Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Dr Ranj: Dysgu am Dyfu a Theimlo'n Wych - Llawlyfr i Fechgyn

Dr Ranj: Dysgu am Dyfu a Theimlo'n Wych - Llawlyfr i Fechgyn

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Weithiau gall tyfu i fyny deimlo'n debyg i fod mewn ffilm arswyd! Efallai dy fod yn teimlo'n ddryslyd; yn hunanymwybodol; ond yn llawn cyffro hefyd. Mae'n siŵr fod mil o gwestiynau'n gwibio drwy dy feddwl. Paid â phoeni; dwi yma i dy gefnogi. Dyma ganllaw cyfoes i fechgyn ar eu prifiant. Addasiad Cymraeg o How to Grow Up and Feel Amazing .

Disgrifiad Saesneg / English Description

The nation's favourite doctor, Dr Ranj, is here to explain everything you ever wanted to know about puberty - plus lots more. What does it mean to be a boy? And I'm not just talking about what you have between your legs, but what life is really like for boys. Everything I've learned from my career as an NHS doctor and my experiences is in this twenty-first-century guide to being a boy.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781804163429
Gwales Code
gwales.com.9781804163429
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Dr Ranj: Dysgu am Dyfu a Theimlo'n Wych - Llawlyfr i Fechgyn
Awdur / Author
Ranj, Dr
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2023-08-01
Cyhoeddwr / Publisher
Rily
Translator
Lewis, Catrin Wyn
Darlunydd / Illustrator
O'Connell, David
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
160 pages
Size
152 × 215 mm; depth 14 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau Cyfair Cyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General Reference Books (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dwi ddim yn cofio Mam a Dad byth yn eistedd i lawr efo fi a fy chwaer i gael ‘y sgwrs’ am ffeithiau bywyd a sut gawson ni ein ‘creu’. Ar un llaw, ella fasa hynny wedi bod yn eithaf defnyddiol, ond wedi meddwl yn iawn, dwi’n meddwl fasa fo wedi bod yn rhy lletchwith. Yn y dyddia’ hynny (a dwi ddim ond yn sôn am y 90au) doeddach chi jest DDIM yn trafod rhyw yn gyhoeddus, ac yn bendant ddim efo’ch rhieni. Dwi ddim yn cofio’n iawn sut wnes i ddod i ddeall ‘sut mae pethau yn gweithio’ ond dwi’n bendant am un peth – doedd o ddim o ganlyniad i’r gwersi ‘sex ed’ yn yr ysgol achos roedd rheiny’n anobeithiol! Mae gen i ryw gof o ffeindio gwyddioniadur reit fanwl ar y silff adra a chael agoriad llygad go iawn! Wrth gwrs mae isio dysgu am y bioleg tu ôl i’r cyfan, ond mae llawer mwy iddi na hynny. Yn wahanol i’r llyfrau llychlyd, hen ffasiwn oedd gennym ni, mae’r llyfr deniadol, modern yma yn sôn am nifer o bynciau cyfoes fel iechyd meddwl, rhywedd, cyfryngau cymdeithasol, teuluoedd cyfunol, gorbryder, catfishing a phethau felly – llawer mwy na jest dysgu am sut mae sberm ac wy yn dod at ei gilydd (ond, ie, mi fyddwch chi’n falch o glywed fod yna ddiagramau o’r mân bethau hynny yn rhywle yn y llyfr!). Gweld y llyfr yma wnes i yn Saesneg gyntaf, a chlywed wedyn fod Rily wedi gwneud addasiad o lyfr poblogaidd Dr