Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Dwy Stori Hurt Bost

Dwy Stori Hurt Bost

Regular price £5.95 GBP
Regular price Sale price £5.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dwy stori hurt bost ar gyfer darllenwyr hurt bost tua 10-14 oed (blynyddoedd ysgol 6-9). Un yn iaith y gogs a'r llall yn iaith yr hwntws, a'r ddwy wedi'u hysbrydoli gan ddisgyblion ysgol.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Two absurd stories for absurd readers around 10-14 years old (school years 6-9). One is written in north Wales dialect, and the other in south Wales dialect. Both stories were inspired by school pupils.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780860742593
Gwales Code
gwales.com.9780860742593
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Dwy Stori Hurt Bost
Awdur / Author
Gwanas, Bethan
Current Price ex VAT
£5.95
Current Price inc VAT
£5.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-03-30
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Gwynedd
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
64 pages
Size
129 × 198 mm; depth 7 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Bethan Gwanas yn byw efo gast goch mewn tŷ yn y coed wrth ymyl Cader Idris, ac wedi bod yn sgwennu am bethau hurt ers blynyddoedd.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma gyfrol sydd unwaith eto’n amlygu dawn Bethan Gwanas i ysgrifennu straeon difyr, darllenadwy, rhai sy’n gyfoes ac yn ddeniadol i bobl ifanc, ac sy’n afaelgar gyda digon o fynd ynddynt ar yr un pryd! Mae dwy stori fer hir yn y gyfrol hon, a’r ddwy stori yn ffantasïol eu natur ac eto â chymeriadau digon real y gall pobl ifanc uniaethu â hwy. Mae cymaint o angen straeon cyfoes yn Gymraeg sy’n sôn am bethau sy’n bwysig ym mywydau ieuenctid, megis teclynnau fel y Nintendo a geir yma. Mae’r straeon wedi’u hanelu at ddarllenwyr hŷn yr ysgol gynradd a dechrau’r ysgol uwchradd, ac maent yn ysgafn ac yn rhwydd iawn i’w darllen. Mae ’na gyfoeth yn y gyfrol o ran ei hiaith Gymraeg, o’r ymgais fwriadol i gynnwys iaith y gogs a’r hwntws i gymysgu Cymraeg llenyddol, traddodiadol ag iaith lafar (heb sôn am iaith Ladin yr ail stori!). Teimlais weithiau nad oedd esgusodion adroddwr y stori gyntaf fod gan ei ffrind Gymraeg gwell nag ef er mwyn cyflwyno geiriau Cymraeg (e.e. “cyfarwyddiade (‘instrycshions’ i chi a fi”)) yn taro deuddeg bob tro, ond rhaid canmol yr ymdrech i geisio estyn allan at ddarllenwyr sydd â Chymraeg o bob lliw a llun. Braf fyddai cael rhagor o straeon hurt bost o’r fath…

View full details