Cyngor Llyfrau Cymru
Dirgelwch yr Ogof
Dirgelwch yr Ogof
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Argraffiad newydd o nofel antur gan feistr ar adrodd stori yn portreadu cyffro a pherygl byd y smyglwyr yng Nghwmtydu ar arfordir Ceredigion, 1788-1790. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1977.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A new edition of an adventure novel by a master storyteller portraying the excitement and danger of the smuggler's world around Cwmtydu on the Cardiganshire coast, 1788-90. First published in 1977.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780850884173
- Gwales Code
- gwales.com.9780850884173
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Dirgelwch yr Ogof
- Awdur / Author
- Jones, T. Llew
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Out of print
- Availability Status (CY)
- Allan o brint
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-06-05
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 192 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyna syndod oedd cael cais i ysgrifennu adolygiad ar un o glasuron y Gymraeg ar gyfer plant, a honno ar ei chweched argraffiad! Rhaid dweud bod y clawr yn tynnu sylw, a gobeithio y bydd yn denu darllenwyr am iddynt ei gweld ar y teledu. Mwynheais y profiad oi darllen, ac er fy mod wedi ei gwneud hynny sawl gwaith o'r blaen, roedd mwy o fwynhad y tro hwn. Roedd yr antur, y cyffro ar tensiwn yn fy nghario o bennod i bennod. Doedd y penodau ddim yn rhy hir ac roedd rhywbeth yn digwydd ym mhob un. Hefyd gan fod mwy nag un dirgelwch, a hynnyn codi chwilfrydedd, fe'ch cariai chi drosodd o un bennod ir llall e.e. Ble oedd Harri? Beth oedd y sŵn yn Ogof y Lleisiau? Y mulod? Y Ficer? Rhaid oedd aros hyd y diwedd bron iw datrys. Mae sawl elfen heblaw antur a dirgelwch yn y nofel. Ceir caredigrwydd, rhamant, eiddigedd, mileindra a hiwmor, fel y gwelir yng nghymeriad y Ficer ac yn enwedig yn Samir clochydd. Mae yma ddrygioni yn ogystal. Er bod tri mab Mari Fforin yn codi ofn ar bawb, nid y nhw, yn fy nhyb i ydyr gwir ddihirod ond Wil Gaer Ddu. Gwelwn ardal gyfan yn tynnu at ei gilydd i amddiffyn eu hunain ac i ddangos eu diolchgarwch i Watcyn Parry. Nofel hanesyddol ydy hi, a cheir darlun da or cyfnod o Gwmtydu draw i Lundain y plas, y dafarn, y dull o deithio, caledi bywyd ar Gyfraith. Does dim llawer o sôn am fwyd y cyfnod heblaw am gacen a tharten fwyar duon maen debyg eu bod yn yfed gormod i fwyta! Dangosir bod crefydd yn bwysig, drwyr eglwys ar Ficer a chred Mari Fforin drwyi ffydd yn Anne o Lydaw. Rwyn sicr hefyd, wedi ei darllen, y bydd gan y darllenwyr awydd mynd draw i Gwmtydu, Talgarreg a Llangrannog (er bod y rhan fwyaf o blant Cymru wedi bod yn Llangrannog beth bynnag) ac i Fanc Siôn Cwilt pan na fydd yno niwl nac eira. Does dim rhaid dweud bod yr ysgrifennun fedrus, ac wrth ei darllen gellir clywed llais T. Llew Jones yn adrodd y stori. Maer cymariaethaun benigamp e.e. merlod yn dringo fel neidr ddiog, cychod mawr a mân ... fel crwbanod yn ymgeisio swation isel rhag y gwynt ar tonnau. Dyma nofel syn llenyddol yn ogystal â bod yn stori dda. Oes unrhyw fai? Nid bai ydy hwn mewn gwirionedd, ond efallai fod amseroedd crynor ferf yn anghyfarwydd i blant heddiw ac y dylid bod wedi darllen y proflennin fwy gofalus?
Share
