Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Darganfod! Newid Hinsawdd

Darganfod! Newid Hinsawdd

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Newid Hinsawdd. Wyt ti'n gwybod beth sy'n achosi i'n planed ni gynhesu mor sydyn? Neu sut all cynhesu byd-eang arwain at dywydd eithafol? Mae Darganfod! Newid Hinsawdd yn orlawn o ffeithiau diddorol a lluniau anhygoel o'n planed sydd mewn perygl.

Disgrifiad Saesneg / English Description

This timely entry into the award-winning DKfindout! series, explores the past, present, and future of our climate. In 2019 kids around the world went on strike for the future of our planet, and for their own futures. This amazing book on climate change for kids covers what we can do every day as potential activists to help prevent further damaging changes to the climate.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781804162460
Gwales Code
gwales.com.9781804162460
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Darganfod! Newid Hinsawdd
Awdur / Author
DK
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2022-07-05
Cyhoeddwr / Publisher
Rily
Translator
Lleinau, Sioned
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
68 pages
Size
187 × 240 mm; depth 8 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Gwyddoniaeth - Byd Natur (yn Gymraeg) | EN: Science - Nature (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C018179

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

“It is unequivocal.” Mae newid hinsawdd yn digwydd. Dyna mae adroddiad diweddaraf yr IPCC (2022) yn ei ddweud. Does dim amheuaeth ei fod yn effeithio ar ein planed erbyn hyn – mae angen i ni weithredu, a hynny cyn ei bod hi’n rhy hwyr! Gyda chymaint o bethau eraill yn digwydd yn y newyddion, fel y rhyfel yn Wcráin, yr argyfwng costau byw ac ati, hawdd yw anghofio’r argyfwng amgylcheddol a’i wylio’n llithro i lawr yr agenda. Ac mae prif weinidog newydd y DU newydd ddweud na fydd o’n teithio i’r gynhadledd enfawr COP27 eleni – pa fath o esiampl mae hynny’n ei gosod? Yn ddiweddar, erfyniodd y cyflwynydd enwog, Syr David Attenborough, arnom i roi stop ar newid hinsawdd er mwyn achub y blaned. Mae’r fideo yn ddirdynnol ac yn werth ei weld – mae’n rhan o gyfres Frozen Planet II ar y BBC. Pan oeddwn i'n blentyn, llyfrau Dorling Kindersley oedd fy ffefryn. Yn wir, roeddwn i’n eu llowcio. Llongau. Trenau. Adeiladau. Ymlusgiaid. Adar. Roedd gen i’r cyfan! Heb os, rhain yw’r llyfrau ffeithiol gorau sydd ar y farchnad, o ran eu delwedd a’u cynnwys. Maen nhw mor llachar a gweledol, gyda lluniau trawiadol i ddenu sylw cenhedlaeth o blant ifanc sydd wedi tyfu i fyny o flaen sgriniau. Nid gwerslyfrau llychlyd a diflas mo’r rhain! Mae’r gwaith dylunio a gosod yn ardderchog, gyda thudalennau yn orlawn o ffeithiau diddorol ond wedi eu gwahanu’n dameidiau bach mewn ffont amlwg. Dwi wedi bod fel tôn gron yn sôn am y diffyg llyfrau ffeithiol Cymraeg da sydd ar gael. Nid pawb sydd eisiau darllen storïau am dylwyth teg neu’r Mabinogi. Fedra i ddim pwysleisio pa mor bwysig ydi cael cyfresi ffeithiol a difyr, sy’n gallu bwydo chwilfrydedd ac awydd plant ifanc am wybodaeth. O edrych ar beth sydd ar gael ar y silffoedd yn y Gymraeg ar hyn o bryd, ry’n ni ar ei hôl hi braidd. I ble mae’r llyfrau ffeithiol wedi mynd? Dyna pam wnes i wirioni pan welais i fod Rily wedi addasu un o lyfrau DK o’r gyfres wych Find Out! / Darganfod! Addasiad o adolygiad oddi ar wefan Son am Lyfra / An adaptation of a review from the Son am Lyfra website.

View full details