Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfrolau Cenedl: 3. Prydnawngwaith y Cymry a Gweithiau Eraill gan William Williams
Cyfrolau Cenedl: 3. Prydnawngwaith y Cymry a Gweithiau Eraill gan William Williams
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Prydnawngwaith y Cymry (1822) oedd y llyfr Cymraeg printiedig cyntaf i drafod Oes y Tywysogion fel pennod glir o hanes Cymru. Llawlyfr cryno yw hwn, yn syml ei gynllun, ond gyda theimladau cryfion ei awdur - a'i ragfarnau hefyd - yn rhoi bywyd mewn aml dudalen.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Prydnawngwaith y Cymry (1822) was the first Welsh-language book to discuss the Age of the Princes as a distinct episode in Welsh history. This is a concise book, simple in design, but in which the opinions - and prejudices - of the author give life to the pages.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780956651631
- Gwales Code
- gwales.com.9780956651631
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfrolau Cenedl: 3. Prydnawngwaith y Cymry a Gweithiau Eraill gan William Williams
- Awdur / Author
- Williams, William
- Current Price ex VAT
- £10.00
- Current Price inc VAT
- £10.00
- Availability Status (EN)
- Non-Stock Item - Ordered on request
- Availability Status (CY)
- Archebir yn ôl y galw
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2011-09-26
- Cyhoeddwr / Publisher
- Dalen Newydd
- Editor
- Jones, Dafydd Glyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 174 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Testunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Texts (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Hon yw’r drydedd gyfrol yn y gyfres Cyfrolau Cenedl sy’n ‘dwyn i olau dydd weithiau diddorol a fu un ai allan o brint neu ar goll neu yn anghofiedig.’ Eisoes cafwyd cofiant i William Williams (1738-1817) gan olygydd y gyfrol hon, Dafydd Glyn Jones, sef Un o Wŷr y Medra (Gwasg Gee, 1999), lle neilltuwyd pennod i’r gwaith hwn a welodd olau dydd gyntaf yn 1822 wedi marwolaeth yr awdur. Yn y gwaith fe drafodir Oes y Tywysogion, cyfnod y tybiai’r awdur iddo gael ei esgeuluso gan haneswyr blaenorol. Beth bynnag am gywirdeb ffeithiol a hanesyddol y gwaith, fe ysgrifennwyd yr hanes gyda brwdfrydedd ac afiaith cenedlaetholgar. Ceir adran unigol ar y gwahanol dywysogion a hynny’n gronolegol gan gynnig dyddiadau i’r ysgarmesoedd a fu rhwng y Cymry ar y naill law a’r Saeson, y Gwyddelod, a’r Daniaid ar y llaw arall. Yn anffodus nid yw’r ymrafael yn gyfyngedig i rai anghyfiaith gan fod yr ymladd yn aml rhwng y tywysogion Cymreig a’i gilydd. Ceir ambell gyfeiriad diddorol at ddigwyddiadau’r cyfnod oddi ar faes y frwydr, fel ‘haf tra gwresog, a phla erchyll’ 958, a’r pla o locustiaid a fu yn Iwerddon yn 897. Yn ogystal â’r Prydnawngwaith gwelwyd yn dda i gyhoeddi pum ysgrif gan William Williams ynghyd â phump ar hugain o gerddi o’i waith. Mae’r ysgrifau yn dadlennu cyffyrddiad yr artist geiriau. Wrth ddisgrifio’r misoedd, er enghraifft, mae’n eu cyffelybu i blentyn ar ei dyfiant, ‘Ionawr. Sydd fel baban ar arffed, heb na gwres na nerth, na moddion i sirioli nac i gynnal y creadur.’ Ymhlith y cerddi ceir canu telynegol, baledol ei naws, rhai englynion a darnau eraill ar y mesur Tri Thrawiad. O ran testun mae’r cerddi yn nodweddiadol o’r ddeunawfed ganrif yn sôn am Galan Mai a blwyddyn newydd, am Giwpid a Brenhines Ffrainc. Rhaid diolch i Dafydd Glyn Jones am olygu’r gwaith hwn gyda graen, ac am ein hailgyflwyno i weithiau bywiog a lliwgar William Williams, Llandygái. Mae’r golygydd i’w ganmol hefyd am ei fenter yn sefydlu Dalen Newydd er mwyn ein cyflwyno i lawer o olud llenyddol ein gorffennol.
Share
