Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Defodau, Y

Defodau, Y

Regular price £10.99 GBP
Regular price Sale price £10.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dyma nofel newydd gan Rebecca Roberts sy'n cydbwyso galar a llawenydd y defodau sy'n fframio stori Gwawr, gan ddangos sut mae colled yn rhan annatod o fywyd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A new novel by Rebecca Roberts that weighs up the sorrows and joys of the ceremonies that frame Gwawr's story, revealing how loss is and integral part of life.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781912905645
Gwales Code
gwales.com.9781912905645
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Defodau, Y
Awdur / Author
Roberts, Rebecca
Current Price ex VAT
£10.99
Current Price inc VAT
£10.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2022-06-20
Cyhoeddwr / Publisher
Honno
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
268 pages
Size
129 × 198 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Rebecca Roberts wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu a chyfieithydd. Magwyd hi ger y môr ym Mhrestatyn, ac mae hi'n byw yno o hyd gyda'i gŵr a'i dau o blant. Mae hi’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn awdures pump nofel. Enillodd y categori Plant a Phobl Ifanc yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 a Gwobr Tir na n-Óg 2021 gyda'i nofel gyntaf i bobl ifanc, #Helynt. Dyma ei nofel gyntaf gyda Gwasg Honno.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Gweinydd yw Gwawr, sef un sy'n cynnal seremonïau enwi, priodasau ac angladdau digrefydd. Mae hi’n cynnal defodau sy'n helpu pobl i ddathlu diwrnodiau gorau eu bywydau, ac i gofio am y meirw. Mae hi'n dda wrth ei gwaith, ac yn falch o'i henw da. Ond am flynyddoedd lawer mae Gwawr wedi cuddio y tu ôl i'r ddelwedd berffaith mae hi wedi ei chreu; wedi mygu ei hiselder y tu ôl i fwgwd o barchusrwydd a phroffesiynoldeb. Pan gaiff y bai ar gam am ddifetha priodas cleient enwog aiff ei henw da yn deilchion, a does ganddi ddim byd arall i'w chynnal. Yn waeth na hynny, ymddengys bod rhywun yn gweithredu'n faleisus yn ei herbyn - yn benderfynol o’i dinistrio! Dim ond drwy ail-ymweld â chyfnod anoddaf ei bywyd y gall Gwawr ddarganfod pwy sy'n ceisio difetha ei gyrfa a'i busnes. Mae'n brofiad heriol, ydy, ond daw cefnogaeth o gyfeiriadau annisgwyl. Gyda chymorth ei chleientiaid a'i ffrindiau, dysga Gwawr wersi pwysig am natur bywyd, cariad a cholled. Ond ar ôl blynyddoedd o gadw pobl o hyd braich, a fydd caniatáu iddi ei hun fod yn fregus yn arwain at ragor o boendod a thor-calon?

View full details