Cyngor Llyfrau Cymru
Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr
Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
I nodi chwechanmlwyddiant tebygol marw Owain Glyndŵr, dyma astudiaeth o'r traddodiadau a ddatblygodd ynghylch ei ddyddiau olaf, man ei farwolaeth a mannau posib ei gladdu. Edrychir o'r newydd ar yr honiadau a wnaed ynghylch mannau claddu Glyndŵr, gan seilio'r ymdriniaeth ar ymchwil mewn llawysgrifau ac ar ymchwil ar lawr gwlad.
Disgrifiad Saesneg / English Description
To mark six hundred years since the probable date of Owain Glyndŵr's passing, this is a study of the traditions that developed regarding his lastdays, and the posible location of his death and burial.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784611569
- Gwales Code
- gwales.com.9781784611569
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr
- Awdur / Author
- Williams, Gruffydd Aled
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2016-07-21
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Hughes, Iestyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 224 pages
- Size
- 215 × 140 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: 500-1536 (yn Gymraeg) | EN: 500-1536 (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Ganwyd Gruffydd Aled Williams yn Ninbych a'i fagu yn Ninmael, Sir Ddinbych, a Glyndyfrdwy, Sir Feirionnydd. Bu'n darlithio yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn a Phrifysgol Cymru, Bangor ac yna'n Athro'r Gymraeg a Phennaeth Adran y Gymraeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o 1995 hyd 2008. Bu'n olygydd Llên Cymru o 1997 hyd 2012 a chyhoeddodd eisoes yn ystod y blynyddoedd diwethaf sawl erthygl ar Owain Glyndŵr.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Teg dweud bod Owain Glyndŵr, a gyhoeddwyd yn Dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy ym mis Medi 1400, wedi tanio dychymyg cenedl y Cymry drwy'r canrifoedd, ond mae blynyddoedd olaf ei oes yn parhau'n un o ddirgelion mawr ein hanes. Tyfodd myth o'u hamgylch. Honnai'r beirdd na fu farw o gwbl ac y byddai'n dychwelyd, ryw ddiwrnod, i arwain y Cymry i annibyniaeth. Bu'r freuddwyd hon, y deuai mab darogan i achub ei wlad, yn cynnal y genedl am ganrifoedd. Owain Glyndŵr oedd yr arweinydd Cymreig olaf i arwain gwrthryfel yn erbyn brenin Lloegr a hynny ar ddechrau'r bymthegfed ganrif. Yn hanu o linach frenhinol Powys a Deheubarth, ef oedd uchelwr Cymreig cyfoethocaf ei gyfnod, a chanddo ddau lys hardd – yng Nglyndyfrdwy a Sycharth. Ymysg ei ddyheadau ar gyfer Cymru roedd sefydlu gwlad annibynnol gyda senedd, eglwys Gymreig a dwy brifysgol, a llwyddodd i ennill cefnogaeth rhan helaeth o Gymru ac, am gyfnod, frenin Ffrainc yn ogystal. Roedd ei wrthryfel yn ei anterth rhwng 1400 a 1405, ond erbyn 1406 roedd ei ymgyrch yn colli tir ac ni wireddodd Glyndŵr ei freuddwydion uchelgeisiol. A bellach mae'r ysgolhaig Gruffydd Aled Williams yn dilyn ôl traed dau hanesydd o Gymru a wnaeth gyfraniad arbennig at ein dealltwriaeth o hanes Glyndŵr sef Syr John Edward Lloyd a Sir R. Rees Davies. Mae eleni yn adeg briodol dros ben