Er gwaetha cysgod y Rhyfel Mawr maent hwy yn eu diniweidrwydd yn dygymod â bywyd bob dydd yng Nghwm Prysor, gan rannu cyfrinachau a phrofiadau carwriaethol merched ifanc yn eu harddegau. Nid tasg hawdd i awdur yw ysgrifennu am un o ddigwyddiadau mwyaf erchyll dynoliaeth, ond fe lwyddodd Haf Llewelyn. Nid yw’n celu dim. Saethwyd tad Lora yn ei wyneb a’i anafu’n ddifrifol ym mrwydr Coed Mametz ac y mae darllen y llythyr sy’n disgrifio’r ymladd a’r amodau byw yn y ffosydd du – pwll dyfnaf uffern – yn ddirdynnol ac yn ddigon i fferru’r gwaed. Ond ochr yn ochr â’r disgrifiadau ysgytwol mae yma ysgrifennu sensitif a dwys, a llwydda’r awdur i ddod ag elfennau o hapusrwydd a pheth ysgafnder i fywydau’r cymeriadau. Â thema rhyfel ar faes llafur ein hysgolion, bydd y nofel hon yn ddeunydd darllen atodol penigamp.
Share
