Cyngor Llyfrau Cymru
Dyddiadur Nel
Dyddiadur Nel
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyddiadur i blant 6-12 oed, wedi'i seilio ar lyfr Na, Nel! gan Meleri Wyn James. Wythnos dros ddwy dudalen a lle i ysgrifennu cofnod bob diwrnod. Bydd lle i lenwi amserlen ysgol a digwyddiadau eraill a bydd yn llawn hwyl, dwdls, gwybodaeth am Nel a digon o dudalennau i ysgrifennu cyfrinachau cudd! Dyma'r unig ddyddiadur Cymraeg i blant. Adargraffiad. Cyhoeddiad cyntaf 2014.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A diary for 6-12 year old children, based on the book Na, Nel! by Meleri Wyn James. Two pages for each week with space to record every day's activities, both at school and outside school, including doodles and information about Nel. The only Welsh diary for children. Reprint. First Published in 2014.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784610012
- Gwales Code
- gwales.com.9781784610012
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Dyddiadur Nel
- Awdur / Author
- James, Meleri Wyn
- Current Price ex VAT
- £4.95
- Current Price inc VAT
- £4.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2017-04-18
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 144 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Dyddiaduron (yn Gymraeg) | EN: Diaries (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Dyddiaduron (yn Gymraeg) | EN: Diaries (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae Meleri Wyn James wedi ysgrifennu chwe llyfr, yn cynnwys Dyddiadur Nel . Mae Nel yn ferch ddireidus sydd byth yn gwrando! Mae hi’n byw gyda’i brawd mawr Twm, Mam a Dad a’i hanifeiliaid anwes, Mr Fflwff y gath a Plop y pysgodyn. Mae llawer o chwedlau a straeon Cymreig ynddo, fel hanes Santes Dwynwen, Dewi Sant a Twm Siôn Cati. Hefyd mae yna jôcs, lluniau, dyddiadau pwysig a nodiadau bach gan Nel. Mae fy hoff jôc i ar dudalen 75, ond dwi'n methu ei hadrodd fan hyn neu fydda i wedi’i sbwylio i chi'r darllenwyr! Mae’r dyddiadur yn nodi’r mis a’r dyddiad yn glir, ac weithiau ceir ryseitiau e.e. sut i wneud crempog, a phethau i’w gwneud e.e. bocs trysorau. Buaswn yn argymell y dyddiadur yma i blant 6–10 oed. Ysgrifennwch bethau sy’n digwydd i chi, ynghyd â'ch cyfrinachau i gyd, OND (ac mae hyn yn bwysig iawn), peidiwch â dangos y dyddiadur i neb!
Share
