Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfrolau Cenedl: 7. Dramâu W. J. Gruffydd

Cyfrolau Cenedl: 7. Dramâu W. J. Gruffydd

Regular price £8.00 GBP
Regular price Sale price £8.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Golygiad newydd gan Dafydd Glyn Jones o ddwy o ddramâu W. J. Gruffydd. Ar ei chanmlwyddiant eleni, 'Beddau'r Proffwydi' - y fwyaf nodedig o'r 'hen ddramâu'? Barned darllenwyr heddiw. Hefyd, 'Dyrchafiad Arall i Gymro' - perthnasol bob amser.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A volume comprising two plays by W. J. Gruffydd: 'Beddau'r Proffwydi' portraying intellectual fickleness, and which claims to be the first play in the Welsh language performed in a theatre, and 'Dyrchafiad Arall i Gymro' portraying tension between self-interest and principle.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780956651693
Gwales Code
gwales.com.9780956651693
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfrolau Cenedl: 7. Dramâu W. J. Gruffydd
Awdur / Author
Gruffydd, W. J.
Current Price ex VAT
£8.00
Current Price inc VAT
£8.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-05-06
Cyhoeddwr / Publisher
Dalen Newydd
Editor
Jones, Dafydd Glyn
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
120 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Dramâu, Sgetsys, Pantomeimiau (yn Gymraeg) | EN: Plays, Sketches, Pantomimes (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Dramâu (yn Gymraeg) | EN: Plays (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Pan gyhoeddwyd Beddau’r Proffwydi (1913) a Dyrchafiad Arall i Gymro (1914) gyntaf, mewn print stremplyd ar bapur trwchus, edrychid arnynt fel pethau go beryglus a heriol. Ar eu newydd wedd yma, rhwng cloriau sgleiniog, diau y’u gwelir yn ddigon dof – ond nid ydynt yn llai diddorol nac arwyddocaol o’r herwydd. Enghreifftiau sydd yma (a’r enghreifftiau mwyaf cymen, gellid dadlau) o ffenomen degawdau agoriadol yr ugeinfed ganrif, sef ‘drama’r gegin Gymreig’. Ni ddylem gael ein camarwain gan eu naturoliaeth ymddangosiadol. Nid dramâu domestig ydynt ond i’r graddau nad oes ynddynt elfennau melodramatig stroclyd megis cyd-ddigwyddiad na chamadnabod na darganfyddiadau annhebygol nac iaith ddyrchafedig. Yn y bôn, nid darlunio darn o fywyd yw eu hamcan ond creu cefndir niwtral a hawdd ei lwyfannu er mwyn mynd i’r afael â’r un ddilema o hyd: y ffin rhwng parchusrwydd cymdeithasol a chydwybod, gan roi prawf yn y broses ar hawl crefydd, magwraeth, ac egwyddorion gwleidyddol i fynnu awdurdod a theyrngarwch. Saif arwyr Gruffydd mewn olyniaeth. Dyna Dai, yn Barn y Brodyr (1914) T. R. Evans, sy’n arwain streic yn y pwll glo a chyhoeddi ei agnosticiaeth, gan ddwyn gwarth ar ei fam a cholli ei ddyweddi yn y fargen. Y gweinidog Mr Harris, yn Ar y Groesffordd (1914) R. G. Berry, sydd am briodi merch y potsiar lleol. Guto, agnostig arall o goliar wedi marw mewn damwain, yn Ble Ma’ Fa? (1913) D. T. Davies, y mae ei weddw’n holi am hynt ei enaid. Wrth ddarllen storïau Emrys Williams ac Ifan Morris, felly, cofier nad Gruffydd a’u creodd ond mudiad yn ei anterth mewn festrïoedd capeli a neuaddau pentref ledled Cymru, yn diwallu angen cynulleidfaoedd am ystyried eu hunaniaeth. Hawdd gwenu’n nawddoglyd arnynt ond, fel y’n hatgoffir yn rhagymadrodd campus Dafydd Glyn Jones, ‘ffenomen gymdeithasol, ddiwylliannol sydd yma, cyfrwng dealltwriaeth cenedl ohoni ei hun, ac mewn rhyw ystyr un o gyfryngau ei pharhad hefyd’.

View full details