Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Dan Ddylanwad

Dan Ddylanwad

Regular price £7.50 GBP
Regular price Sale price £7.50 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Pan ddaw Elen Thomas i ddeall fod rhywun wedi bod yn torri i mewn i ffermdy unig ei modryb ym mherfeddion nos er mwyn ei dychryn, nid at yr heddlu mae hi'n troi. Meurig Morgan lwyddodd i ddatrys dirgelwch marwolaeth ei gŵr bum mlynedd ynghynt - ond y tro yma, fydd o'n tynnu blewyn o'r trwyn anghywir?

Disgrifiad Saesneg / English Description

When Elen Thomas learns that somebody has been breaking into her aunt's isolated farmhouse, she does not turn to the police force for assistance, but to Meurig Morgan, who solved the mystery of her husband's death five years previously. A sequel to Dan yr Wyneb .

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845274344
Gwales Code
gwales.com.9781845274344
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Dan Ddylanwad
Awdur / Author
Griffiths, John Alwyn
Current Price ex VAT
£7.50
Current Price inc VAT
£7.50
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-11-28
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
360 pages
Size
124 × 182 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Datrys A Dirgelwch (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Crime, Mystery and Thriller (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Un o Fangor yw John Alwyn Griffiths yn wreiddiol, a bu’n heddwas hyd ddiwedd 2008. Cyn ymddeol roedd yn bennaeth ar Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Pleserau’r Plismon , yn 2011 a’i nofel gyntaf, Dan yr Wyneb , yn 2012. Mae’n brysur yn ysgrifennu ei drydedd nofel.

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

The author is originally from Bangor and has lived in Llangefni, Pwllheli, Colwyn Bay and Holyhead. He lives in Bodedern. He retired from a career with the police in 2008. He is former head of the Fraud Department for North Wales Police.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dod o hyd i lais y trais a’r tywyllwch Mae awdur nofel dditectif newydd yn dweud ei fod yn teimlo iddo bellach ddarganfod ei‘lais’ fel awdur. Dan Ddylanwad yw ail nofel y cyn-blismon, John Alwyn Griffiths, a gyda thrydedd wedi ei chwblhau a phedwaredd wedi ei chychwyn, mae’n amlwg fod gan y llais hwnnw ddigon i’w ddweud. Mae Griffths, sy’n wreiddiol o Fangor ond rwan yn byw yn Sir Fôn, yn amlwg yn gyfforddus yn ysgrifennu am fyd trosedd a chosb. Ond mae cyffyrddiadau mwy teimladwy hefyd wrth i’r berthynas rhwng rhai o’r cymeriadau gymryd cam ymlaen. Mae Dan Ddylanwad , yn ymweld unwaith eto â chymeriadau ei nofel gyntaf - Meurig Morgan ac Elen Thomas, ac yn cyflwyno prif gymeriad newydd fydd i’w weld yn y drydedd nofel - ditectif anghonfensiynol o’r enw Jeff Evans. Y tro hwn, mae ar Elen Thomas angen help y ddau arall i ddatrys dirgelwch digwyddiadau rhyfedd sy’n diweddu mewn marwolaeth amheus hen fodryb iddi. Ond dim ond y dechrau yw hyn. Cyn mentro i fyd nofelau, cyhoeddodd John Alwyn Griffiths lyfr Pleserau’r Plismon , sef storïau hunangofiannol o’i yrfa gyda Heddlu Gogledd Cymru. Camodd wedyn i fyd y nofel dditectif gan ddefnyddio gyrfa oes gyda’r heddlu ac yn arbennig ei gyfnod fel pennaeth ar Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru fel sail a ffynhonnell syniadau. Mae’n amlwg ei fod wedi canfod cyfrwng sy’n gweddu yn berffaith i’w gefndir a’i ddiddordebau. Gwasg Carreg Gwalch sydd wedi cyhoeddi ei holl lyfrau. Meddai Myrddin ap Dafydd, Rheolwr Gwasg Carreg Gwalch: “Gellid disgrifio’r nofel fel nofel dditectif gyda llond llaw o’r arswydus. Mae’n mynd â’r darllenydd ar daith droellog o ddigwyddiadau tywyll, dychrynllyd a chignoeth. A’r munud y dechrau’r darllenydd ymlacio gan feddwl ei fod yn gwybod trywydd y stori, caiff ei daflu i drobwll o gyffro ac yn sydyn mae’r nofel yn mynd ar garlam wrth ddatgelu gorffennol tywyll a chynlluniau barus, bygythiadau, ymosodiadau a thrais. “Bu'r ymateb yn 2011 i hunangofiant John, Pleserau'r Plismon , yn wych, ac rydan ni'n falch iawn o'r cyfle i'w gefnogi wrth iddo droi ei law at ffuglen mewn maes y mae mor gyfarwydd ag o. Mae ei nofelau yn wreiddiol a chyffrous - ac yn agoriad llygad!” Cyfaddef John Alwyn Griffiths bod ongl bersonol i rai o’i brif gymeriadau. Mae’r pen cipar, Esmor Owen, wedi ei seilio ar ffrind i’r awdur a fu farw dair blynedd yn ôl, a bod cynnwys y cymeriad hwnnw yn deyrnged dawel i’w ffrind. “Roedd o’n gyfaill mawr i mi... Pennaeth cipera ym Mhen Llŷn, ar y Ddwyfor. Mae ei deulu yn hoff iawn o’r ffaith ’mod i wedi ei ’sgrifennu o i mewn i’r nofelau. Mae yna lawer o’i hanesion o yn Pleserau’r Plismon hefyd. “Mae yna gysylltiad hefyd rhwng cymeriad Jeff Evans a rhywun roeddwn i’n arfer gweithio hefo fo - mae o yn gwybod hynny ei hun ond well i mi beidio dweud mwy!” Mae’r ffordd yr â John Alwyn Griffiths i ysgrifennu yn bradychu oes o wneud gwaith manwl, arbenigol, disgybledig. “Pan fydda i yn ysgrifennu llyfr, ar y dyddiau hynny mi fydda i’n dechrau wrth fy nesg erbyn hanner awr wedi naw ac mi weithia i wedyn trwy’r dydd tan bump, a hynny dair i bedair gwaith yr wythnos. Wedi gorffen, dwi’n ei adael am ddau neu dri mis a mynd ’nôl ato fo wedyn i weld sut mae’n darllen. Yn y cyfamser, pan fydda i ddim yn sgwennu mae’r peth yn troi drosodd yn y meddwl.” Mae ymchwil manwl a chywirdeb yn amlwg yn bwysig i sicrhau bod y math yma o nofel yn gredadwy. “Mae yna ddeuddeng mlynedd ers i mi ymddeol o’r heddlu ac felly mae mynd ar y we i wneud ymchwil yn sicrhau bod y technegau rydw i yn eu trafod yn y llyfr yn dal yn gyfoes. “Cyn yr ysgrifennu ei hun mi fydda i’n cynllunio’r plot yn fanwl. Rhaid i mi ddweud, cyn mynd at i ysgrifennu’r llyfr rydw i ar ei ganol rwan, doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i yn mynd i ysgrifennu. Ond mae’r syniadau yn dod o ddarllen am achosion mewn papurau newydd ac achosion y bûm i fy hun yn delio â nhw.”

