Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Darllen yn Well: Gwella Fesul Tamaid

Darllen yn Well: Gwella Fesul Tamaid

Regular price £18.99 GBP
Regular price Sale price £18.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae Gwella Fesul Tamaid yn rhaglen hunangymorth hanfodol, awdurdodol, seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi cael ei defnyddio gan ddioddefwyr bwlimia ers dros 20 mlynedd. Mae'n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am fioleg a seicoleg bwlimia a sut i'w drin.

Disgrifiad Saesneg / English Description

An essential, self-help programme based on evidence used by bulimia sufferers for over 20 years. It comprises the latest information about the biology and psychology of bulimia and how to treat it.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781913134990
Gwales Code
gwales.com.9781913134990
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Darllen yn Well: Gwella Fesul Tamaid
Awdur / Author
Schmidt, Ulrike; Treasure, Janet; Alexander, June
Current Price ex VAT
£18.99
Current Price inc VAT
£18.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-06-12
Cyhoeddwr / Publisher
Graffeg
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
237 pages
Size
156 × 234 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Amrywiol (yn Gymraeg) | EN: Miscellaneous (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Amrywiol (yn Gymraeg) | EN: Miscellaneous (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Ulrike Schmidt yn athro anhwylderau bwyta yng Ngholeg y Brenin, Llundain ac yn seiciatrydd ymgynghorol ar anhwylderau bwyta yn yr Uned Anhwylderau Bwyta yn Ysbyty Maudsley, Llundain. Mae ei hymchwil yn trafod pob agwedd ar anhwylderau bwyta, o achosion i driniaethau. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn datblygu triniaethau newydd, yn enwedig ymyriadau byr sy’n gallu cael eu rhannu yn eang. Mae hi’n awdur nifer o lyfrau hunangymorth poblogaidd a rhaglenni therapi ar-lein arobryn. Mae Janet Treasure, OBE, PhD, FRCP, FRCPsych, yn athro a seiciatrydd sy’n gweithio ym meysydd ymchwil ac addysgu yng Ngholeg y Brenin, Llundain ac yn glinigwr yn Ymddiriedolaeth Sylfaen GIG De Llundain a Maudsley (www.thenewmaudsleyapproach.co.uk). Mae diddordebau ymchwil yr Athro Treasure yn cynnwys gweithio ar y cyd â chleifion a gofalwyr gan ddefnyddio ymchwil drawsfudol i ddatblygu mathau newydd o driniaeth. Datblygodd June Alexander anorecsia nerfosa pan oedd hi’n 11 oed, salwch a heriodd ei bywyd a’i ffurfio. Daeth cariad tuag at eiriau yn fodd iddi oroesi. Fe gadwodd ddyddiadur a datblygodd yrfa mewn newyddiaduraeth. Ers 2006 mae June wedi defnyddio profiadau bywyd a sgiliau llenyddol i ysgrifennu am anhwylderau bwyta. Mae hi’n ymgeisydd PhD ac yn aelod o sefydliadau yn Awstralia a sefydliadau rhyngwladol, yn cynnwys AED, F.E.A.S.T. ac NEDC. Ei gwefan: www.thediaryhealer.com.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae’r llyfr yn darparu arweiniad cam wrth gam ar gyfer newid sy’n seiliedig ar ymchwil gadarn. Mae’r iaith bob dydd, yr astudiaethau achos cyfoes ysgogol a’r storïau a’r darluniau deniadol yn Gwella Fesul Tamaid yn cynnig anogaeth, gobaith a safbwyntiau newydd i bob darllenydd. Mae’r llyfr bach yma’n llenwi bwlch yn yr angen am wybodaeth hawdd ei deall am fwlimia nerfosa, anhwylder bwyta difrifol a chyffredin. Mae Ulrike Schmidt a Janet Treasure yn ymchwilwyr ac arbenigwyr byd-enwog ar anhwylderau bwyta ac mae June Alexander, a fu’n dioddef o anorecsia a bwlimia ei hun, yn awdur uchel ei pharch ac yn eiriolwr sy’n adnabyddus ledled y byd dros ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta. Mae Gwella Fesul Tamaid yn adnodd gwerthfawr – i ddioddefwyr, i’w teuluoedd ac i’r gweithwyr iechyd proffesiynol a’r gofalwyr sy’n eu trin. ‘Mae Gwella Fesul Tamaid yn arweiniad cam wrth gam llawn darluniau deniadol ar gyfer goresgyn anhwylderau bwyta. Trwy hanesion difyr ac ymarferion cadarn sy’n adlewyrchu degawdau o brofiad clinigol yr awduron, mae’r llyfr hwn yn tywys y darllenydd gam wrth gam tuag at adferiad. Mae cynhesrwydd, tosturi a dealltwriaeth drylwyr yn llifo o bob tudalen, gan gyfuno safbwyntiau dau o’r clinigwyr anhwylderau bwyta uchaf eu parch yn y byd a safbwynt goroeswr/eiriolwr. Nid yw’r canllaw hwn yn defnyddio jargon ac mae’n cynnig cyngor cadarn i unrhyw un sydd ag anhwylder bwyta. Adnodd heb ei ail i bob llyfrgell a chyfaill mynwesol i bawb sy’n ystyried gwella.’ – Cynthia Bulik, PhD, FAED, Athro, Karolinska Institutet, Sweden a Phrifysgol Gogledd Carolina, Unol Daleithiau America, awdur Midlife Eating Disorders a Binge Control.

View full details