Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Dal i Fynd

Dal i Fynd

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel ddifyr a doniol iawn sy'n dilyn tair menyw yn ystod blwyddyn yn eu bywydau llawn antur a hiwmor. Yng ngeiriau Bethan Gwanas: 'Tonic o nofel! Wedi chwerthin yn uchel ond yn agos at ddagrau weithiau hefyd.'

Disgrifiad Saesneg / English Description

A humorous and entertaining novel about three women during one year in their varied and troublesome lives, providing a tonic to readers with plenty of laughing out loud and tearjerking stories.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847717177
Gwales Code
gwales.com.9781847717177
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Dal i Fynd
Awdur / Author
Wiliam, Sioned
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-09-24
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
271 pages
Size
196 × 130 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Dyma nofel gyntaf Sioned sy’n byw yn Llundain, ond mae’n enw adnabyddus iawn ym myd comedi teledu ynysoedd Prydain. Fe'i ganwyd yng Nghaerfyrddin a'i magu yn y Barri. Mae Dal i Fynd wedi ei opsiynu gan gwmni teledu Working Title. Cynhyrchodd amryw o raglenni comedi i’r prif rwydweithiau. Rhwng 1999 a 2006 roedd hi’n Bennaeth Comedi Rhwydwaith ITV, gan gomisiynu nifer fawr o ffilmiau a chyfresi comedi gan gynnwys Harry Hill’s Sketch Show a Cold Feet . Mae ganddi nifer o brosiectau ar y gweill gyda chwmni Working Title ac mae’n datblygu cyfres i Sky gyda chriw Horrible Histories.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyw Anwen ddim yn siŵr pa un sydd waethaf… magu tri o blant, bod yn gadeirydd PTA yr ysgol, neu wrando ar Rhys, ei gŵr, yn conan am ei daith lan i’r gogs i’r gwaith. Ar yr wyneb mae Delyth yn fenyw fusnes lwyddiannus. Ond o dan yr wyneb mae’n byw am y llyfr self-help diweddara ac yn hollol paranoid am sicrhau dyrchafiad cyn iddi fynd yn rhy hen. Fel gwraig weinidog gydwybodol mae Nia’n gwneud ei gorau i gefnogi ei gŵr. Felly, sut all menyw ffeind ymdrin ag Eirwen, y ciwrad newydd sy’n ddigon i wneud i unrhyw un golli ei ffydd? Mae trobwynt ar ei ffordd i’r dair, ac erbyn i gylch blwyddyn fynd heibio bydd golwg go wahanol ar eu bywydau – er gwell ac er gwaeth. Mae gan yr awdur ddawn i ddweud stori ddoniol.

View full details