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Former police head finds his voice in the dark world of crime thrillers The author of a newly-released Welsh crime thriller, Dan Ddylanwad , says that with a book of memoirs and a second novel under his belt, he has now found his voice as a writer. Dan Ddylanwad (under the influence)is former policeman John Alwyn Griffiths’ second novel, and with a third novel completed and a fourth in progress, it is quite clear that his voice has plenty to say. Griffiths, originally from Bangor but now living in Anglesey, is clearly in his element writing about the world of crime. But the story also has gentler touches, as the relationship develops between some of the characters. Dan Ddylanwad revisits characters from his first novel - Meurig Morgan and Elen Thomas - and introduces a new character who features in his third novel - an unconventional detective named Jeff Evans. This time, Ellen Thomas needs help to solve the mystery of a string of strange events that end in the suspicious death of her great-aunt. But in truth, this is just the beginning. Before venturing into the world of thrillers, John Alwyn Griffiths published Pleserau’r Plismon (policeman’s delights), an autobiographical collection of stories from his time with North Wales Police. He then stepped into the world of the detective novel, again drawing from his life-long career with the police, especially his time as head of North Wales Police’s Fraud Department. It is clear that he has found a genre that is perfectly suited to his background and interests. All his books have been published by Gwasg Carreg Gwalch. Manager Myrddin ap Dafydd said, “The novel could be described as a crime thriller scattered with plenty of horror. It grabs the reader and takes them on a rollercoaster of terrifying and gruesome events. And the second the reader starts relaxing, thinking they can predict the outcome, they are thrown into a whirlwind of dark pasts, greed, threats and violence. “The response to John’s 2011 autobiography was fantastic, and we’re pleased to be supporting him as he turns his hand to fiction, in a field he’s so familiar with. His novels are original and exciting - and a revelation!” Griffiths admits that there is a personal angle to some of his main characters. The character Esmor Owen, a gamekeeper, is based on a real person who died three years ago, a subtle tribute to a good friend. “He was a great friend,” says Griffiths, “ and head gamekeeper on the Dwyfor river in the Lleyn Peninsula. His family love the fact that I have written him into the novel - he features quite prominently in my first book, Pleserau’r Plismon . "There is also a few similarities between the Jeff Evans character and a former colleague of mine - he knows who he is but I’d better not say any more!” The way Griffiths approaches his writing betrays a lifetime of detailed police work, meticulous, thorough and disciplined. “On the days I’m writing, I'll be at my desk by nine thirty and I’ll be there until five, three to four times a week. After competing a novel, I then leave it for two or three months and return to it, to see how it reads. When I’m not writing, I’m constantly turning things over in my mind.” With this genre, detailed research and accuracy is clearly important. “It’s twelve years since I retired from the police and I do a lot of research on the web to ensure that the police techniques I write about are still current. “Before writing, I plot the book in detail. I must say , before this latest one, I had no idea what I was going to write. But the ideas come from reading about cases in newspapers and cases I’ve dealt with in the past."

View full details