Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfrolau Cenedl: 4. Emrys Ap Iwan - Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys
Cyfrolau Cenedl: 4. Emrys Ap Iwan - Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mewn breuddwyd yn nechrau'r 1890au cafodd 'Pabydd' y chwedl hon olwg ar Gymru 2012. Cymru yw hi wedi ennill ymreolaeth ac wedi colli ei chrefydd Brotestannaidd. Dyfais Emrys ap Iwan yw newid golygwedd neu berspectif, fel bod Cymry ei oes yn eu gweld eu hunain o'r newydd ac yn gofyn cwestiynau amdanynt eu hunain.
Disgrifiad Saesneg / English Description
In a dream at the beginning of the 1890s, the 'Pabydd' in this tale had a vision of the Wales of 2012. It is a Wales that has achievedindependence and has lost her Protestant religion. Emrys ap Iwan changes perspective as a device which encouraged Welsh people of his time to see themselves in a new light, and to ask questions about themselves.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780956651648
- Gwales Code
- gwales.com.9780956651648
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfrolau Cenedl: 4. Emrys Ap Iwan - Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys
- Awdur / Author
- Iwan, Emrys ap
- Current Price ex VAT
- £8.00
- Current Price inc VAT
- £8.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2011-09-26
- Cyhoeddwr / Publisher
- Dalen Newydd
- Editor
- Jones, Dafydd Glyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 86 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Testunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Texts (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Cyhoeddir yr adargraffiad deniadol hwn o Breuddwyd Pabydd Emrys ap Iwan i nodi’r union flwyddyn, sef 2012, erbyn yr hon y rhagwelai y byddai Cymru wedi ennill ei hunanlywodraeth ond wedi colli ei chrefydd. Ynddi mae’r awdur yn arfer dyfais y proffwyd i rybuddio a cheryddu ei enwad ei hun am fradychu’r Gymraeg drwy sefydlu achosion Saesneg diangen. Trwyddi hefyd mae’n cymryd arno swydd y daroganwr i addo gwaredigaeth ddychmygus gyda dychweliad Cymru at yr ‘arall’ Pabyddol, cynnil elyn Protestaniaeth a Phrydain erioed, rhagolwg y gwyddai, felly, fyddai’n corddi ei wrthwynebwyr yn fwy nag anad dim arall. Drwy gymeriadau’r ‘Tad Morgan’ a’r ‘darlithydd’ fe leisia Iwan apologia ffraeth a deallus dros rinweddau Catholigiaeth, megis ei rôl gyfannol, ond y mae’n cadw ei brif sylwebaeth ar gyfer ei adain grefyddol ef ei hun. Mewn truth o ddychan deifiol fe â ati i feio Protestaniaeth am bob aflwydd sydd, bron. Anghyson a rhagrithiol fu ei harweinwyr erioed, ac anwybodaeth y werin o resymeg a hanes oedd i gyfrif am ei pharhad. Llysenwir yn ddoniol rai o’r prif actorion, ac yn brawf o’i ddawn lenyddol ceir disgrifiadau llawn hiwmor du o'r rhyfeloedd crefyddol, wrth iddo restru erchyllterau’r gwahanol bleidiau, a pha mor unllygeidiog y buont wedyn yn eu dehongliad o hanes. Canmolir gwreiddiau gwerinol ymneilltuaeth ond gwelir rhyddfrydiaeth ddiwinyddol ar gynnydd eglur o’i mewn, dirywiad sy'n arwain yn y diwedd at ddiffyg sylwedd a chonsýrn cymdeithasol yn unig. Eto, mae’r awdur yn feirniadol o grefydd emosiynol ac anffurfiol, â'i barn aneglur ar safle merched. Awgryma'n gellweirus fod eu statws newydd o fewn y cylchoedd hynny yn eu troi'n wrywaidd eu natur, gan beri yn wir i ambell un dyfu barf! Dadansoddir yn fwy difrifol pan awgryma fod sefydlu o’r newydd yn arwain yn ddi-feth at sefydliadaeth a hynny yn ei dro at falchder, hunanfoddhad, ac, yn achos