Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfrolau Cenedl: 8. Eira Llynedd ac Ysgrifau Eraill

Cyfrolau Cenedl: 8. Eira Llynedd ac Ysgrifau Eraill

Regular price £15.00 GBP
Regular price Sale price £15.00 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dyma ddetholiad newydd o blith cynnyrch rhyddiaith toreithiog yr Athro W. J. Gruffydd. Yn ogystal â bod yn fardd, ysgolhaig a golygydd, yr oedd Gruffydd hefyd yn 'feirniad diwylliant' mewn ystyr eang, yn bwrw'i olygon dros lenyddiaeth, bywyd cymdeithasol, gwleidyddiaeth a chrefydd gan weld y pethau hyn oll yn eu perthynas â'i gilydd; ac wrth fwrw'i lygad, bwrw'i fol hefyd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A new selection of the prose works of prolific writer Professor W. J. Gruffydd. As well as being a renowned poet, scholar and editor he was also a culture critic in the widest sense casting a critical eye on the interaction between literature, social life, politics and religion in Wales and at times reflecting his strong personal opinion.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780957560901
Gwales Code
gwales.com.9780957560901
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfrolau Cenedl: 8. Eira Llynedd ac Ysgrifau Eraill
Awdur / Author
Gruffydd, W. J.
Current Price ex VAT
£15.00
Current Price inc VAT
£15.00
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-09-30
Cyhoeddwr / Publisher
Dalen Newydd
Editor
Jones, Dafydd Glyn
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
302 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Testunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Texts (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae’r gyfres hon yn mynd o nerth i nerth bellach, a’r ddwy gyfrol ddiweddaraf yn cynnwys gwaith W. J. Gruffydd, sef ei ddwy ddrama, Beddau’r Proffwydi a Dyrchafiad Arall i Gymro yng nghyfrol 7, a’r ysgrifau hyn yng nghyfrol 8, a gellir prynu’r ddwy gyfrol gyda’i gilydd am bris gostyngol o £20 – pris hynod o resymol, ddywedwn i. Gwir fod gennym eisoes gyfrol Bobi Jones, Yr Hen Ganrif: Beirniadaeth Lenyddol W. J. Gruffydd , a gweithiau T. Robin Chapman, Nodiadau’r Golygydd W. J. Gruffydd , a’i gofiant meistraidd yn y gyfres Dawn Dweud, eto roedd yn hen bryd cael ei weithiau theatraidd mewn print ynghyd a’r casgliad newydd hwn o’i ysgrifau, a ’W J Gruffydd yn ei dweud hi eto!’ fel y dywed y golygydd wrth gyflwyno’r ddwy gyfrol. Hawdd fyddai oedi mewn adolygiad byr fel hwn gyda sylwadau treiddgar Dafydd Glyn Jones yn ei Ragymadrodd. Hyfryd yw’r cyffyrddiadau personol sy’n hydreiddio’r rhan honno o'r gyfrol, a theimlwn ei fod yn rhoi’i fys ar býls W. J. Gruffydd yn gyson, fel yn ei werthfawrogiad o’i gyfraniad unigryw, a’i amheuon hefyd a ellid ei gymryd yn hollol o ddifri, er gwaetha'i ddifrifwch mawr ef ei hun, a’i ymdeimlad diamheuol o fawredd ei gyfraniad a diffuantrwydd ei osgo. Diau i enw W. J. Gruffydd fynd dan gwmwl oherwydd iddo ddweud y byddai’n sefyll fel ymgeisydd annibynnol am sedd y Brifysgol yn 1943, ac yna sefyll dan faner y Rhyddfrydwyr, ac ennill y sedd yn erbyn Saunders Lewis. SL oedd arwr y lleiafrif o genedlaetholwyr wedi hynny, a WJ dan lach am ei dandinrwydd. Eto, a bod yn hollol deg, yr oedd llawer o syniadau WJ yn cynrychioli barn y mwyafrif yng Nghymru, ac er bod SL yn ddisgleiriach meddyliwr nag ef, fel y dengys ei ‘Lythyr ynghylch Catholigiaeth’ yn Y Llenor , ac ateb hirwyntog WJ iddo (atgynhyrchir y ddau yn y gyfrol hon), diau mai barn y golygydd a gynrychiolai farn mwyafrif ei ddarllenwyr ar y pryd, ac wedi hynny. ‘Beirniad diwylliant’ oedd disgrifiad D. Tecwyn Lloyd o WJ, a diau bod hwnnw’n well disgrifiad ohono na ‘beirniad llenyddol’. Mae’r gyfrol hon yn gyforiog o’i sylwadau ar grefydd, hanes a llenyddiaeth, ac yn arddangos ei gred ddiymwad mai ef oedd yn iawn ar bopeth, er nad gwir mo hynny o bell ffordd. Ond yr oedd yn iawn (wrth gwrs!) yn ei gondemniad diflewyn-ar-dafod ar waith Timothy Lewis, er nad oedd yn iawn yn ei gondemniad ar bryddest ‘Y Creadur’ gan Harri Gwynn. ‘Lle heno eira llynedd?’ oedd cwestiwn Villon ganrifoedd yn ȏl, a diau bod WJ yn ‘eira llynedd’ i lawer erbyn hyn, a chymwynas oedd dod ȃ pheth o’i waith i olau dydd unwaith eto er mwyn inni gael ei ailasesu o’r newydd a sylweddoli bod ei gyfraniad yn arbennig ac unigryw iawn.

View full details