Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Edau Bywyd

Edau Bywyd

Regular price £7.95 GBP
Regular price Sale price £7.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel gyfoes a diddorol sy'n wead celfydd o ddarluniau trawiadol. Mae'r gyfrol, gan awdur newydd, yn rhoi cipolwg ar fywydau nifer o bobl ar un diwrnod ym mis Mehefin. Cipolwg, ie, ond fe ddown ni i sylweddoli'n raddol fod cysylltiad rhyngddyn nhw. Mae'r cwlwm yn un tyn na ellir ei dorri ...

Disgrifiad Saesneg / English Description

An intriguing novel which is a skilful weave of striking images, providing the reader with a brief snapshot of the lives of a number of people on one particular day. We gradually come to realise that their lives are entwined, and the bond is a taut one which can't be broken ...

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781907424540
Gwales Code
gwales.com.9781907424540
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Edau Bywyd
Awdur / Author
Wyn, Elen
Current Price ex VAT
£7.95
Current Price inc VAT
£7.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-11-20
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg y Bwthyn
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
142 pages
Size
200 × 130 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Un o Gaernarfon ydi Elen Wyn yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw yn Llanelwy gyda’i gŵr, y cyflwynydd BBC Radio Cymru Dylan Jones, a’u dau blentyn Ianto, 5, ac Alys, 4. Mae hi’n ohebydd ar gyfer y rhaglen Newyddion 9 ar S4C a rhaglenni newyddion Radio Cymru.Dyma ei nofel gyntaf. Graddiodd Elen o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Newyddiaduriaeth. Yn 2000, yn dilyn cyfnod fel gohebydd newyddion ar Champion FM (Heart FM bellach), aeth Elen i weithio i’r BBC fel ymchwilydd; yn 2004 fe’i penodwyd yn ohebydd newyddion ar Newyddion y BBC ar S4C.

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Elen Wyn comes from Caernarfon originally, and now lives in St Asaph. She is a reporter for S4C’s nightly news programme Newyddion 9 and Radio Cymru news programmes. The former Ysgol Syr Hugh Owen pupil graduated from Cardiff University with a degree in Journalism. Following stints as a news reporter on Champion FM (now Heart FM), in 2000 Elen went to work in the BBC’s news department as a researcher, before becoming the BBC’s Newyddion 9 for S4C news reporter in 2004.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Tywyllwch wrth wraidd nofel gyntaf gyffrous Yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i sir ei chartref ac angerdd am ddramâu cyffrous, gwaedlyd oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i nofel gyntaf Elen Wyn, sy’n ohebydd newyddion gyda’r BBC. Bu cryn ddisgwyl am y nofel hon ar ôl iddi ddod yn agos at gipio’r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Edau Bywyd yw Nofel y Mis Cyngor Llyfrau Cymru ym mis Rhagfyr 2013. Mae wedi’i gosod mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, yn dilyn bywydau nifer o bobl un dydd Sadwrn penodol ym mis Mehefin. Mae cyfres o ddigwyddiadau cythryblus a graffig yn cael effaith ddramatig ar y cymeriadau yn y llyfr, ac, yn eu tro, rydym yn sylweddoli sut mae eu bywydau wedi’u cydblethu a sut mae’r digwyddiadau hyn yn arwain at ganlyniadau i bawb. “Nid oeddwn erioed wedi ysgrifennu nofel o’r blaen - yn wir, nid oedd wedi croesi fy meddwl - ond rhoddodd y ffaith bod yr Eisteddfod yn dod i Sir Ddinbych yn 2013 yr hwb oedd ei angen arnaf. Felly penderfynais gymryd rhan yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith gan bod modd gwneud hynny o dan ffugenw ac felly ni fyddai neb yn gwybod fy mod yn cystadlu – byddwn yn aros tan i’r plant fynd i’r gwely a theipio drwy’r nos. Cafodd fy nheulu a’m ffrindiau dipyn o sioc o gael gwybod beth oeddwn i wedi’i gyflawni,” meddai Elen, 34. Mae ei nofel Gymraeg, a gyhoeddwyd gan Wasg y Bwthyn o Gaernarfon, yn seiliedig ar un dydd Sadwrn ym mis Mehefin. Mae’r ddyfais hon yn hynod effeithiol ac yn darparu cyfres o gipolygon byw a thrawmatig o berthnasoedd a digwyddiadau: “Hap a damwain oedd y ddyfais 24 awr. Rwyf ychydig yn obsesiynol am amserlenni, fwy na thebyg oherwydd bod fy niwrnod gwaith fel gohebydd newyddion mor strwythuredig, felly rwy’n credu bod hynny wedi dylanwadu ar gyfansoddiad y llyfr.” Mae Elen wedi dweud ei bod hi "eisiau edrych ar sut mae ein bywydau wedi’u cydblethu a sut y gall gweithredoedd arwain at ganlyniadau anrhagweledig dros amser. Rwyf wastad wedi bod â diddordeb yn y syniad y gall newidiadau bach mewn amgylchiadau effeithio ar ganlyniadau mewn bywydau pobl a’u newid heb yn wybod iddynt.” Mae’r llyfr ei hun yn ein hatgoffa o’r erchyllterau y gall pobl beri i’w gilydd, ac ymdrinnir â phynciau megis trais rhywiol, herwgipio a llofruddiaeth: “Roedd yn sioc i bobl bod fy nofel yn dywyll ac yn synfyfyriol, ond rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn rhaglenni gydag isleisiau tywyll – mae Y Gwyll ar S4C a Whitechapel ar ITV yn ffefrynnau arbennig gennyf,” meddai Elen. Dywedodd Marred Glynn Jones, Golygydd Creadigol Gwasg y Bwthyn: “Roedd yn amlwg yn syth bod Elen yn storïwr naturiol gyda llais sy’n dal sylw’r darllenydd. Mae ei gwaith yn ddychmygus ac yn drawiadol. Dwi’n gobeithio’n fawr y cawn y cyfle i gydweithio â hi ar sawl llyfr arall o’i heiddo yn y dyfodol.”

