Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Dedfryd Oes

Dedfryd Oes

Regular price £8.50 GBP
Regular price Sale price £8.50 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Ebrill 1988. Mae Siôn yn fyfyriwr yn Aberystwyth ac yn fodlon gweithredu dros ei wlad. Mae popeth wedi'i drefnu a'r tŷ haf yn wag, ond mae penderfyniad byrbwyll cyfaill yn chwalu bywyd Siôn yn yfflon. Nofel am fentro, am egwyddorion, am gyfeillgarwch ac am droi cefn.

Disgrifiad Saesneg / English Description

April 1988. Siôn, an Aberystwyth University student, is a Welsh activist. The plans are in place and the holiday home is empty, but a friend's reckless decision destroys Siôn's life. A novel about principles and venturing, about friendship and rejection.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845278533
Gwales Code
gwales.com.9781845278533
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Dedfryd Oes
Awdur / Author
Evans, Emyr
Current Price ex VAT
£8.50
Current Price inc VAT
£8.50
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2022-05-13
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
230 pages
Size
128 × 198 mm; depth 9 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Brodor o Gwrtnewydd yn ne Ceredigion yw Emyr Evans. Ar ôl ennill gradd mewn Ffiseg cymhwysodd yn athro, ac yn ogystal â dysgu mae wedi gweithio yn y maes trwsio awyrennau, yn y byd niwclear, i’r heddlu ac i gwmnïau cynhyrchu bwyd a phersawr. Ar un cyfnod roedd yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ar hyd a lled y DU, Ewrop, Tsieina, Awstralia a De’r Affrig i gwmnïau o America. Mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerwys, Sir y Fflint gyda’i wraig, ei dwy ferch a’r ci. Ymysg ei ddiddordebau mae barddoni, nofio tanddwr a sgïo. Hon yw ei nofel gyntaf.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

"Chi'n gwybod y drefen, bois. Dim trais. Dim mentro dim. Dy'n ni'r Meibion ddim yn mynd i niweidio unrhyw un – byth bythoedd." Nofel yn seiliedig ar yr ymgyrch losgi tai haf oedd yn ei fri yng Nghymru yn y 1980au, a'r hyn a allai fod wedi digwydd petai un o'r Meibion wedi cael ei ddal a'i garcharu ar y pryd. Mae Sion yn gwrthod enwi ei gyd-losgwyr, ac mae'r penderfyniad hwnnw yn llywio ei fywyd o'r funud honno ymlaen. Caiff ei garcharu am ddeunaw mlynedd am losgi eiddo a dynladdiad, ac erbyn iddo gael ei ryddhau mae Cymru yn lle gwahanol iawn, a'i deulu a'i ffrindiau wedi symud ymlaen hebddo. All o ffeindio ei le yn ei hen gymuned, neu oes raid iddo ddechrau o'r newydd a rhoi ei hen ddaliadau a'i gredoau o'r neilltu?

View full details