Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cymru a'r Môr - Deg Mil o Flynyddoedd o Hanes y Môr — 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr

Cymru a'r Môr - Deg Mil o Flynyddoedd o Hanes y Môr — 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr

Regular price £24.99 GBP
Regular price Sale price £24.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfrol uchelgeisiol, ddeniadol, llawn lliw sy'n cyflwyno holl hanes morwrol Cymru dros ddeng mil o flynyddoedd, gyda channoedd o luniau.

Disgrifiad Saesneg / English Description

An ambitious, attractive, colourful volume presenting the complete story of Welsh nautical history over 10,000 years, with hundreds of images.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784615635
Gwales Code
gwales.com.9781784615635
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cymru a'r Môr - Deg Mil o Flynyddoedd o Hanes y Môr — 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr
Sub Title
10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr
Awdur / Author
Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion
Current Price ex VAT
£24.99
Current Price inc VAT
£24.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-10-01
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Editor
Redknap, Mark; Rees, Sian; Aberg, Alan
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
352 pages
Size
240 × 270 mm; depth 28 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Diddordebau, Chwaraeon, Hamdden, Coginio (yn Gymraeg) | EN: Sport, Hobbies, Leisure, Cookery (in Welsh)

Cynnwys / Table of Contents

Cynnwys: Rhagair gan y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Elis-Thomas, PC, AC, y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru Rhagymadrodd: Pobl a’r môr: etifeddiaeth i bawb Sian Rees a Mark Redknap Adran 1: Moroedd i ysbrydoli ac i’w hofni Pennod 1: Y môr mewn celfyddyd, cân a llên - Sian Rees 1.1 Mordwyo yn chwedlau’r Oesoedd Canol - Mark Redknap 1.2 Beirdd canoloesol ar y môr - Mark Redknap 1.3 Cerfio a chrafu llongau - Mark Redknap 1.4 Delweddaeth weledol - Peter Wakelin 1.5 Cofroddion llongwyr - Mark Redknap 1.6 Arloeswyr ffotograffiaeth a ffilm - Mark Redknap 1.7 Caneuon y môr - David Jenkins 1.8 Celfyddyd Francis Place - Mark Redknap Pennod 2: I’r rhai sydd mewn perygl: llywio a diogelwch - David Jenkins 2.1 Medalau am ddewrder - Edward Besly 2.2 Gwell na’r lleill: cwch y peilot - Daryl Leeworthy a Deanna Groom 2.3 ‘A dyma ragolygon y tywydd i longau…’ - Deanna Groom 2.4 Mesur, marcio a chadw amser - Mark Redknap 2.5 Arwyddion môr, goleufeydd a goleudai - Mark Redknap 2.6 Cartref teilwng i fad achub - Sue Fielding Pennod 3: Y môr yn codi ac yn disgyn - J R L Allen a Martin Bell 3.1 Palaeodirweddau arfordir y Gorllewin - Vince Gaffney a Simon Fitch 3.2 Esblygiad Afon Menai - Mike Roberts 3.3 Molwsgiaid, tomenni sbwriel a physgota - Martin Bell 3.4 Disgrifio nodweddion morweddau - Deanna Groom 3.5 Llifogydd Cymru - Mark Lewis Adran 2: Hanes ar y môr Pennod 4: Cychod cynhanesyddol a Rhufeinig - Seán McGrail 4.1 Cwch euraid Caergwrle - Mark Redknap 4.2 Cil-y-coed ac Allteuryn - Nigel Nayling 4.3 Llongau ar ddarnau bath yng nghelc Rogiet - Edward Besly 4.4 Rhoi ffydd mewn cymorth dwyfol - Evan Chapman 4.5 Cwch Barland's Farm - Nigel Nayling Pennod 5: Goresgyniad y Rhufeiniaid a masnachu - Mark Redknap 5.1 Cyfleusterau’r porthladd yng Nghaerllion - Peter Guest 5.2 Amddiffynfeydd arfordirol y cyfnod Rhufeinig diweddar - Mark Redknap 5.3 Masnach a chludiant yn oes y Rhufeiniaid - Mark Lewis Pennod 6: Cysylltiadau yn yr Oesoedd Canol cynnar - Mark Redknap 6.1 Ffynonellau dogfennol ynghylch mordwyo yn yr Oesoedd Canol cynnar - Jonathan Wooding 6.2 Enwau o Lychlyn ar hyd yr arfordir - Mark Redknap 6.3 Brwydr Afon Menai - Spencer Smith 6.4 Llongddrylliad ar y Smalls - Mark Redknap Pennod 7: Yr Oesoedd Canol - Mark Redknap 7.1 Doc canoloesol Castell Biwmares - Mark Redknap 7.2 Castell Rhuddlan a chamlesu Afon Clwyd - Sian Rees 7.3 Y Fflint: cadarnle ar y glannau sydd wedi troi’n ganolfan diwydiant - Sian Rees 7.4 Porthladdoedd a harbwrs y de-orllewin - Sian Rees 7.5 Dwy long a’u tynged - Mark Redknap Pennod 8: O gyryglau i garacau - Mark Redknap 8.1 Llong Magor Pill: llong gyffredin o’r Oesoedd Canol - Mark Redknap 8.2 Llong Casnewydd - Nigel Nayling 8.3 Llechi yn y môr - Cecil D Jones 8.4 Llongau ar seliau - Mark Redknap 8.5 Llongau a chrefydd - Mark