Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfrolau Cenedl: 5. Beirniadaeth John Morris-Jones
Cyfrolau Cenedl: 5. Beirniadaeth John Morris-Jones
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Detholiad o weithiau beirniadol y gramadegydd John Morris-Jones, yn cynnwys deg o'i feirniadaethau ar gystadleuaeth yr awdl yn yr Eisteddfod Genedlaethol, rhagymadrodd ei argraffiad o'r Bardd Cwsc (1898), ei gasgliadau am Orsedd y Beirdd (1911), ei ysgrif yn trafod natur barddoniaeth, 'Swydd y Bardd' (1902) ac adran agoriadol ei gyfrol ar y cynganeddion Cerdd Dafod .
Disgrifiad Saesneg / English Description
Selected critiques of John Morris-Jones, comprising ten National Eisteddfod chair competition adjudications, the introduction to his edition of Bardd Cwsc (1898), his conclusions on the Gorsedd of Bards (1911), his essay on the nature of poetry, 'Swydd y Bardd' (1902) and the opening section of his volume on Welsh strict-metre poetry Cerdd Dafod (1925).
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780956651655
- Gwales Code
- gwales.com.9780956651655
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfrolau Cenedl: 5. Beirniadaeth John Morris-Jones
- Awdur / Author
- Newydd, Dalen
- Current Price ex VAT
- £15.00
- Current Price inc VAT
- £15.00
- Availability Status (EN)
- Non-Stock Item - Ordered on request
- Availability Status (CY)
- Archebir yn ôl y galw
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2012-09-26
- Cyhoeddwr / Publisher
- Dalen Newydd
- Editor
- Jones, Dafydd Glyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 408 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Astudiaethau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Bydd llawer academydd yn ymddeol er mwyn rhoi ei draed i orffwys, ond nid felly Dafydd Glyn Jones, sydd, os rhywbeth, yn fwy cynhyrchiol wedi ei ymddeoliad nag ydoedd cyn hynny (er gwaethaf ei waith mawr ar Eiriadur yr Academi, wrth gwrs). Gyda Phrifysgol Cymru a’i gwasg mewn tipyn o lanast, penderfynodd gychwyn gwasg newydd ar ei liwt ei hun, sef Dalen Newydd, ac eisoes ymddangosodd chwe chyfrol yn y gyfres ‘Cyfrolau Cenedl’ – ac mae llawer mwy o rai eraill ar y gweill. Nid anelu at gyhoeddi gweithiau ‘poblogaidd’ a wneir, wrth gwrs, ond dwyn i olau dydd weithiau a aeth yn anodd iawn cael gafael arnynt. Dylai pob myfyriwr Cymraeg gwerth ei halen gael yr holl gyfrolau ar ei silff. Am y gyfrol bresennol, mae hi gyda’r ddifyrraf o’r holl ddeunydd. Ceir ynddi ddeg o feirniadaethau John Morris-Jones ar yr awdl yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a detholion o nifer o rai eraill. Atgynhyrchir y rhagymadrodd i Y Bardd Cwsc , rhan o Cerdd Dafod , yr erthyglau ar ‘Swydd y Bardd’ a ‘Derwyddiaeth Gorsedd y Beirdd’, ynghyd â detholion o erthyglau eraill. Lawn cyn ddifyrred â gwaith John Morris-Jones ei hun yw rhagymadrodd meistraidd y golygydd, lle dywed bethau megis ‘Syr John Morris-Jones yw’r beirniad llenyddol Cymraeg mwyaf ei ddylanwad a’i awdurdod erioed’ ac ‘mai trwy’r Eisteddfod, yn bennaf oll, yr arferodd ef yr awdudod a’r dylanwad hwn’. Serch hynny, nid yw’n anfeirniadol o bell ffordd, ac y mae’n caniatáu i sylwadau beirniadol Prosser Rhys beth gwirionedd. Yn wir, doniol yw ystyried i John Morris-Jones gyhoeddi ‘Madog’ T. Gwynn Jones yn ei gylchgrawn Y Beirniad , am nad oedd, o bosib, wedi gweld ei hergyd heddychol. Gwaith diddiolch – a dielw, yn sicr – yw cynnal gwasg academaidd yn yr hinsawdd sydd ohoni, ond rhaid dweud bod cyfrolau Dalen Newydd yn plesio’r deall a’r llygad fel ei gilydd.
Share
