Cyngor Llyfrau Cymru
Cysgod y Darian - Anturiaethau Ioan Arthur — Anturiaethau Ioan Arthur
Cysgod y Darian - Anturiaethau Ioan Arthur — Anturiaethau Ioan Arthur
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dydy bywyd ddim yn hawdd i Ioan Arthur ers iddo golli ei dad, symud tŷ a newid ysgol, ond ychydig a wyddai bod pethau ar fin gwaethygu wrth iddo gael ei daflu nôl mewn amser i fyd o fudiadau cudd, brwydrau Llychlynwyr, pwerau arallfydol, telepathi a'r holl gyfrinachau sy'n llechu yng nghysgod y darian, gan gynnwys y gwir am ei dad.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Things have been tough for Ioan Arthur - ever since his father passed away. He's moved house and changed school, but he has no idea that things are about to get a lot more complicated when he's thrown back in time. He goes to a world of secret sects, supernatural powers, telepathy and a myriad of dark secrets hiding in the shadow, where he will find the truth about his father.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781785620997
- Gwales Code
- gwales.com.9781785620997
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cysgod y Darian - Anturiaethau Ioan Arthur — Anturiaethau Ioan Arthur
- Sub Title
- Anturiaethau Ioan Arthur
- Awdur / Author
- Sion, Meilyr
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2017-08-07
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Atebol
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 160 pages
- Size
- 128 × 196 mm; depth 11 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Meilyr wedi ymddangos ar nifer o sioeau llwyfan gan gynnwys The Lion King ac ar raglenni teledu Holby City , Pobol Y Cwm a Teulu dros y blynyddoedd. Mae hefyd wedi recordio nifer o ddramau radio i Radio 4, Radio Wales a Radio Cymru a throsleisio cartwnau diri ar S4C. Trodd ei sylw at ysgrifennu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi cyfrannu straeon i raglen Tic Toc ar Radio Cymru a throsi cartwnau i S4C. Mae eisoes wedi cyhoeddi llyfrau gyda Gomer gan gynnwys Cyfres Parc Deri a Bwystfil Bryn Bugail , sy'n ran o Gyfres Swigod . Yn enedigol o Aberystywth dyma bumed cyfrol Meilyr i blant.
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Originally from Aberystwyth this is Meilyr's fifth book for children.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Fel oedolyn, anaml y bydda i’n cael fy mhlesio cymaint wrth ddarllen llyfr i blant. Plesiodd Cysgod y Darian yn fawr. Dyma’r pedwerydd llyfr i blant gan yr awdur Meilyr Siôn, ac mae’n amlwg ei fod yn teimlo’n gyffyrddus iawn yn ysgrifennu i’r gynulleidfa hon, sef darllenwyr hyderus 8–13 oed. Mae’r stori yn cydio’n syth. Dysgwn am y prif gymeriad, Ioan, ac amgylchiadau ei deulu agosaf. Dysgwn am ei fywyd yn ei ysgol newydd. Dysgwn am effaith y bwlis arno a’i fathodyn arbennig sydd yn ei arwain at Gwen a Glorwth. Ac yna i ffwrdd â ni ar antur i fyd cythryblus y gorffennol lle y mae gan Ioan bwerau arallfydol, pwerau sy’n ei alluogi i ymladd yn ddewr yn erbyn Llychlynwyr a siarad ieithoedd eraill, gan gynnwys Cymraeg y nawfed ganrif. Gall Ioan siarad yn delepathig â’i gyd-aelodau o’r Gyfundrefn Gudd, hyd yn oed! Daw hi’n amlwg yn reit sydyn mai ar ysgwyddau Ioan y disgynna’r holl gyfrifoldeb am achub y darian, a gyda Glorwth, Gwen, Cynfael a Gunnar yn gefn iddo (er mai Llychlynnwr yw Gunnar), mae Ioan yn llwyddo i droedio hen lwybrau ei dad a dychwelyd i Ganolfan Henllys yn fuddugoliaethus. Er i’r bennod ola a’r diweddglo gloi’r llyfr hwn yn daclus, mae’n gadael y drws ar agor i ddilyniant o lyfrau – llond cyfres, gobeithio – o anturiaethau. Rwy’n edrych ymlaen yn barod at weld lle y bydd y Cludwr yn ei dywys nesaf. A fydd Ioan yn parhau i gysylltu â’i dad? A ddaw e o hyd i’r bradwr, ac a fydd e’n trechu Idris a’i gylch o fwlis unwaith ac am byth? (Sylwch hefyd ar y cyfeiriad at glais o dan lygad chwith Idris yn y bennod olaf ... mae mwy i’r bachgen hwn na bwli cyffredin, rwy'n siŵr ...) Ta beth, ewch i ddarllen Cysgod y Darian gan Meilyr Siôn, a hynny'n glou!
Share