Redknap 8.6 Gwn llaw Enlli - Mark Redknap Pennod 9: Cymru a’r Môr yn Oes y Tuduriaid - J D Davies 9.1 Llyfrau’r porthladdoedd a masnach - Mark Redknap 9.2 Delweddau o longau Oes y Tuduriaid - Mark Redknap 9.3 Tŷ masnachwr yn Oes y Tuduriaid - Gerallt D Nash Pennod 10: Llongau masnach yn yr oes fodern - David Jenkins 10.1 Canolfannau adeiladu llongau yng Nghymru - David Jenkins 10.2 Masnach y glannau - Colin Green 10.3 Cwch cyffredin – y ‘trow’ - Colin Green 10.4 ‘Ysgraff Mersi’ a masnach glannau’r gogledd - Mike Stammers 10.5 ‘Cynifer o bysgod ag y gwelodd Duw’n dda eu hanfon’ - Nikki Vousden a Deanna Groom 10.6 ‘Ystyriwch gaethwasiaeth’ - Deanna Groom 10.7 Llongddrylliad y ‘Bronze Bell’ - Sian Rees 10.8 Y llongau wnaeth doi’r byd - David Gwyn a Deanna Groom 10.9 Cychod Llynnoedd Padarn a Pheris - Mark Redknap 10.10 Masnach galch Sir Benfro - Deanna Groom 10.11 Odynau calch yr arfordir - C. Stephen Briggs 10.12 Perchnogion llongau a chyfranddalwyr lleol - Deanna Groom 10.13 Llongau o America yn nyfroedd Cymru - Ian Cundy a Deanna Groom 10.14 Y fasnach lo - Graham Scott, Niall Callan a Deanna Groom 10.15 Llwytho glo o gychod y gamlas i longau’r cefnfor - Heather James 10.16 Sarah a Primrose - Sian Rees 10.17 Ffatrïoedd tywod - Deanna Groom 10.18 Balast - Mark Redknap a Jana Horák 10.19 Llongau cebl - Deanna Groom Adran 3: Ffenestri ar y gorffennol Pennod 11: Apêl y môr - Deanna Groom 11.1 Yr iot frenhinol Mary - Sian Rees 11.2 Â’u bryd ar ymbleseru... - Deanna Groom 11.3 Gwasanaethau ‘packet’, llongau pleser a gwasanaethau fferi - David Jenkins 11.4 Y Kathleen & May - Colin Green 11.5 Y Rhuban Glas - Deanna Groom 11.6 A. M. Dickie a’i Feibion - Deanna Groom 11.7 Potsian mewn cychod - Deanna Groom Pennod 12: Amddiffyn arfordir Cymru - Stephen Hughes 12.1 Goresgyniad olaf yr Ynysoedd Prydeinig Isles - Heather James 12.2 Ysbail o fuddugoliaethau: canonau Napoleonaidd sydd yng Nghymru - Mark Redknap 12.3 Iard Longau Penfro: menter fawr - Lawrie Phillips 12.4 Robert Seppings ac HMS Conway - Deanna Groom 12.5 Y gogoniant a fu: llongau hyfforddi - Mark Redknap 12.6 HMS Hamadryad - David Jenkins 12.7 Y llong danfor Resurgam - Peter Holt 12.8 Llong danfor yr H5 - Sian Rees 12.9 Saunders-Roe, Biwmares - Medwyn Parry 12.10 Sunderland T9044: goroesiad unigryw - David Pring 12.11 Y ‘Lightning’ ger Harlech - Sian Rees 12.12 Gwasanaeth Patrôl y Llynges Frenhinol - Deanna Groom 12.13 Concrid yn arnofio - Deanna Groom 12.14 Rhyfela heddiw - Sian Rees Pennod 13: Llongau fel microcosmau - Alan Aberg 13.1 Tipyn o hwyl gan forwr o Rufeiniwr? - Evan Chapman 13.2 Marciau seiri Llong Casnewydd - Toby Jones 13.3 Bwyd ar longau - Mark Redknap 13.4 Arfau ar longau - Mark Redknap 13.5 Yr Ann Francis - Mark Redknap 13.6 Darganfyddiadau o’r iot frenhinol Mary - Sian Rees 13.7 Bywyd ar fwrdd y ‘Bronze Bell’ - Sian Rees 13.8 Y Royal Charter - Sian Rees Adran 4: Disgyblaeth berthnasol Pennod 14: Dyfodol i’n gorffennol tanddwr - Sian Rees 14.1 Cofnod archaeolegol arforol Cymru - Deanna Groom a Serena Cant 14.2 Enwi llongau - Deanna Groom 14.3 Llongau hanesyddol sy’n dal ar y dðr - M Heighton 14.4 Môr-awyrennau gwych - Deanna Groom a Graham Scott 14.5 Technegau cofnodi - Deanna Groom 14.6 Golwg o’r awyr - Toby Driver 14.7 Newid hinsawdd - Tom Pert 14.8 Llongddrylliadau rhynglanwol ym Mae Abertawe - Nigel Nayling 14.9 Modelu llong Casnewydd - Toby Jones 14.10 Achub corff cwch Magor Pill - Mark Redknap 14.11 Dogfennu coredau - N V C Bannerman 14.12 Ynni adnewyddol - Sian Rees 14.13 Treillio am dywod a graean - Sian Rees 14.14 Adfywio’r glannau: yr Alice a’r City of Ottawa - Fiona Gale 14.15 Erydiad y glannau - Sian Rees Pennod 15: Y dreftadaeth arforol a’r gyfraith - Mike Williams 15.1 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir - Sian Rees 15.2 Llongau ac awyrennau sy’n eiddo i’r wladwriaeth - Mike Williams 15.3 Cyfraith achub - Mike Williams 15.4 Yr Ann Francis: y llongddrylliad a’r hyn a ddigwyddodd wedyn - Mark Redknap 15.5 Tywod sy’n traflyncu: llongddrylliad y Dollar - Mark Redknap 15.6 Smyglwyr, llongddryllwyr a môr-ladron - Sian Rees Pennod 16: Amgueddfeydd: mynediad i bawb - Mark Redknap a David Jenkins 16.1 Y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol - Mark Beattie Edwards ac Ian Cundy 16.2 Archifau’n ffynonellau ymchwil - Lyn Francis 16.3 Modelau ac atgynyrchiadau - Mark Redknap Geirfa Nodiadau Llyfryddiaeth Cyfranwyr Diolchiadau Mynegai

