Cyngor Llyfrau Cymru
Elon
Elon
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dewch i gwrdd ag Elon, eliffant ifanc, direidus sy'n dyheu am antur. Mae'n cychwyn ar daith yng ngolau'r lleuad drwy'r goedwig law ac yn darganfod bod ganddi hi bŵer i newid pethau er gwell.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Meet Elon, a mischievous, young elephant who longs for adventure. She sets off on a moonlit journey through the rainforest and discovers that she has the power to change things for the better.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781801062978
- Gwales Code
- gwales.com.9781801062978
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Elon
- Awdur / Author
- Murphy, Laura; Parry, Nia
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2022-12-07
- Cyhoeddwr / Publisher
- Atebol
- Darlunydd / Illustrator
- Crowley, Elin Vaughan
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 24 pages
- Size
- 245 × 245 mm; depth 3 mm
- Language Code
- Welsh; English
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C102875
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
O’r holl anifeiliaid gwyllt, dwi’n meddwl mai eliffantod yw’r rhai mwyaf rhyfeddol ohonyn nhw i gyd. Dach chi’n cytuno? Iawn, mi wna i gyfaddef fod jiráffs yn reit cŵl hefyd, ond i mi, eliffantod sy’n mynd â hi. Gyda’u clustiau anferthol a’u trynciau hirion, maen nhw’n greaduriaid rhyfedd, fel ’sa nhw’n perthyn i ryw oes wahanol. Anifeiliaid sy’n gryf, yn urddasol, yn fawreddog ac yn annwyl ’run pryd. Ac o’r holl eliffantod i gyd, mae un direidus sy’n arbennig iawn – Elon. Fel unrhyw eliffant ifanc, mae Elon yn llawn brwdfrydedd ac egni, ac wedi hen ’laru ar orfod gwrando ar ei mam a’i thad. Am ddiflas, meddylia Elon, a hithau’n dyheu am antur. Ar ôl anwybyddu ei rhieni a dianc (dwi ddim yn argymell hyn o gwbl!) daw dymuniad Elon am antur yn wir, ond mae’r byd tu hwnt i ddiogelwch y llwyth yn lle mawr, a buan iawn daw’r eliffant ifanc ar draws y creadur peryclaf un – dyn. O feddwl pa mor hardd yw’r creaduriaid yma, mae’n fy nhristáu i feddwl eu bod nhw mewn perygl enbyd o ddiflannu yn gyfan gwbl, a hynny o’n herwydd ni. Petai eu hela am yr ifori yn eu hysgrithrau dros y canrifoedd ddim yn ddigon drwg, mae eu cartref nawr o dan fygythiad wrth i ni ddinistrio’r coedwigoedd sy’n eu cynnal gyda’n peiriannau felltith. Ond mae Elon yn ddewr. Hyd yn oed wrth ddod wyneb yn wyneb â’r peiriannau ffyrnig sy’n bygwth ei chynefin, mae Elon yn penderfynu na all hi adael i hyn ddigwydd, heb wneud dim. Rhaid gweithredu. Tybed a fedr un eliffant pitw roi stop ar y dinistr? Mae arlunwaith Elin Vaughan Crowley yn eich denu’n syth, ac mae holl liwiau a rhyfeddodau’r goedwig yn dod yn fyw drwy’r lluniau. Llyfr dwyieithog yw hwn ar ffurf mydr ac odl, felly nid yw’n gyfieithiad uniongyrchol, ond yn hytrach yn addasiad o’r testun. Tra ’mod i’n hoff iawn o lyfrau dwyieithog, fy unig gŵyn, efallai, yw bod gosodiad y testun mymryn yn ddryslyd ar adegau gan fod y testun ’run maint yn y ddwy iaith. Dyma lyfr defnyddiol ar gyfer cyflwyno uned o waith ar anifeiliaid, cadwraeth, yr amgylchedd ac i dynnu sylw – heb greu panig – am yr argyfwng sy’n wynebu byd natur. Rhaid ceisio trosglwyddo’r neges i’r genhedlaeth nesaf os ydyn nhw am gael y cyfle i weld eliffantod go iawn yn eu cynefin naturiol y gwyllt rhyw ddiwrnod. Gobeithio bydd y darllenydd ifanc yn dilyn esiampl Elon ddewr, ac yn credu y gallan nhw hefyd wneud gwahaniaeth drwy weithredu.
Share
