Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Dyn heb ei Gyffelyb yn y Byd - Owain Myfyr a'i Gysylltiadau Llenyddol — Owain Myfyr A'i Gysylltiadau Llenyddol

Dyn heb ei Gyffelyb yn y Byd - Owain Myfyr a'i Gysylltiadau Llenyddol — Owain Myfyr A'i Gysylltiadau Llenyddol

Regular price £12.99 GBP
Regular price Sale price £12.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Y llyfr hwn yw'r cofiant cyntaf i Owain Myfyr, un o'r cymwynaswyr mwyaf yn hanes y diwylliant Cymraeg, a gŵr a ddisgrifiwyd gan ei gyfaill Iolo Morganwg fel 'dyn heb ei gyffelyb yn y byd'. Fe'i ganwyd yn Llanfihangel Glyn Myfyr, Sir Ddinbych, yn 1741; ond tra oedd yn ŵr ifanc ymfudodd i Lundain. Yno, daeth i fod yn grwynwr llewyrchus, ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Gwyneddigion.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The first biography of Owain Myfyr, one of the foremost names in Welsh cultural history, and a man described by his friend Iolo Morganwg as 'a man without his equal in the world'. He was born in Llanfihangel Glyn Myfyr, Denbighshire, in 1741; while still a young man he moved to London. There he became a thriving skinner, and one of the founders of the Gwyneddigion Society.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780708323243
Gwales Code
gwales.com.9780708323243
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Dyn heb ei Gyffelyb yn y Byd - Owain Myfyr a'i Gysylltiadau Llenyddol — Owain Myfyr A'i Gysylltiadau Llenyddol
Sub Title
Owain Myfyr A'i Gysylltiadau Llenyddol
Awdur / Author
Phillips, Geraint
Current Price ex VAT
£12.99
Current Price inc VAT
£12.99
Availability Status (EN)
Non-Stock Item - Ordered on request
Availability Status (CY)
Archebir yn ôl y galw
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-11-09
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
299 pages
Size
138 × 216 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Astudiaethau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies (in Welsh)

Cynnwys / Table of Contents

Pennod 1: ‘Yn Llundain lydan y mae yr arian’: Gadael Cymru Pennod 2: ‘Safn llygredigaeth a llwch anghof’: Ymdrechion cynnar i gyhoeddi Pennod 3: 'Gwely, tân a channwyll': Dechrau ei gyfeillgarwch â Iolo Morganwg Pennod 4: ‘Gwnaethom ein goreu’: Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789) Pennod 5: ‘Awen a Chenfigen’: Eisteddfodau’r Gwyneddigion a bwrlwm y 1790au Pennod 6: ‘Dyn heb ei gyffelyb yn y byd’: Dechrau cyhoeddi’r Myvyrian Archaiology of Wales Pennod 7: ‘Sathru yr wyau aur’: Colledion ariannol Pennod 8: ‘Cig a gwaed ydwyf’: Diwedd ei gyfeillgarwch â Iolo Morganwg Pennod 9: ‘Yr oedd ef yn dra chwerw’: Diwedd oes

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Geraint Phillips, Llyfrgellydd Llawysgrifau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Trwy wario ei gyfoeth sylweddol ar noddi ysgolheigion a chyhoeddi cynnwys yr hen lawysgrifau (sef llawysgrifau megis Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest), llwyddodd Owain Myfyr i ddechrau cyfnod newydd yn hanes ysgolheictod Cymraeg. A bu’n gyfrifol am ddod â’r traddodiad llenyddol Cymraeg i sylw’r byd ehangach mewn oes pan oedd llawer wedi amau ei fodolaeth. Bu farw Owain Myfyr yn 1814, yn ddyn siomedig, ar ôl ffraeo ag Iolo Morganwg, a llawer o’i hen gyfeillion. Ac yn ogystal â’i osod yn ei gyd-destun hanesyddol, mae’r llyfr hwn yn cynnig dadansoddiad o gymeriad Owain Myfyr, a’r berthynas gymhleth rhyngddo ef a’r rhai a dderbyniai nawdd ganddo.

View full details