Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfrolau Cenedl: 1. Canu Twm o'r Nant

Cyfrolau Cenedl: 1. Canu Twm o'r Nant

Regular price £15.00 GBP
Regular price Sale price £15.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dyma'r casgliad sylweddol cyntaf o gerddi Twm o'r Nant oddi ar olygiad Isaac Foulkes, 1874. Ceir yma flas o firi'r anterliwt mewn areithiau, ymddiddanion a chaneuon, cerddi o ddychan didrugaredd ar 'y byd echryslon', cerddi grymus o ddysgeidiaeth a phrofiad crefyddol, a cherddi am helbulon aml bywyd y bardd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

This is the first substantial collection of Twm o'r Nant's poems since Isaac Foulkes's edited volume in 1874. Here we get a flavour of the fun of the anterlute, in speeches, dialogues and songs, harsh satire on the horrors of the world, powerful expressions of religious teachings and experiences, and various poems based on the poet's own frequent troubles.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780956651600
Gwales Code
gwales.com.9780956651600
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfrolau Cenedl: 1. Canu Twm o'r Nant
Awdur / Author
Newydd, Dalen
Current Price ex VAT
£15.00
Current Price inc VAT
£15.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-09-27
Cyhoeddwr / Publisher
Dalen Newydd
Editor
Jones, Dafydd Glyn
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
338 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Testunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Texts (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Sefydlwyd gwasg newydd ym Mangor yn ddiweddar, Dalen Newydd, er mwyn ailgyhoeddi trysorau llên Cymru sydd allan o brint a hynny, rai ohonynt, nid ers cenhedlaeth ond ers cenedlaethau. ‘Cyfrolau Cenedl’ yw teitl y gyfres gyhoeddiadau, a’r gyntaf o’r wasg yw’r gyfrol swmpus hon, sef casgliad o gerddi Thomas Edwards ‘Twm o’r Nant’ (1739–1810), a gyhoeddwyd yn amserol i nodi dau ganmlwyddiant ei farwolaeth. Cynhwyswyd yn y gyfrol saith a phedwar ugain o gerddi, sef llai na phumed ran o waith y bardd ond digon i roi golwg i’r darllenwyr ar ddiddordebau barddol yr oes, amgylchiadau’r gymuned (wledig gan mwyaf), a meddyliau’r bardd ynghylch ei fywyd ei hun a bywyd ei gydwladwyr. Gosodwyd y cerddi dethol mewn chwe adran: cerddi a baledi a godwyd o’r anterliwtiau, cerddi cymunedol Twm o’r Nant y bardd gwlad, cerddi ar helynt y byd, cerddi cred, cerddi sy’n darlunio helyntion personol y bardd, ac i gloi ‘[d]air cerdd arbennig iawn i roi diweddglo’ (t. 15), sef dwy o gerddi’r anterliwt Pleser a Gofid , ac yna’n olaf un ‘Cywydd Hanes Henaint a Threigl Amser’. Dyma ddetholiad diddorol a chytbwys, wedi ei osod yn drefnus gymen. Rhag i neb wangalonni ac ofni’r her o ddarllen cerddi bardd lliwgar o oes a fu, a hwnnw’n un a hoffai dorri dros y tresi ar dro, mae help i’w gael. Cyflwynwyd rhagymadrodd eglur, hawdd ei dreulio, wedi ei rannu’n adrannau hylaw, ac sy’n trafod gwahanol agweddau ar y bardd a’i gyfnod. At hynny, cyflwynwyd nodiadau byr a pherthnasol ar ambell bwynt o dywyllwch yn y cerddi, a geirfa dra defnyddiol sy’n esbonio ystyr ambell air diarffordd. Nid oes esgus dros ddiystyru cerddi’r Bardd o’r Nant ragor. Er bod i bob adran ei swyn ei hun, mae i’r adran o gerddi sy’n datgan cred afael amheuthun. Mae dehongliad Twm o’r Nant o faterion crefyddol yn cydymffurfio’n agos â dehongliad diwygwyr ei oes, ac efallai fod hynny’n annisgwyl o gofio iddo fod yn ddyn garw ei foesau ar dro, a hynod anghyson ei farn. Er ei wamalrwydd mae ei garol ‘Tydi, O! Ferch Ardderchog’, carol sy’n cyfarch yr Eglwys a’i galw’n ‘oreurog Wraig yr Oen’, yn odidog. Ni cheir y garol yn llawn, ond mae’r detholiad hwn o benillion yn ddewis grymus. Dyma argraffnod cyffrous: hir y pery Dalen Newydd i atgoffa’r genedl o’i hetifeddiaeth wiw.

View full details