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae darganfyddiadau archaeolegol yng Nghymru – gan gynnwys cychod o’r Oes Efydd, llongau Rhufeinig a’u llwythi, llong ganoloesol Casnewydd a’r iot frenhinol ‘Mary’ o’r ail ganrif ar bymtheg – yn tystio i hanes maith Cymru fel cenedl forwrol. Mae Cymru a’r Môr , a luniwyd gan rai o haneswyr ac archaeolegwyr mwyaf blaenllaw Cymru, yn ein hatgoffa ni o’r dreftadaeth forol hir a hynod bwysig honno. Yn y llyfr, sy’n gyforiog o luniau, cewch yr hanes o’r cyfnod cynhanesyddol, oes y Rhufeiniaid a’r Oesoedd Canol ymlaen i gyfnodau diweddarach. Drwy ddangos mapiau o’r glannau, peintiadau o longau, morweddau, barddoniaeth, caneuon a swfeniriau poblogaidd o lan y môr, mae’n cyfleu effaith y môr ar y dychymyg artistig. Mae’r lluniau archifol o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn cyfleu’n fyw oes llongau mawr y cefnfor, y llongau a fu wrthi’n gosod ceblau i gysylltu Cymru â gweddill y byd, y llongau pleser, yr iotiau rasio a’r pierau glan-môr yn ogystal â’r dociau prysur a gyflenwai lechi, glo, haearn a dur i’r byd. Yn Cymru a’r Môr cewch ddisgrifiadau cynhwysfawr a difyr sydd wedi’u gwreiddio yn yr ysgolheictod diweddaraf, a storïau a lluniau o bob math i’n hatgoffa ni o gyfraniad allweddol bwysig y môr i gymeriad unigryw’n hanes ni fel cenedl.

View full details