Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Darllen yn Well: Datod — Straeon am Ddementia

Darllen yn Well: Datod — Straeon am Ddementia

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfrol bwysig yn trafod dementia gan bobl sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y salwch – rhieni, wyrion, plant, priod, gweithwyr gofal, nyrsys, doctoriaid ac arbenigwyr yn y maes.

Disgrifiad Saesneg / English Description

An important volume that discusses dementia by those who are directly affected by the condition - parents, grandchildren, children, partner, care workers, nurses, doctors and specialists in the field.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800990449
Gwales Code
gwales.com.9781800990449
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Darllen yn Well: Datod — Straeon am Ddementia
Sub Title
Straeon am Ddementia
Awdur / Author
George, Golygydd: Beti
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-10-22
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
160 pages
Size
148 × 210 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Ysgrifau a Sgyrsiau (yn Gymraeg) | EN: Essays and Talks (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ysgrifau (yn Gymraeg) | EN: Essays (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Wy’n cofio bod ar gwrs rhywbryd a chlywed rhywun yn disgrifio dementia fel gwylio daeargryn yn effeithio ar silffoedd llyfrau. Ystyriwch y llyfrau fel y profiadau ac atgofion a gewch yn ystod eich bywyd. Dros y blynyddoedd, fe osodwch chi’r llyfrau ar silffoedd y cof, gan ddechrau ar y gwaelod. Caiff eich atgofion cynharaf eu cadw ar y silffoedd isaf, ac rydych chi’n parhau i lenwi’r silffoedd tuag i fyny. Yna daw dementia ar ffurf daeargryn ac ysgwyd y silffoedd. Y llyfrau sydd ar y silffoedd uchaf fydd y cyntaf i syrthio, tra bod y llyfrau ar y silffoedd islaw yn dueddol o aros yn eu lle’n hirach. I mi, roedd y ddelwedd hon yn drawiadol ac yn un hynod effeithiol wrth geisio esbonio mewn modd syml sut yr oedd yr ymennydd yn dirywio gyda’r cyflwr, y ffordd y mae’r atgofion mwyaf diweddar yn cael eu colli a’r rhai cynharaf yn para hiraf. Mae bron yn amhosib dirnad proses y golled, y breuo a’r dirywiad, ac mae bron yn amhosib dirnad beth yw natur y clefyd difaol hwn. Yn y gyfrol Datod , mae Beti George wedi casglu nifer o ysgrifau ac erthyglau byrion ynghyd gan sawl cyfrannydd er mwyn rhoi golwg 360° i ni ar ddementia. Cyfrol eglur, wybodus, ddiflewyn-ar-dafod yw hon, ond un sy’n llawn empathi ac emosiwn hefyd. Tipyn o gamp. Cyfrol gymharol fechan yw hi o ran ei hyd, ond mae’n ddigon, ac mae’n gwneud gwaith aruthrol rhwng ei dalennau. Drwy gyfrwng ffenestri eu hysgrifau mae gofalwyr a pherthnasau, gan gynnwys un cyfweliad gyda rhywun sydd â dementia arni, yn rhoi golwg i ni ar sut beth ydy byw gyda dementia. Mae’r testimoni’n ddirdynnol, digon i lorio’r darllenydd heb sôn am y bobl ddewr a dygn sy’n parhau, ddiwrnod ar ôl diwrnod, i gynnal a chadw eu hanwyliaid tra bod y clefyd creulon a didostur hwn yn creu dinistr. Mae’r system iechyd yn eu herbyn a gofal yn ddrud – mae’n amlwg y caiff pobl sydd â dementia eu siomi, a’u teuluoedd hefyd, sy’n gwneud sefyllfaoedd trist yn rhai annioddefol, bron. Dro ar ôl tro, mae’r ffaith bod y Gymraeg yn hanfodol i les a chysur pobl yn adleisio drwy’r gyfrol fel cytgan, gan bwysleisio bod cerddoriaeth, canu ac emynau yn fodd i leddfu ofnau am eu bod oll yn ffyrdd uniongyrchol yn ôl at y blynyddoedd cynnar. Yn ogystal, ceir erthyglau eglur a hawdd eu darllen gan feddygon, gwyddonwyr ac arbenigwyr ar y cyflwr o ran y goblygiadau corfforol, meddygol a gwyddonol. Maent yn esbonio’n union beth sy’n digwydd. Ceir trafodaeth ar yr adnoddau a’r gwasanaeth sydd ar gael i bobl. Mae’r wybodaeth yn hollol realistig ond ar yr un pryd, nid yw’n gwbl ddiobaith chwaith. Dyma gyfrol sy’n gwneud cymwynas fawr â ni bob un, oherwydd mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf ohonom naill ai’n adnabod rhywun â dementia, neu’n perthyn i rywun, yn gofalu am rywun, neu’n dioddef o ddementia ein hunain. Mae’n bryd i ni i gyd fod yn trafod dementia.

View full details