Cyngor Llyfrau Cymru
Dan y Ditectif Treigladau
Dan y Ditectif Treigladau
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Dan yn dditectif go arbennig - mae e'n dditectif treigladau! Tyrd ar daith ddifyr i fyd y llythrennau yng nghwmni Dan a'i chwyddwydr, ac ymhen dim o dro, mi fyddi dithau hefyd yn dditectif treigladau penigamp.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Dan is a special detective - a mutation detective! Join Dan and his magnifying glass on a journey through the world of letters so that you can also become an excellent mutation detective.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781855968028
- Gwales Code
- gwales.com.9781855968028
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Dan y Ditectif Treigladau
- Awdur / Author
- Wen, Dref
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2016-04-11
- Cyhoeddwr / Publisher
- Dref Wen
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 38 pages
- Size
- 210 × 210 mm; depth 3 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Cymraeg - Meithrin a Chynradd (yn Gymraeg) | EN: Welsh - Nursery and Primary (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Er bod yna fyrdd o lyfrau tebyg ar gael, mae'r llyfr yma yn eithriad, ac yn gyfrol sy'n apelio at y synhwyrau mewn sawl ffordd. Mae'n hwyliog ac yn lliwgar, ac fe'n harweinir ar antur i fyd y treigladau yng nghwmni Dan y Ditectif, a hynny mewn modd llawn bwrlwm. Mae'r rheolau sy'n ymwneud â threiglo yn cael eu cyflwyno mewn ffordd newydd a gwahanol iawn i'r rhesi ribidires yr oeddwn yn gorfod eu dysgu yn yr ysgol, sef p t g b d g ll m rh! Er mai'r un ydyw'r rheolau â'r hyn a gyflwynwyd yn y gwersi yn y bôn, mae'n ddifyr iawn gweld y cyflwyniad lliwgar a'r ymarferion hwyliog, ac nid ydynt yn edrych fel tasgau anodd, academaidd. Mi ddylai'r ditectif a'i anturiaethau apelio'n fawr at blant, ac ar y dudalen olaf ceir tystysgrif i nodi llwyddiant. Gall pris y llyfr, sef £5.99, ymddangos braidd yn ddrud, ond mae'n cynnwys pob dim sydd ei angen er mwyn dysgu am reolau treigladau, a hynny mewn ffordd ddifyr fydd yn apelio at blant, athrawon a rhieni. Mae'r defnydd o luniau yn benigamp a rhaid canmol y delweddau lliwgar a'r dylunio. Mae'r tair adran – sef y treiglad meddal, trwynol a llaes – yn cael eu cyflwyno fesul un, ond mae'r disgybl yn cael ei arwain o un wers i'r llall mewn ffordd ddiymdrech. Dyma lyfr defnyddiol a hylaw, ac un i'w gadw o fewn cyrraedd wrth i chi lunio ebost, sgwennu llythyr neu lunio adolygiad o gyfrol am dreigladau!
Share
