Cyngor Llyfrau Cymru
Dolffin Gwyn
Dolffin Gwyn
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Tra bod Kara yn chwilio am noddfa wrth rodio'r tonnau yn llong ei thad oherwydd iddi gael ei bwlio yn yr ysgol am ei bod yn dioddef o ddyslecsia, ac am ei bod yn poeni'n ddirfawr am ddiflaniad anesboniadwy ei mam, mae Felix yn ddig wrth ei rieni am symud i fyw ar yr arfordir gan ei fod yn colli cwmni ei ffrindiau yn Llundain.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Bullied at school for her dyslexia and troubled by her mother's unexplained disappearance, Kara seeks sanctuary sailing the ocean's waves in her father's boat. Meanwhile, Felix resents his well-meaning parents for dragging him to live by the coast and misses his old friends back in London.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781849671514
- Gwales Code
- gwales.com.9781849671514
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Dolffin Gwyn
- Awdur / Author
- Lewis, Gill
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-02-21
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Translator
- Meek, Elin
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 288 pages
- Size
- 22 × 214 mm; depth 134 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae Dolffin Gwyn yn nofel fywiog, synhwyrus, amlochrog yn adrodd stori merch o’r enw Cara a'i ffrind newydd Felix. Mae’n stori am gadwraeth ac am ddarganfod prydferthwch y môr a’r bywyd gwyllt sydd yn byw ynddo. Ond mae’n stori hefyd am golled a galar, a dygymod ag ansicrwydd ac ofn. Yn ychwanegol, mae’n stori am fod yn wahanol, am fod yn egwyddorol ac yn deg. Ond er bod y themâu hyn yn awgrymu nofel drom, mae’r cymeriadu a’r stori mor gryf fel bod y darllenydd yn cael ei gario’n ddidrafferth o un dudalen i'r nesaf, gan ymgolli yn hanes y cymeriadau. Cara yw prif gymeriad y nofel – merch ysgol sy'n ceisio dygymod â diflaniad ei mam flwyddyn ynghynt. Mae’r stori'n digwydd mewn tref bysgota fechan lle mae’r rîff cwrel dŵr oer dan fygythiad gan bysgotwr diegwyddor. Roedd mam Cara yn arwain prosiect gwarchodaeth yn yr ardal ac mae Cara wedi etifeddu bwriadau da ei mam. Mae Felix yn fachgen o Lundain sydd o'r un oed â Cara. Er bod ganddo rai anableddau, mae’n darganfod ei fod yn hwyliwr o reddf a thrwy Cara daw i werthfawrogi bywyd y môr. Daw cyfle i dynnu sylw at y frwydr i ddiogelu’r rîff pan gaiff dolffin gwyn ei olchi ar y traeth, a rhwyd blastig wedi ei chlymu amdano. Mae Cara a Felix yn llwyddo i arwain ymgyrch i achub y dolffin a diogelu’r rîff. Mae’n stori amlochrog a daw uchafbwynt dramatig iawn iddi wrth i Cara a Felix achub Jake, mab y pysgotwr diegwyddor, o ganol storm fawr. Mae’r bennod sydd yn disgrifio Felix yn hwylio’i gwch drwy’r storm i’r harbwr diogel yn enghraifft o ysgrifennu gwirioneddol afaelgar a synhwyrus. Bydd pob darllenydd yn sicr yn uniaethu â drama fawr y bennod honno. Dyma gyfrol gwerth ei darllen o ran stori a chymeriadu, ond mae’n ddeunydd darllen grymus hefyd oherwydd y gwerthoedd y mae’n eu cynrychioli. Daw cadwraeth y môr yn destun deniadol ac angenrheidiol trwy gyfrwng y nofel, gan bwysleisio yr un pryd werth cynhenid pob person a phob creadur, ac mae lle a gwerth yr ysbrydol fel rhan o fywyd bob dydd yn is-lais ychwanegol drwy'r cyfan. Gallai Cara, dan law ysgrifennu gwanach, fod yn gymeriad hynod ddiflas a hunandybus, ond yn y nofel hon y mae’n ferch annwyl, er yn styfnig, ac yn un sy'n ennyn cydymdeimlad yr un pryd. Hon yw'r ail nofel gan Gill Lewis sydd wedi'i haddasu i’r Gymraeg ac mae Elin Meek wedi llwyddo i ddefnyddio cyfoeth o enwau creaduriaid y môr yn rhwydd a didrafferth. Ond – ac 'ond' bychan yw hwnnw, mae ynddi nifer o gamgymeriadau argraffu y gellid bod wedi eu hosgoi.
Share
