Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Darllen yn Well: Pan Fo Rhywun Annwyl â Dementia

Darllen yn Well: Pan Fo Rhywun Annwyl â Dementia

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae dementia'n effeithio ar 850,000 a rhagor o bobl yn y Deyrnas Unedig, gyda gofalwyr di-dal yn gofalu am y rhan fwyaf ohonyn nhw. Yn y llawlyfr cynhwysfawr hwn, mae Susan Elliot-Wright yn dweud y bydd deall yr afiechyd hynod gyffredin hwn yn gallu codi ymwybyddiaeth ohono ac yn gwella ansawdd bywyd pawb sy'n byw dan ei gysgod.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Dementia affects over 850,000 people in the United Kingdom, with most being looked after by unpaid carers. In this comprehensive handbook, Susan Elliot-Wright says that understanding this highly common condition can raise awareness of the same and help to improve the quality of life of all who live under its shadow.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781912654888
Gwales Code
gwales.com.9781912654888
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Darllen yn Well: Pan Fo Rhywun Annwyl â Dementia
Awdur / Author
Elliot-Wright, Susan
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-04-24
Cyhoeddwr / Publisher
Graffeg
Translator
Lleinau, Sioned
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
128 pages
Size
138 × 216 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Awdur sy'n gweithio ar ei liwt ei hun yw Susan Elliot-Wright. Cafodd ei hyfforddi i fod yn newyddiadurwraig cylchgronau, gan ysgrifennu cannoedd o erthyglau i bapurau newydd a chylchgronau, yn ogystal â phedwar llyfr gwybodaeth am iechyd i bobl ifanc a'r llyfrau canlynol i Sheldon Press: Coping with Type 2 Diabetes (2006), Living with Heart Failure (2006), Overcoming Insomnia (2008), Coping with Epilepsy in Children and Young People (2009), ac Overcoming Emotional Abuse (ail argraffiad, 2016). Bellach mae hi'n canolbwyntio'n bennaf ar ffuglen. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Things We Never Said , yn 2013, a'i hail, The Secrets We Left Behind , yn 2014, y ddwy gan Simon & Schuster. Cyhoeddwyd ei thrydedd nofel, What She Lost , ar ddechrau 2017 ac mae hi'n gweithio ar ei phedwaredd ar hyn o bryd. Mae'n byw yn Sheffield gyda'i gŵr.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae dementia'n effeithio ar 850,000 a rhagor o bobl yn y Deyrnas Unedig, gyda gofalwyr di-dâl yn gofalu am y rhan fwyaf ohonyn nhw. Mae’r argraffiad newydd yma o Pan fo rhywun annwyl â dementia yn trafod materion ymarferol ac emosiynol i’w hystyried os ydych chi’n amau bod clefyd Alzheimer neu ffurf arall ar ddementia ar rywun yr ydych chi’n ei garu, neu’n gwybod hynny. Mae’n egluro’r effaith bosibl ar eich perthynas ac arnoch chi a’r teulu, a sut i gael yr help a’r gefnogaeth angenrheidiol. Dyma’r pynciau dan sylw: • sut i gael help meddygol, hyd yn oed os yw’ch perthynas yn gwadu bod unrhyw beth o’i le • mathau o ddementia, yn cynnwys clefyd Alzheimer, dementia cyrff Lewy a dementia fasgwlar • dementia ar eich cymar • sut mae meddyginiaeth yn gallu helpu a’r wybodaeth ddiweddaraf am ba gyffuriau sydd ar gael • therapi a thriniaethau heb gyffuriau, yn cynnwys aromatherapi • sut i gynnal sgiliau a galluoedd • delio â materion ymarferol – cof ac ymddygiad • cymorth allanol, budd-daliadau a gwasanaethau • gofal preswyl • ymdopi â bod yn ofalwr

View full details