Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres yr Onnen: Y Cwestiwn Mawr

Cyfres yr Onnen: Y Cwestiwn Mawr

Regular price £5.95 GBP
Regular price Sale price £5.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Caerdydd, sir Fôn, Lerpwl, cloc, dirgelwch y fan goch, pasbort ac arian yn cael eu dwyn - dyna ddechrau ar antur i Dan pan aiff i aros gyda'i Yncl Roli tra mae ei fam ar daith ym Mheriw. Nofel addas i ddarllenwyr da 9 i 13 oed gan awdures brofiadol yn y maes.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Dan's idea of hell is being sent to stay with his uncle Roli in Anglesey while his mother goes on a trip to Peru. But there's a journey ahead of them both too - a journey full of drama, fear and ignorance. The journey ends with a discovery that will change Dan's life for ever as he finds the answer to the Big Question in the most unexpected way!

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847712134
Gwales Code
gwales.com.9781847712134
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres yr Onnen: Y Cwestiwn Mawr
Awdur / Author
Jones, Meinir Pierce
Current Price ex VAT
£5.95
Current Price inc VAT
£5.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-03-31
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Editor
Edwards, Alun Jones/Meinir
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
174 pages
Size
130 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Meinir Pierce Jones yn awdur pentwr o lyfrau i blant, pobl ifanc ac oedolion. Mae hi’n byw mewn ffermdy yn Nefyn, Pen Llŷn gyda’i theulu.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dod o hyd i ateb Y Cwestiwn Mawr mewn “thriller” llawn tensiwn Dan, bachgen 13 oed, sy’n ceisio dod o hyd i’r ateb i’r “Cwestiwn Mawr” yn nofel newydd Meinir Pierce Jones. Y Cwestiwn Mawr yw’r nofel ddiweddaraf yng Nghyfres yr Onnen i blant 9 i 13 oed gan wasg y Lolfa. Aiff Dan i aros gyda’i Yncl Roli yn Sir Fôn tra mae ei fam ym Mheriw fel rhan o’i gwaith gyda Masnach Deg. O Sir Fôn, mae’r ddau’n teithio i Lerpwl, ac yno mae eu problemau’n dechrau – fan yn eu dilyn, pasbort ac arian yn cael eu dwyn, Dan yn mynd ar goll, dynes ryfedd o wlad Pwyl, dau ddyn Asiaidd rhyfeddach fyth, a Roli’n cael ei daro’n wael. Ar ei diwedd mae darganfyddiad a fydd yn newid taith bywyd Dan am byth wrth iddo gael ateb i’r Cwestiwn Mawr o’r cyfeiriad mwyaf annisgwyl posib. Dywedodd Meinir Pierce Jones, “Roeddwn i am sgwennu stori gyflym, debyg i 'thriller', fodern efo digon o densiwn a drama. Mi wnes i roi cefndir dinesig iddi a Lerpwl ydi'r ddinas yn y stori. Mae gen i 5 nai, ac felly ro'n i’n gobeithio cael stori fyddai'n denu hogiau fel nhw. Mae'r llyfr yn cynnwys llawer o wahanol deithiau ym mywyd Dan. Ro'n i am sgwennu stori fyddai'n cadw trwyn y darllenydd ifanc yn y llyfr.” Ychwanegodd Garmon Gruffudd ar ran Y Lolfa, “Nôd cyfres yr Onnen yw llanw bwlch amlwg yn y farchnad lyfrau, sef nofelau gafaelgar a heriol gyda digon o swmp i blant dan 13 oed. Mae’r gyfres wedi profi yn eithriadol o lwyddiannus gyda phedair cyfrol o’r gyfres ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2010, ac mae yna nifer o nofelau ardderchog ar y gweill.”

View full details