Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Dyddiadur Dripsyn: 3. Syniad Dwl Dad

Dyddiadur Dripsyn: 3. Syniad Dwl Dad

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae'n siŵr dy fod ti wedi clywed am yr arfer o lunio rhestr o addunedau ar ddechra blwyddyn, addunedau ddylai dy wneud di'n berson gwell. Wel, mae gen i broblem. Dydy hi ddim yn hawdd i rywun fel fi - sy bron yn berffaith - feddwl am ffyrdd o wella'i hun. Ond tydi Dad ddim yn cytuno â hynny. Mae o am i mi newid o fod yn ddripsyn i ddechrau gwneud pethau mwy gwrol.

Disgrifiad Saesneg / English Description

This book is the rib-tickling, belly-aching and laugh-out-loud third title in the Dyddiadur Dripsyn (Diary of a Wimpy Kid) series by Jeff Kinney. Perfect for both boys and girls of 8+, reluctant readers and all the millions of devoted Wimpy Kid fans out there.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781849671576
Gwales Code
gwales.com.9781849671576
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Dyddiadur Dripsyn: 3. Syniad Dwl Dad
Awdur / Author
Kinney, Jeff
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-07-25
Cyhoeddwr / Publisher
Rily
Translator
Sion, Owain
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
224 pages
Size
129 × 198 mm; depth 16 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cafodd Greg Heffley, sef y Dripsyn honedig, ddyddiadur yn anrheg gan ei dad, ac ynddo mae’n cofnodi ei helyntion drygionus a’i droeon trwstan. Mae cynhwysion stori’r ‘bachgen drwg’ – yn yr un traddodiad a Nedw (E. Tegla Davies) a Just William (Richmal Crompton) – yma i gyd, sy’n sicr o fod yn boblogaidd gyda phlant, yn enwedig bechgyn. Mae yma luniau du a gwyn hyfryd gan Jeff Kinney ar bob tudalen. Mae’r iaith yn dafodiaeth ogleddol, efallai yn rhy ogleddol ar adegau – roedd yna rai geiriau dieithr iawn i blant o dde Cymru (e.e. drybola, hysio, tantro, swadan, honco, hartan) a allai, efallai ymestyn eu geirfa, neu eu drysu! Mae’r testun yn llawn hiwmor, a’r lluniau yn ategu hynny. Mae yma gymeriadau byw a chofiadawy - Greg ei hun, ei dad a’i frodyr Roderic a Mani. Mae’r fformat dyddiadur yn fodd i annog plant i ddechrau eu dyddiadur eu hunain. Er bod yr awdur o America mae’r addasiad hwn yn hynod Gymreig. Mae pob diwrnod fel pennod fach wahanol, gydag elfennau fydd yn apelio at blant 11–13 oed, fel y gariadferch Heulwen Hills sy’n anwybyddu Greg, y brawd Roderic sy’n ei gasáu, y brawd bach sy’n cael ei ddifetha’n rhacs, a’i gyfaill ffyddlon Roli. Mi fydd plant yn sicr o gael y llyfr hwn yn ddifyr, ac mae’n fodd i annog y rhai llai academaidd i ddarllen ac i ysgrifennu.

View full details