Cyngor Llyfrau Cymru
Eira Llwyd
Eira Llwyd
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel fer, gynnil a thelynegol sy'n dilyn tri Iddew a garcharwyd yn ystod yr Holocost. Mae'n stori sy'n cyffwrdd y galon.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A subtle and moving short novel which follows the lives of three Jews imprisoned in Nazi concentration camps during the Holocaust.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781912173136
- Gwales Code
- gwales.com.9781912173136
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Eira Llwyd
- Awdur / Author
- Evans-Jones, Gareth
- Current Price ex VAT
- £6.00
- Current Price inc VAT
- £6.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-10-01
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg y Bwthyn
- Darlunydd / Illustrator
- Aaron, Luned
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 104 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae darllen nofel gyntaf unrhyw awdur yn brofiad braf iawn – y gobeithion, y cyffro a’r ysfa i ddarganfod llais llenyddol newydd. Ac yn wir, wnaeth nofel gyntaf Gareth Evans-Jones, sy’n ddarlithydd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, ddim siomi o gwbl yn hynny o beth. Nofel dwt a chryno yw Eira Llwyd sy’n mynd i’r afael ag un o gyfnodau mwyaf dirdynnol ein hanes ni yn ystod y ganrif ddiwethaf, sef profiadau tri Iddew sydd wedi’u carcharu gan y Natsïaid yn ystod yr Holocost. Mae rhyw wedd ddyddiadurol i’r nofel ond mae gwead ac arddull y dweud yn gynnil, sylwgar a choeth dros ben, gyda rhyw naws sinematig yn y modd y dadlennir profiadau’r tri chymeriad mewn pytiau byrion wedi’u rhyngblethu’n grefftus yn ei gilydd. Mae pob pennod wedi’i rhannu’n gyfres o gameos bychan, sy’n cynnig mewnwelediad eithriadol boenus ar adegau i fywyd dyddiol mewn gwersyll dan reolaeth ddidostur y Natsïaid. Mae’r cameos bychain yma fel rhyw swigod sy’n ymddangos ac yna’n diflannu, ac yn y gofod a adewir o’u hôl, mae yna archoll a cholled a phoen ddirdynnol. Weithiau, mae’r boen yn fwy, o ystyried yr hyn nad yw’n cael ei ddweud. O ystyried diwyg y gyfrol, gydag adrannau gwahanol wedi’u cyflwyno mewn ffontiau gwahanol i adlewyrchu stori’r gwahanol gymeriadau, fe allai’r rhai sy’n dymuno gwneud hynny olrhain stori bob cymeriad ar wahân – o straeon yr oedolion stoicaidd i stori’r ferch ifanc sydd wedi’i gyrru i’r gwersyll gyda’i mam. Ond mae’r modd y mae’r straeon wedi’u cydblethu’n rhoi dyfnder arbennig i’r gyfrol, gan danlinellu’r creulondeb oedd i’w weld yn drwch dan drefn y Natsïaid. Fel darllenydd, mae’n siŵr mai diolch i’r awdur y dylwn i ei wneud am gyflwyno’i stori yn y fath fodd pytiog a chynnil. Roedd ambell adran yn gwneud i mi wingo ac arswydo ac yn peri i mi droi’n groen gŵydd drosta i i gyd, a thrwy osgoi llusgo’r profiadau allan yn ormodol, mae’r hyn sy’n cael ei ddweud yn fwy pwerus ac iasol. Oes, mae yma ddioddef enbyd, ond mae yma ddyngarwch a chydymdeimlad hefyd rhwng y dioddefwyr a’i gilydd, a hynny sy’n rhoi’r llygedyn lleiaf o obaith wrth i amser fynd yn ei flaen. Chwip o nofel gyntaf gan awdur sensitif, deallus a sicr iawn ei grefft.
Share
