Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfrolau Cenedl: 2. Twm o'r Nant - Dwy Anterliwt; Cyfoeth a Thlodi a Tri Chydymaith Dyn

Cyfrolau Cenedl: 2. Twm o'r Nant - Dwy Anterliwt; Cyfoeth a Thlodi a Tri Chydymaith Dyn

Regular price £15.00 GBP
Regular price Sale price £15.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dyma ddwy anterliwt o waith Thomas Edwards (Twm o'r Nant) na chafodd sylw ers llawer blwyddyn. Golygwyd a chyhoeddwyd Cyfoeth a Thlodi gan Isaac Foulkes ym 1874, gydag ail argraffiad yn 1889. Mae'n debyg na chyhoeddwyd Tri Chydymaith Dyn ers ei hargraffiad cyntaf yn 1769.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Two anterlutes by Thomas Edwards (Twm o'r Nant) which have not seen the light of day for many years. Cyfoeth a Thlodi was edited and published by Isaac Foulkes in 1874, and reprinted in 1889. Tri Chydymaith Dyn has not been republished since the first edition of 1769.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780956651624
Gwales Code
gwales.com.9780956651624
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfrolau Cenedl: 2. Twm o'r Nant - Dwy Anterliwt; Cyfoeth a Thlodi a Tri Chydymaith Dyn
Awdur / Author
Edwards, Thomas
Current Price ex VAT
£15.00
Current Price inc VAT
£15.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2011-09-26
Cyhoeddwr / Publisher
Dalen Newydd
Editor
Roberts, Adrian C.
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
276 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Testunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Texts (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Yn ôl y broliant, ‘Amcan cyfres Cyfrolau Cenedl yw dwyn rhai clasuron coll i gyrraedd darllenwyr heddiw.’ Dyna’n union a wnaed gyda chyhoeddi’r gyfrol hon, sef dod â dwy o anterliwtiau Thomas Edwards ‘Twm o’r Nant’ (1739–1810) i olau dydd unwaith eto, a hynny yn eu crynswth. ‘Cyfoeth a Thlodi’ a ‘Tri Chydymaith Dyn’ yw’r ddau destun dan sylw, y naill anterliwt wedi’i chyhoeddi ddiwethaf gan Isaac Foulkes yn 1874 (gydag ail argraffiad yn 1889), a’r llall wedi bod yn cuddio o’n gŵydd er ei chyhoeddi gyntaf o bosibl yn 1769. Cyflwynir yma olygiad newydd o’r ddau destun, nodiadau ar y testunau hynny, ynghyd â geirfa. Yn y rhagymadrodd sy’n agor y gyfrol trafodir yn fyr iawn rediad ‘Cyfoeth a Thlodi’, ac yna gydag ychydig mwy o fanylder rediad ‘Tri Chydymaith Dyn’. Esbonnir y dull a ddewiswyd i ddiwygio’r testun, cynhwysir gair am egwyddorion atalnodi anterliwt er mwyn hwyluso ei darllen, ac yna ceir adran sy’n berthnasol i’r ddau destun lle y treulir peth amser yn trafod iaith yr anterliwtiau ac yn gresynu bod yr iaith ddengar honno bellach wedi diflannu o’r tir. Nid yw’r adran olaf hon yn gwbl foddhaol, ond eto mynegir yma nifer o bwyntiau diddorol. Dyma frawddeg i flasu: `Wrth resynu colli iaith yr anterliwt, gresynu colli iaith ystwyth a rhwydd yr ydys, iaith â gafael ei siaradwyr yn sicr ynddi, yn eirfa gyfoethog barod at fynegi meddyliau a theimladau dwys a chymhleth, digri ac ysgafn, dedwydd neu druenus, o achos ei bod hi’n gwahaniaethu rhwng cyfystyr a lled gyfystyr, a bod cyd-destun dealledig i ddefnydd y rhain, iaith gryno ddigwmpasog a ddeallai fodd ac amser y ferf yn reddfol ac a’i treiglai mor ddiymdrech â thynnu anadl i ddyn iach (er na chlywsai ei siaradwyr uniaith gynt erioed sôn am y termau hyn, wrth gwrs, mwy nag y clywodd mwyafrif gweddill ei siaradwyr heddiw amdanynt), iaith a ddeuai mor rhwydd i’w siaradwyr â chwerthin neu ddigio.' Dyma’r ail gyfrol i ymddangos dan faner Dalen Newydd, cyfrol swmpus a defnyddiol fel y gyntaf. Byddai wedi bod yn ychwanegiad hwylus i ddarpar berfformwyr pe bai alawon caneuon y ddwy anterliwt wedi eu cynnwys gyda’r testunau. Wrth i fwy o fri ddod ar lenyddiaeth werin (fel sydd i waith celf gan arlunwyr gwlad yn y dyddiau hyn), gobeithio y bydd mwy o ddiddordeb yn cael ei ddangos mewn perfformio gweithiau o’r math hwn yn y dyfodol. Mae amryw destunau ar gael yn awr, ac nid oes reswm pam na ddylai cynhyrchwyr dramâu lwyr fanteisio arnynt.

View full details