Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Dilyn Caradog

Dilyn Caradog

Regular price £5.99 GBP
Regular price Sale price £5.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

'Mae gan y Rhufeiniaid arfau gwych – ond mae gyda ni'r Brythoniaid dân yn ein calonnau all doddi metel!' Dyna eiriau Caradog, y dewraf o frenhinoedd. Caradog yw arwr Morcant, y Silwriad bach. Breuddwyd Morcant yw dilyn ei arwr a brwydro i yrru'r Rhufeiniaid o'i wlad.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845276430
Gwales Code
gwales.com.9781845276430
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Dilyn Caradog
Awdur / Author
Lewis, Sian
Current Price ex VAT
£5.99
Current Price inc VAT
£5.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2018-03-25
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
136 pages
Size
128 × 198 mm; depth 10 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C020637

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Nofel hanesyddol ddifyr am bwysigrwydd ffyddlondeb, gwerth cyfeillgarwch, ac ystyr perthyn yw Dilyn Caradog gan Siân Lewis. Mae’r stori yn dilyn hanes Brython ifanc o lwyth y Silwriaid o’r enw Morcant. Wrth i awdurdod y Rhufeiniaid gynyddu bob dydd mae’n rhaid i Morcant ddilyn Caradog, pennaeth ei lwyth, ar gais anturus i drechu’r Rhufeiniaid unwaith ac am byth a’u gyrru allan o’i famwlad a’r holl ffordd ar draws y môr yn ôl i Rufain, ond mae nifer o rwystrau yn eu llwybr megis bradwyr, rhyfela a chefnfor mawr dwfn. Mae’r stori wedi ei seilio ar un o chwedlau enwocaf y Cymry, sef y chwedl am Caradog y Celt a gafodd ei gaethiwo gan yr ymerawdwr Clawsiws. Llwyddodd Caradog i ennill ei ryddid yn ôl wedi iddo wrthod moesymgrymu o flaen Clawsiws, ond mae gan y stori hon dro difyr wrth iddi gael ei ailadrodd o safbwynt newydd a gwahanol. Drwy gydol y nofel unigryw a diddorol yma cedwir y darllenydd yn ysu i gael gwybod y cam nesaf yn hynt a helynt Caradog a Morcant. Mae’r diweddglo yn llwyr werth yr aros gan orffen gyda chlo annisgwyl a chyffrous iawn. Cyflwynir y llyfr mewn clawr syml ond effeithiol wedi ei ddylunio a’i ddarlunio gan Anne Cakebread. Mae’r llyfr yn portreadu bywyd bob dydd Brython ifanc o lwyth y Silwriaid yn wych. Credaf fod y llyfr yma’n nofel dda a fyddai’n apelio’n arw at blant Blynyddoedd 5,6 a 7, er y gallai oedrannau eraill ei mwynhau hefyd.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Ond mae'r ffordd yn anodd, ac yn arwain o Brydain i Rufain. Er gwaetha’r peryglon, a all Morcant gadw ei freuddwyd yn fyw?

View full details