Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Darllen yn Well: Petai'r Byd i Gyd Yn...

Darllen yn Well: Petai'r Byd i Gyd Yn...

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae Taid yn rhoi pensil lliwiau'r enfys i mi ac yn dweud: Ysgrifenna a thynna luniau, ysgrifenna a thynna luniau dy freuddwydion di i gyd. Llyfr lluniau annwyl am y cariad rhwng merch fach a'i thaid, ac am gadw'r cariad hwnnw'n fyw trwy atgofion.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Grandpa gives me rainbow pencils, and tells me: Write and draw pictures, write and draw pictures of all your dreams. A charming picture book about the love between a young girl and her grandfather, and about keeping that love alive through memories.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781913245559
Gwales Code
gwales.com.9781913245559
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Darllen yn Well: Petai'r Byd i Gyd Yn...
Awdur / Author
Coelho, Joseph
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-01-08
Cyhoeddwr / Publisher
Atebol
Translator
Cyf., Testun
Darlunydd / Illustrator
Colpoys, Ms. Allison
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
32 pages
Size
235 × 276 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Llyfr stor-a-llun clawr caled sy’n ymdrin ag ambell bwnc digon anodd a heriol yw Petai’r byd i gyd yn … , addasiad o gyfrol wreiddiol gan yr awdur, bardd a’r dramodydd Joseph Coelho a’r arlunydd arobryn Allison Colpoys. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys fel cyfrol syml ddigon, wrth i’r awdur fynd â ni ar daith unigryw drwy gyfnodau’r flwyddyn, sydd hefyd yn cynrychioli cyfnodau bywyd dyn. Ond mae’r themâu o golled, hiraeth ac atgofion yn ei dyrchafu i dir ingol a theimladwy uwch wrth i wyres ddisgrifio’r berthynas arbennig rhyngddi hi â’i thaid, ac yn ddiweddarach ddygymod â’r hiraeth o’i golli a’r drysorfa o atgofion sydd ganddi amdano. Mae’r stori’n llwyddo i ganfod rhyw gydbwysedd rhwng hiraethu am golled ac ymhyfrydu mewn bywyd a dathlu atgofion. Llwydda hefyd i gyflwyno colled a’r modd yr ydym yn hiraethu am anwyliaid ochr yn ochr â’r cysur a geir oddi wrth atgofion. Mae’r iaith yn delynegol ac yn cyd-fynd yn hyfryd â’r arlunwaith unigryw, sy’n gyfoethog a blodeuog ac yn hwyluso’r llwybrau i fyd y dychymyg, sy’n rhan mor greiddiol o’r stori, ac yn siŵr o gynnig cysur i unrhyw blentyn sy’n wynebu colli rhywun sy’n agos atynt. Pendilia’r arlunwaith o’r prysur i’r tawel, gan gynnig amrywiaeth hyfryd o un dudalen i’r llall drwy’r gyfrol. Elfen ychwanegol yw’r cefndir diwylliannol gwahanol sydd i’r gyfrol a’r cymeriadau BAME sy’n ganolog iddi. Daw hyn â lliw a chyfoeth ychwanegol i’r stori, yn enwedig wrth i Taid adrodd hanesion amrywiol o’i orffennol i’w wyres fach. Ceir sôn am deigrod, nadroedd a melysion Indiaidd, a cheir gwerthfawrogiad hefyd o bethau syml bywyd, yn cynnwys teganau ail-law, pensiliau a phaent lliw a mynd am dro law yn llaw yng nghwmni rhywun annwyl. Mae cymaint o’r themâu yma mor berthnasol i’r cyfnod rydyn ni’n byw ynddo heddiw a’r modd yr ydym i gyd wedi gorfod ailasesu ac ailwerthuso ein bywydau yn sgil y pandemig byd-eang. Efallai nad hon yw'r gyfrol stori-cyn-cysgu gyntaf y byddai plentyn neu riant yn gafael ynddi bob nos, ond cyfrol sy’n bendant yn werthfawr ar sawl lefel arall. Cyfrol i’w darllen ar y cyd, i fyfyrio drosti, ond hefyd i’w gwerthfawrogi a’i mwynhau.

View full details