Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres yr Onnen: Y Bancsi Bach

Cyfres yr Onnen: Y Bancsi Bach

Regular price £5.95 GBP
Regular price Sale price £5.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae Owen yn artist dawnus, sy'n creu lluniau graffiti ar un o waliau'r dre yn y dirgel, ganol nos. Ond mae 'na gysylltiad rhwng y lluniau â phobl ddieithr sy'n cyrraedd yr ysgol ... Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2013.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Banksy was Owen's hero. That mythical man who created graffiti during the night but, by morning, the artist had disappeared, leaving only the art. Why couldn't Owen disappear like his hero? Create his art, then disappear. Reprint. First published in 2013.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847716965
Gwales Code
gwales.com.9781847716965
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres yr Onnen: Y Bancsi Bach
Awdur / Author
Jones, Tudur Dylan
Current Price ex VAT
£5.95
Current Price inc VAT
£5.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2017-09-07
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
96 pages
Size
194 × 130 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Prifardd ac enillydd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint 2007, sydd yn athro Cymraeg yn Ysgol y Strade, Llanelli.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Nofel nad yw fawr hwy na stori fer go lew ydi hon. Ysbryd a natur stori fer sydd iddi o ran cyfansoddiad a chyda thro dyfeisgar yn y gynffon. Trawodd yr awdur ar syniad canolog rhagorol. Y gamp wedyn, wrth gwrs, fyddai datblygu'r syniad ymhellach, a chynllunio sut i gau pen y mwdwl. Llwydda Tudur Dylan Jones, gan beri i ddarllenydd oedi ar y dudalen olaf a dyfalu awyddocâd y digwyddiadau yn hytrach na chau’r llyfr a symud yn ddifwstwr at rywbeth arall. Cyfres i ddarllenwyr ifainc yw Cyfres yr Onnen ond byddai darllenwyr hŷn hefyd yn cael blas ar Y Bancsi Bach . Cyfeiria'r 'Bancsi' sydd yn y teitl at Banksy, yr arlunydd graffiti dadleuol a dylanwadol o Fryste, a'n hargyhoeddodd ni ers dechrau’r nawdegau fod y math yma o arlunio ar waliau yn gelfyddyd yn ogystal â bod yn sylwebaeth gymdeithasol rymus. Ymddangosodd ei ddelweddau ar furiau cyn belled â’r West Bank gan ennill edmygedd uchelwyr selebwlad megis Pitt a Jolie – ac Owen, bachgen ysgol a phrif gymeriad y nofel hon, sydd â’i fryd ar efelychu proffwyd y muriau. Yn y bennod agoriadol darlunnir ef yn sleifio o’i lofft liw nos i drawsnewid wal yn y dref lle mae’n byw. Fo ydi'r ‘ Bancsi Bach’. Ond er ei fod yn arlunydd penigamp, bachgen mewnblyg, unig ac anhapus ydi Owen ac yn un sy'n cael ei fwlio ar fuarth yr ysgol. Nofel am fwlio ac am ymwneud disgyblion ysgol â’i gilydd a meddylfryd y pac neu lwyth yw hon. Mae Owen yn wrthodedig gan bac ei ysgol, a hynny dan ddylanwad Hedd, y pen bwli. Annheg mewn adolygiad fyddai manylu ar union arwyddocâd, effaith a chanlyniad graffiti Owen rhag i hyn sbwylio’r stori, ond mae’n deg dweud i Tudur Dylan Jones daro ar syniad gwefreiddiol sy’n cael ei ddatgelu’n raddol. Mae’r dweud, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan un â sicrwydd o’i Gymraeg, yn rhwydd ac yn ddidrafferth, er efallai fod rhywfaint gormod o din-droi ar adegau ac y dylid fod wedi clatsio ’mlaen damaid. Ac yntau’n athro ei hun, ni all rhywun osgoi ymddiddori ym mhortread Tudur Dylan Jones o'r athrawon yn y nofel – a’i chael yn amhosib peidio â dyfalu beth fydd ei gyd-athrawon yn y byd go iawn yn ei wneud o’r darlunio digon beirniadol yn y nofel hon. Gobeithio na fydd neb yn yr un ysgol ag ef yn meddwl ei fod yn adnabod ei hun!

View full details