Cyngor Llyfrau Cymru
Dawn Dweud: John Morris-Jones
Dawn Dweud: John Morris-Jones
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Bywgraffiad sy'n cynnig ymdriniaeth feirniadol o gyfraniad John Morris-Jones, un o wŷr amlwg ei gyfnod mewn cylchoedd academaidd ac eisteddfodol, i hanes yr iaith a'i diwylliant. Ar yr un pryd, ceir darlun o'r dyn teulu wedi'i seilio ar gyfresi hynod ddifyr o lythyrau personol at ei wraig a'i gyfeillion.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A biography of John Morris-Jones (1864-1929), Welsh grammarian, academic and poet. This book offers a critical analysis of his contribution, as well as a portrait of him as a family man, based on a fascinating series of personal letters to his wife and friends.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780708324677
- Gwales Code
- gwales.com.9780708324677
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Dawn Dweud: John Morris-Jones
- Awdur / Author
- James, Allan
- Current Price ex VAT
- £12.99
- Current Price inc VAT
- £12.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2011-11-28
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 324 pages
- Size
- 138 × 216 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Astudiaethau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
Rhagair Lluniau Cyfnod Cynnar Rhydychen: Coleg yr Iesu, PontMagdalen a’r Dafydd Y Bodleian, Syr John Rhªs a’r Darpar Ysgolhaig 1890–1895 Dewis Gyrfa: JohnMorris-Jones a’r Agenda Ieithyddol 1895 Yr Athro: Bangor a Llanfair Hynafiaeth yr Orsedd: Yr Ymchwilydd yn Herio Traddodiad JohnMorris-Jones a’r Eisteddfod Genedlaethol: Athro’r Genedl Caniadau JohnMorris-Jones (1907) The Nationalist a’r ‘Macwyaid’ (1907–1911) 1911–1918 Y Beirniad, y Gramadegydd a’r Rhyfel Byd Cyntaf 1918–1925 Taliesin, Ffrainc ac America 1925–1929 Cerdd Dafod a’r ‘Sant’: Diwedd Cyfnod Nodiadau Mynegai
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Allan James wedi ymddeol fel Prif Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Seiliwyd y gyfrol hon ar lyfr cynharach gan Allan James a luniwyd ar wahoddiad Dr R. Brinley Jones yn rhan o’r gyfres Writers of Wales ac a gyhoeddwyd yn 1987. Mae’r gyfrol hon yn llawer llawnach na’r gyfrol Saesneg, a manteisiodd yr awdur ar bob cyfle i ychwanegu defnyddiau a gyhoeddwyd oddi ar ymddangosiad y gyfrol wreiddiol. Adroddir hanes yr athrylith o Lanfair Pwllgwyngyll a aeth i Rydychen i astudio Mathemateg ac a ddaeth oddi yno yn awdurdod ar y Gymraeg. Trefnwyd y deunydd ar ffurf deuddeg pennod gronolegol a chan drefnu’r deunydd yn bynciol o fewn y gronoleg honno. Oherwydd hynny, yn anorfod, fe geir peth ailadrodd yn y cofiant, yn y penodau cynharaf yn fwyaf arbennig. Cawn ddarlun llawn a chynnes o’r gwrthrych – y gwneuthurwr clociau a fyddai bob amser yn hwyr i’w ddarlithiau, ysgolhaig a drosglwyddodd drefn a chynildeb, disgyblaeth a manylder y mathemategydd i ddeddfau iaith a barddoniaeth. Nid yw’r awdur yn brin o dynnu sylw at yr anghysonderau amlwg a oedd yng ngyrfa a bywyd y gwrthrych – beirniad trylwyr a ffyddlon yr awdl yn yr Eisteddfod dros gyfnod hir, ond gelyn yr Orsedd; yr ymgyrchydd diflino dros yr iaith, ond un a ddarlithiai trwy gyfrwng y Saesneg. Fe welwn y darlithydd ffurfiol, swil, yn ogystal â’r penteulu croesawus, llawen; y gŵr a’r tad annwyl yn ogystal â’r dadleuwr digymrodedd. Yn wir, fe’i disgrifiwyd fel un a oedd yn gawr o ddeallusrwydd ond un a chanddo galon fawr ar yr un pryd. Mae’r cofiant hwn yn waith hylaw i’r sawl a fyn wybod mwy am un o wŷr mawr Môn a Chymru gyfan, un a gyfrannodd yn hael i ddadeni llenyddol ei ddydd, nid lleiaf trwy ddiffinio a gosod trefn ar reolau orgraff a gramadeg y Gymraeg ac ar gyfundrefn Cerdd Dafod, y cyfan yn gyfraniadau hollbwysig i ysgolheictod Cymraeg.
Share
