Cyngor Llyfrau Cymru
Dr Who - Dewis dy Dynged: Crafangau'r Macra
Dr Who - Dewis dy Dynged: Crafangau'r Macra
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Ymuna â'r Doctor ac Amy ar eu teithiau trwy amser a'r gofod, a dylanwada ar y stori gyda dy benderfyniadau. Dewisa gyfeiriad, a gad i'r anturiaethau ddechrau. Mae perygl ac antur yn dy ddisgwyl ar daith ysgol i burfa nwy sy'n llawn crancod arallfydol anferth! Dim ond Amy a'r Doctor all rwystro'r Macra! Addasiad Cymraeg o Decide Your Destiny: The Claws of the Macra .
Disgrifiad Saesneg / English Description
Join the Doctor and Amy on their travels through time and space and influence the story with your decisions. Choose a direction and let the adventures begin. Danger and adventure await you on a school trip to a gas refinery infested by giant alien crustaceans! Only the Doctor and Amy put a stop to the Macra's plans! A Welsh adaptation of Decide Your Destiny: The Claws of the Macra .
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781904357506
- Gwales Code
- gwales.com.9781904357506
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Dr Who - Dewis dy Dynged: Crafangau'r Macra
- Awdur / Author
- Baxendale, Trevor
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-08-05
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Editor
- Mair, Bethan
- Translator
- Jones, Tudur Dylan
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 146 pages
- Size
- 128 × 196 mm; depth 14 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dechreua’r stori yma ar drip ysgol i burfa nwy – lleoliad eitha peryglus, a dweud y gwir. Ond mae yna fwy o antur fyth pan ddaw Tardis Doctor Who ac Amy i’r golwg! Mae’r darllenydd bob amser yn rhan o’r stori, ac yn yr ail berson yr ysgrifennwyd y cyfan. Llyfr cyffrous a diddorol yw hwn, a’r rheswm pennaf am hyn, yn fy marn i, yw mai’r darllenydd sy’n arwain y stori. Mae’r penodau'n fyr – rhyw dudalen ar y tro, ac ar ddiwedd pob pennod ceir opsiynau gwahanol, e.e: ‘Os wyt ti’n meddwl bod y Macra eisiau helpu’r ddynoliaeth cer i 14.’ ‘Os wyt ti’n meddwl bod y Macra’n dweud celwydd cer i 79.’ Golyga hyn fod y darllenydd yn dewis cyfeiriad y stori. Mae hefyd yn golygu nad yw’n darllen bob tudalen am fod y stori'n neidio ’nôl ac ymlaen. Ar y dechrau roedd hi'n eitha anodd cofio ble roeddwn i, ond ar ôl sbel daeth yn hwyl i wneud y penderfyniadau. Un peth arall, wrth gwrs, yw bod y stori yn newid os ydych yn ei ailddarllen ac yn dewis opsiynau gwahanol. Ac mae’r stori yn fwy cyffrous oherwydd bod gwefan yn cyd-fynd â’r stori, ac mae yna rifau côd i’w rhoi yn y cyfrifiadur sydd yn agor golygfeydd sy'n llawn lliw a sain. Mwynheais ddarllen y llyfr hwn. Mae’r iaith yn hawdd ei deall – gydag ambell ymadrodd Doctor Who-aidd wrth gwrs! Mae’r stori yn symud yn gyflym, ac rwy’n siwr bydd y llyfr yn apelio at ffans Doctor Who a phobl ifanc sy’n hoffi stori antur.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Decide Your Destiny (Interactive) Range: Join the Doctor and Amy on their travels through time and space and influence the story with your decisions. Choose a direction and let the adventures begin.... Danger and adventure await you on a school trip to a gas refinery infested by giant alien crustaceans! Only the Doctor and Amy put a stop to the Macra’s plans and save Earth!
Share