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Darkness at heart of thrilling debut The National Eisteddfod coming to her home county and a passion for thrilling bloodthirsty dramas were the inspirations behind the highly anticipated debut novel from BBC new reporter Elen Wyn. Edau Bywyd (Threads of Life)is the Welsh Books Council’s December 2013 Book of the Month. Set in various locations throughout Wales, Edau Bywyd (Threads of Life) follows the lives of a number of people on one particular Saturday in June. A series of disturbing and graphic events have a dramatic effect on the characters in the book - and in turn we realise how their lives are entwined and how these events have consequences for all. “I’d never written a novel before, in fact it had never crossed my mind, but the Eisteddfod coming to Denbighshire in 2012 was the push I needed so I decided to enter the Prose competition under a pseudonym so nobody knew I was entering – I would wait until the kids went to bed and type away through the night. Family and friends were quite shocked that I had it in me,” said Elen, 34, who is a reporter for BBC’s nightly news programme Newyddion 9 for S4C and BBC Radio Cymru news programmes. Her Welsh language book, published by Caernarfon’s Gwasg y Bwthyn, is based on a single Saturday in June which proves to be a wonderfully effective device, providing a series of vivid and traumatic snapshots of relationships and events: “The 24 hour thing just happened. I’m mildly obsessive about timetables, probably because my day as a news reporter is so structured, so I think this must have influenced the makeup of the book.” Elen has said that she wanted to "look at how our lives are intertwined and how actions may lead to unforeseen consequences over time. The butterfly effect has always fascinated me, how minor changes in circumstances can affect and change outcomes in people’s lives without them knowing.” The book itself serves as a reminder of the atrocities that humans can inflict on each other, with subjects such as rape, kidnapping and murder being covered: “It was a shock to people that my novel was of the dark and brooding ilk, but I’ve always been interested in programmes with dark undertones - S4C’s Y Gwyll and ITV’s Whitechapel are particular favourites of mine,” said Elen. Marredd Glynn Jones from publishers Gwasg y Bwythyn said: “It was immediately obvious that Elen is a natural storyteller with an incredibly infectious voice. Her prose is imaginative, striking and dark. I hope we can work together again in the near future."

View full details