Ranj Dysgu am Dyfu: Llawlyfr i Fechgyn . Mae’n bwysig nodi nad llyfr am ryw yn unig yw hwn. Mae’n cynnwys gwybodaeth am lwyth o bethau defnyddiol a difyr sydd yn ymwneud â thyfu i fyny, a’r holl newidiadau gwyllt a gwallgo’ sy’n digwydd yn ystod y glasoed. Stwff fel hylendid personol, perthnasau, chwaraeon, cadw’n iach, iechyd meddwl, seibrfwlio, ffrindiau, hormonau, emosiynau a mwy ... mae’r rhestr yn parhau! Yn siarad o brofiad, mae bechgyn yn aml iawn yn cael enw drwg am fod yn ‘blentynnaidd’ neu’n anaeddfed ynghylch materion yn ymwneud â rhyw, ond dwi’n meddwl fod hynny’n annheg braidd. Mae bechgyn eisiau dysgu am y pethau ’ma i gyd, ond mae angen iddyn nhw gael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n mynd i apelio. Dyna’n union mae’r llyfr yma’n ei wneud. Dwi ddim yn cofio Mam a Dad byth yn eistedd i lawr efo fi a fy chwaer i gael ‘y sgwrs’ am ffeithiau bywyd a sut gawson ni ein ‘creu’. Ar un llaw, ella fasa hynny wedi bod yn eithaf defnyddiol, ond wedi meddwl yn iawn, dwi’n meddwl fasa fo wedi bod yn rhy lletchwith. Yn y dyddia’ hynny (a dwi ddim ond yn sôn am y 90au) doeddach chi jest DDIM yn trafod rhyw yn gyhoeddus, ac yn bendant ddim efo’ch rhieni. Dwi ddim yn cofio’n iawn sut wnes i ddod i ddeall ‘sut mae pethau yn gweithio’ ond dwi’n bendant am un peth – doedd o ddim o ganlyniad i’r gwersi ‘sex ed’ yn yr ysgol achos roedd rheiny’n anobeithiol! Mae gen i ryw gof o ffeindio gwyddioniadur reit fanwl ar y silff adra a chael agoriad llygad go iawn! Wrth gwrs mae isio dysgu am y bioleg tu ôl i’r cyfan, ond mae llawer mwy iddi na hynny. Yn wahanol i’r llyfrau llychlyd, hen ffasiwn oedd gennym ni, mae’r llyfr deniadol, modern yma yn sôn am nifer o bynciau cyfoes fel iechyd meddwl, rhywedd, cyfryngau cymdeithasol, teuluoedd cyfunol, gorbryder, catfishing a phethau felly – llawer mwy na jest dysgu am sut mae sberm ac wy yn dod at ei gilydd (ond, ie, mi fyddwch chi’n falch o glywed fod yna ddiagramau o’r mân bethau hynny yn rhywle yn y llyfr!). Gweld y llyfr yma wnes i yn Saesneg gyntaf, a chlywed wedyn fod Rily wedi gwneud addasiad o lyfr poblogaidd Dr Ranj Dysgu am Dyfu: Llawlyfr i Fechgyn . Mae’n bwysig nodi nad llyfr am ryw yn unig yw hwn. Mae’n cynnwys gwybodaeth am lwyth o bethau defnyddiol a difyr sydd yn ymwneud â thyfu i fyny, a’r holl newidiadau gwyllt a gwallgo’ sy’n digwydd yn ystod y glasoed. Stwff fel hylendid personol, perthnasau, chwaraeon, cadw’n iach, iechyd meddwl, seibrfwlio, ffrindiau, hormonau, emosiynau a mwy ... mae’r rhestr yn parhau! Yn siarad o brofiad, mae bechgyn yn aml iawn yn cael enw drwg am fod yn ‘blentynnaidd’ neu’n anaeddfed ynghylch materion yn ymwneud â rhyw, ond dwi’n meddwl fod hynny’n annheg braidd. Mae bechgyn eisiau dysgu am y pethau ’ma i gyd, ond mae angen iddyn nhw gael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n mynd i apelio. Dyna’n union mae’r llyfr yma’n ei wneud. Addasiad o adolygiad oddi ar wefan Son am Lyfra / An adaptation of a review from the Son am Lyfra website.

View full details