Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Drwy'r Beibl Drwy'r Flwyddyn

Drwy'r Beibl Drwy'r Flwyddyn

Regular price £14.99 GBP
Regular price Sale price £14.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Addasiad o Through the Bible Through the Year gan John Stott. Ceir yma 365 o fyfyrdodau, yn tywys y darllenydd drwy'r Beibl yn ei drefn gronolegol. Mae'n cyfeirio at y prif wyliau eglwysig ac yn delio â phrif feini canolog y ffydd Gristnogol. Cyfrol a fyddai'n gwneud anrheg wych.

Disgrifiad Saesneg / English Description

This title takes the reader through the entire Bible in one year. It offers the reader on overview of the Old and New Testaments, and a refresher on Christian teaching. From Creation to Christ, it relives the story of Jesus and the Acts, and reflects on Christian life and hope. A Welsh adaptation of Through the Bible Through the Year .

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781859946695
Gwales Code
gwales.com.9781859946695
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Drwy'r Beibl Drwy'r Flwyddyn
Awdur / Author
Stott, John
Current Price ex VAT
£14.99
Current Price inc VAT
£14.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-09-29
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau'r Gair
Translator
Morris, Meirion
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
432 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Crefydd, Hanes Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion, History of Religion (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Gweddïau, Myfyrdodau a Defosiynau (yn Gymraeg) | EN: Prayers, Meditations and Devotions (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Casgliad o fyfyrdodau athrawiaethol yn seiliedig ar brif themâu’r Beibl, ar gyfer bob dydd o’r flwyddyn, a geir yn y gyfrol hon. Seilir y sylwadau dyddiol ar adnod neu ddwy o’r Ysgrythur gan ddilyn patrwm y Calendr Cristnogol a luniwyd gan Grŵp Litwrgaidd Undebol Prydain. I aelodau’r eglwysi hynny sy’n dilyn y Calendr o Sul i Sul, bydd y gyfrol hon yn adnodd hynod werthfawr yn eu galluogi i wreiddio eu defosiwn personol yn addoliad cyhoeddus y gynulleidfa. Awdur y gyfrol yw John Stott, cyn-reithor eglwys enwog All Souls, Langham Place, Llundain, awdur toreithiog ac un o arweinwyr amlycaf yr adain efengylaidd yn Eglwys Loegr. Fel gŵr efengylaidd ei safbwynt, y mae’n awyddus i wreiddio themâu’r Calendr Eglwysig yn y Beibl ac yn hanes ymwneud Duw â’r byd fel Tad, Mab ac Ysbryd Glân. Fel y mae’r Calendr yn rhannu i dri chyfnod, rhennir y gyfrol hon yn yr un modd, gyda’r cyfnod cyntaf (Medi i Ragfyr) yn canoli ar waith Duw y Tad yn paratoi ei bobl drwy’r Hen Destament ar gyfer dyfodiad y Meseia; yr ail gyfnod (Ionawr i Ebrill) yn canoli ar waith Duw yn Iesu Grist a’i weinidogaeth achubol, a’r trydydd cyfnod (Mai i Awst) yn olrhain gwaith yr Ysbryd Glân ym mywyd a gwaith yr eglwys. Fel Anglican o argyhoeddiad y mae Stott yn gymhedrol a deallus ei safbwynt. Daw hyn i’r amlwg yn y modd yn mae’n ymdrin â hanes y creu ym mhenodau agoriadol Genesis, gan fynnu nad ydy’r Beibl erioed wedi ei fwriadu gan Dduw i fod yn werslyfr gwyddonol. Nid yw’n gweld unrhyw anghytundeb rhwng disgrifiad barddonol Genesis o’r creu a damcaniaethau’r gwyddonwyr. Trueni na fyddai’r ffwndamentalwyr cibddall sy’n dod dan lach Richard Dawkins a’i debyg yn dilyn arweiniad John Stott. Yn yr un modd mae ei ddehogliad o ystyr y groes yn gytbwys ac yn cwmpasu’r gwahanol ddelweddau a geir yn y Testament Newydd i gyfleu arwyddocâd aberth Crist. Gellid defnyddio’r gyfrol hon nid yn unig i ddiben defosiwn personol, ond hefyd ar gyfer astudiaeth mewn grwpiau neu fel adnodd mewn gwasanaethau cyhoeddus. Cyfieithwyd y gwaith i’r Gymraeg yn gelfydd gan Meirion Morris ac y mae ei drosiad yn ystwyth a darllenadwy. Rydym eto fyth yn nyled Cyhoeddiadau’r Gair am ychwanegu’r gyfrol hardd hon at restr faith a defnyddiol y wasg o lyfrau crefyddol.

View full details