y Methodistiaid Calfinaidd, at daeogrwydd o’r radd waethaf. Cweryl Iwan â hyrwyddwyr yr 'Inglish Côs' yw’r ysgogiad gwaelodol. Mae’n gweld cryfder Protestaniaeth, sef ‘hawl pob dyn i farnu drosto’i hun’. Ond dyma'n awr yr union hawl a nacawyd iddo ef yn sgil y disgyblu a’r sensro fu arno am iddo feiddio mynegi ei wrthwynebiad. Roedd yr anoddefgarwch a brofasai yn gwadu'r egwyddor greiddiol ac yn groes i lif ymryddhaol meddylfryd y ganrif. Roedd Anghydffurfiaeth bellach yn gorthrymu â’r un gorthrwm ag yr oedd wedi ymryddhau oddi wrtho, ac felly ni haeddai well na’i dychwel at gyfundrefn y byddai cynulleidfa Iwan wedi synio amdani fel yr un fwyaf gormesol ohonynt i gyd. Aethai swyddogion yr Hen Gorff yn gymaint o fwlis â’r Pabau yn y dehongliad caricatur cyffredin ohonynt yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. A yw’r ddyfais yn llwyddo? Serch yr elfennau o densiwn a geir wrth geisio seinio rhybudd a gobaith yn gyfochrog, mae’r dechneg ar y cyfan yn gweithio’n dda. Yn amlwg, ni welwyd dychweliad at Babyddiaeth, ond a yw’r awdur, felly, ar fai am y methiant dybryd hwnnw? Byddai ei wireddu wedi bod yn ffansїol o’r cychwyn ond cymaint mwy felly yn dilyn y cynnydd aruthrol mewn seciwlariaeth na allai Iwan fod wedi’i rag-weld – ynteu a ydoedd? Dylid cofio eto, medd golygydd y gyfrol, mai ‘breuddwyd cenedlaetholwr’ yw’r darn yn y bôn ac felly nad yw’r methiant i wireddu’r llall yn tynnu cymaint oddi wrtho ag y tybiwn. O ran tynged Anghydffurfiaeth, mae’n anodd meddwl nad oedd Iwan wedi gweld yr ysgrifen ar y mur gan mor ysgytwol o agos ati ydyw wrth ragfynegi cyflymder y dirywiad. Llai argyhoeddiadol, fodd bynnag, yw’r dystiolaeth i gadarnhau’r rhan arall o’i ddadl, sef mai Seisnigeiddio fyddai un o’r prif resymau dros hynny. Yn wleidyddol, er bod dehongliad yr awdur o genedligrwydd yn tueddu at hanfodaeth, ‘gwelwn’, meddai'r golygydd, ‘mai ef a ddug ynghyd am y tro cyntaf y cwlwm o themâu a ddiffiniodd genedlaetholdeb Cymreig modern’. Yn fwyaf trawiadol, wrth gwrs, fe sicrhawyd ‘Ymreolaeth’ – term a fathwyd gan Iwan ei hun. Amlinellir darlun sy’n ymddangosiadol fwy gobeithiol am y Gymraeg nag eiddo Saunders Lewis, a ofnai y ceid hunanlywodraeth ar ei thraul. Ond gan na wireddwyd gwedd optimistaidd y breuddwyd mae anogaethau Iwan, meddir, mor berthnasol ag erioed. Olrheinir ymlediad yr iaith Saesneg mewn Cymru a ddylai barhau, felly, i bledio’r Gymraeg fel bathodyn gwahaniaeth ffurfiannol hollbwysig. Yr iaith honno, medd Iwan, mewn geiriau a adleisiwyd yn ddiweddarach gan J. R. Jones, a’n gwna yn ‘bobl briodol’. A gogyfer â’i hamddiffyn wele’r ‘Cyfamodwyr’, carfan ymroddedig sy’n ei hadfywio drwy ‘ymgadw rhag ... un bil’ a ‘thynnu i lawr pob ystyllen ag arni enw Seisnig’. Yn ehangach hefyd rhagwelir ganddo dwf cenedlaetholdeb a maint cyflafan ‘armageddon y cenhedloedd’ rhwng y ‘Saeson a’r Prwsiaid’, a hyd yn oed leoliad maes y gad yng ngwlad Belg. Sonnir am ymrafael cynyddol rhwng gwahanol ddosbarthiadau, ond yn y naratif o leiaf mae ei Gatholigrwydd yn ei gadw’n fwy o geidwadwr nag o sosialydd. Mae'n proffwydo twf y dimensiynau Celtaidd ac Ewropeaidd, gyda’r arfer o deithio tramor, fel y gwnaeth ef ei hun, yn fodd o ddatganoli ymhellach ddylanwad Lloegr ar y bydolwg Cymreig. Os, felly, y’ch temtir i beidio estyn at y gyfrol hon, gan gredu mai llyfr llychlyd Fictoraidd gan weinidog ydyw – meddyliwch eto. Oherwydd dyma gyfrol a rydd wên ar eich wyneb ac a wna i chi feddwl eto ynglŷn â sut y daethom i’r Gymru sydd ohoni heddiw.
Share