oherwydd tybir mai yn y flwyddyn 1415, sef yn union chwe chanrif yn ôl i eleni, y bu farw Owain Glyndŵr. Nod yr awdur, Gruffudd Aled Williams, yw ceisio 'gwahaniaethu rhwng y gau a'r gwir' yn yr hanes rhyfeddol hwn, ac mae'n cydnabod ei ddyled i nifer fawr o ysgolheigion blaenllaw a'i cynorthwyodd. Ychwanegir at apêl weladwy'r llyfr gan y lluniau lliw ysblennydd o wahanol leoliadau yng Nghymru a swydd Henffordd, y mwyafrif ohonynt o waith Iestyn Hughes. Rhennir y gyfrol yn bedair adran, a phob un o'r rhain yn cynnwys nifer o benodau byrion, hawdd eu deall a'u dehongli. Mae'r adran gyntaf yn crynhoi'n gelfydd ac awdurdodol yr hyn sy'n hysbys am Owain Glyndŵr a'i wrthryfel o 1400 ymlaen, gan fawrygu ei lwyddiannau milwrol, gwleidyddol a diplomataidd digymar. Yna eir ymlaen i ystyried y gweithiau hynny sydd yn trafod hanes Owain Glyndŵr, rhai mewn llawysgrifau, eraill mewn ffynonellau print. Ym mhennod 4 trafodir yr hyn sydd yn hysbys am farwolaeth Glyndŵr a'r digwyddiadau a arweiniodd at ei farw. Mae'r Athro o'r farn mai ar yr 20fed neu'r 21ain o Fedi 1415 y bu farw Glyndŵr, ond mae'r man y'i claddwyd yn parhau'n broblem na ellir ei datrys. O fewn y bennod hon hefyd rhoddir ystyriaeth bellach i'r mater o oedran Glyndŵr. Y tebyg yw y ganwyd ef yn y flwyddyn 1359 neu efallai ychydig cyn hynny, ac mae rhai ffynonellau yn awgrymu dyddiad rhwng 1349 a 1354, hyd yn oed. Neilltuwyd ail ran y gyfrol ar gyfer ystyriaeth o wyth lleoliad penodol yn swydd Henffordd sydd o bwys canolog i'r hanes, ac yn eu plith mae Fforest Haywood, Monnington-on-Wye, Lawton's Hope, Monnington Straddle a Kimbolton. Yng ngeiriau'r awdur, 'Bwriad unrhyw ailgladdu fyddai cuddio safle bedd Owain rhag pawb ond, efallai, ei berthnasau agos ac ychydig gefnogwyr pybyr'. Os dyna'r bwriad yn wir, bu'n bur lwyddiannus drwy'r canrifoedd ers hynny. Yn ddiddorol ddigon, rhoddir llawer iawn llai o sylw i Gymru yn y drydedd adran nag i swydd Henffordd yn yr ail. Tybir mai o fewn Cymru y treuliodd Glyndŵr y rhan fwyaf o'i amser rhwng 1411 a 1415. Er nad oedd llawer o fygythiad milwrol o gyfeiriad dilynwyr Owain Glyndŵr erbyn y cyfnod hwn a'r gwrthryfel wedi chwythu ei blwc i raddau helaeth, roedd fflam y gwrthryfel yn parhau i fudlosgi'n ystyfnig mewn ambell ardal. Ac mae'r adran olaf, sef 'Brud' neu ddarogan, yn crynhoi'n ddestlus y rhan bwysig a chwaraeodd hanes a thraddodiadau Owain Glyndŵr yn y canu brud yn dilyn y gwrthryfel. Mae barddoniaeth y bymthegfed ganrif yn fynych yn cyfeirio at Glyndŵr fel un sydd o bosibl eto'n fyw neu un a allai atgyfodi ar ryw adeg, ac atgyfnerthwyd y syniad o fab darogan. Rhoddir sylw llawn i lun Cwrt Llan-gain. Honna rhai awdurdodau mai llun o Siôn Kent a ddarlunnir yma yn hytrach nag Oain Glyndŵr, ond mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai arlunydd o'r Iseldiroedd tua diwedd y bymthegfed ganrif a'i paentiodd. Yna cawn lyfryddiaeth lawn a mynegai manwl. Drwy gydol yr ymdriniaeth darperir ôl-nodiadau defnyddiol sydd yn dyst i ymchwil fanwl a darllen eang a meddylgar dros nifer o flynyddoedd. Diolch i'r Lolfa am gynhyrchu cyfrol hyfryd ei diwyg.
Share
