Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cymru Fydd

Cymru Fydd

Regular price £12.99 GBP
Regular price Sale price £12.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cymru 2090. Gwlad annibynnol. Gwlad lewyrchus. Gwlad sofran rymus sydd wedi hawlio ei lle ar lwyfan y byd ers 2049. Ond pwy sydd yn rheoli? Ac a yw byw yn y wlad hon yn fêl ar fysedd pawb? I Koi a'i ffrindiau, mae'n hunllef. Daw Koi i ddeall yn gynnar iawn mai gwarth o beth ydi byw yn ddifater.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Wales 2090. An independent, thriving, powerful country that has claimed its place in world affairs since 2049. But who really governs in paradise? For Koi and his friends, living here is a nightmare, and from a young age he learns that apathy is a dishonour.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781739097509
Gwales Code
gwales.com.9781739097509
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cymru Fydd
Awdur / Author
Roberts, Wiliam Owen
Current Price ex VAT
£12.99
Current Price inc VAT
£12.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2022-11-08
Cyhoeddwr / Publisher
O'r Pedwar Gwynt
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
432 pages
Size
130 × 197 mm; depth 18 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — FSC C013056

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Wiliam Owen Roberts (1960-) yn byw yng Nghaerdydd ac yn awdur chwe nofel: Bingo! (1985), Y Pla (1987), Paradwys (2001), Petrograd (2008), Paris (2013) a Cymru Fydd (2022), yn ogystal â chyfrol o straeon byrion, Hunangofiant (1990). Mae hefyd wedi ysgrifennu cryn dipyn ar gyfer y llwyfan, y radio a’r teledu. Cyfieithwyd ei nofelau i dros ddeg o ieithoedd. Dewiswyd ei waith ar gyfer y flodeugerdd Best European Fiction gan Dalkey Archive ac ar gyfer gwobr gyfieithu English PEN.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cymru 2090. Gwlad annibynnol. Gwlad lewyrchus. Gwlad sofran rymus sydd wedi hawlio ei lle ar lwyfan y byd ers 2049. Ond pwy sydd yn rheoli? Ac a yw byw yn y wlad hon yn fêl ar fysedd pawb? I Koi a’i ffrindiau, mae’n hunllef. Daw Koi i ddeall yn gynnar iawn mai gwarth o beth ydi byw yn ddifater. Ond fel roedd y Cymrics eu hunain yn ei wybod trwy brofiad, mewn gwendid y perffeithiwyd pob mudiad chwyldroadol – hyd at yr awr pan fo’r gwan rhyw ddydd yn codi yn gry. Cyn y Rhyfel yn 2049, pobol ddigon disylw oedd y Cymry, a'u gwlad yn un o daleithiau tlotaf Gorllewin Ewrop – yn wlad nad oedd yn marw, ond nad oedd chwaith yn byw. Roedd angen gweledigaeth wrol i ddychmygu math arall o gymdeithas ar hen dir. Trwy drugaredd, boddwyd dinas Caerdydd o dan y tonnau. Mae Cymru Fydd yn mynd â ni trwy droeon personol a gwleidyddol cythryblus yn hanes dinasyddion ac arweinwyr Gwladwriaeth Cymru. Mae mwy nag un gwewyr yn herio eu rhagdybiaethau amdanynt eu hunain a'u gwlad. Ond mae'r hyn sy'n herio Koi yn fwy nag y gall o – na neb arall – ei ddychmygu. All o hyd yn oed hawlio mai yr un person ydi o yn 2100 ag yr oedd o yn 2090? ‘Sut le fydd y Gymru annibynnol? Cewch wybod o dreulio degawd yng Nghymru Fydd y mwyaf gwleidyddol o’n nofelwyr. Yn wyneb trychineb newid hinsawdd, mae dwy gymdeithas yn brwydro dros yr un darn o dir. Nofel wiw yw hon am fuddugoliaeth cenedlaetholdeb, ac am adferiad y Gymraeg hyd at derfynau’r wlad a thu hwnt. Cymru Rydd, Cymru Gadarn, Cymru Gymraeg! — Simon Brooks ‘Craff, carlamus, proffwydol. Mae hon yn nofel fydd yn newid eich meddwl am ddyfodol Cymru. Dyma’n canu darogan newydd.’ — Angharad Price ‘Pellucid, brilliant. Meticulously researched, a Brueghel painting come to life. [A] fine, sardonic, and agitated novel.’ — New Statesman yn trafod Y Pla

View full details