Cyngor Llyfrau Cymru
Enwogion o Fri: Betty - Bywyd Penderfynol Betty Campbell
Enwogion o Fri: Betty - Bywyd Penderfynol Betty Campbell
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol yng nghyfres 'Enwogion o Fri' am gyfraniad pwysig Betty Campbell - prifathrawes groenddu gyntaf Cymru - i'n hanes fel cenedl. Pwrpas y gyfres yw goleuo plant Cymru am gyfraniad unigolion o Gymru i'n diwylliant, a hynny mewn nifer o feysydd amrywiol.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Read about Betty Campbell's valuable contribution to our culture as Wales's first black headteacher. Another book in the popular 'Enwogion o Fri' series.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781914303319
- Gwales Code
- gwales.com.9781914303319
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Enwogion o Fri: Betty - Bywyd Penderfynol Betty Campbell
- Awdur / Author
- Morais, Nia
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-10-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Broga
- Darlunydd / Illustrator
- Magloire, Anastasia
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 32 pages
- Size
- 210 × 240 mm; depth 4 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Hanes ac Enwogion (yn Gymraeg) | EN: History and Famous People (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Awdur a dramodydd o Gymru a’r Cabo Verde yw Nia Morais, Graddiodd gyda gradd meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd. Ym mis Hydref 2020, cafodd ei ddrama glywedol gyntaf, “Crafangau”, ei darlledu gan Theatr y Sherman ac fe ail ysgrifennwyd y ddrama 2021 ar gyfer Gŵyl Gwên o Haf yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar ddrama am Betty Campbell a hanes dociau Caerdydd (ar gyfer haf 2022). Mae ei gwaith, fel rheol, yn canolbwyntio ar hunaniaeth. Mae Anastasia Magloire Williams yn arlunydd, awdur a dylunydd graffig.
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Nia Morais is an author and playwright from Wales and Cabo Verde. She graduated with a Master’s degree in Creative Writing from Cardiff University. Her work, as a rule, focuses on identity. Anastasia Magloire Williams is an illustrator, writer, and graphic designer. Raised on a healthy diet of books, animation, and games, Anastasia’s childhood (and the art education that followed) prepared her well for a lifetime of storytelling. Forever a student, she continues to grow in her preferred digital medium, combining traditional illustration techniques with the flexibility of computer software. With rich texture, dynamic line, vibrant color, and design savvy, Anastasia uses various styles to bring stories to life. Above all, her mission is to be a vehicle for diversity and representation in entertainment and children’s media - to tell untold stories that reflect the beautiful world we all share.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Cyfrol newydd yn y gyfres boblogaidd Enwogion o Fri ydi Betty: Bywyd Penderfynol Betty Campbell gan Nia Morais, Bardd Plant Cymru, a'r lluniau gan Anastasia Magloire. Yr hyn a gawn ydi hanes bywyd prifathrawes ddu gyntaf Cymru, a’i huchelgais a’i brwydr i oresgyn rhagfarn a gwrthwynebiad oherwydd lliw ei chroen. Tyfodd Betty Campbell i fod yn symbol cryf o unigolyn ysbrydoledig a di-ildio wrth ymgyrraedd at ei nod. Arlunydd sy’n byw ac yn gweithio yn Florida ydi Anastasia Magloire. Ceir yma briodas dda rhwng gair a delwedd, a nodir enwau arwyr eraill yn eu dewis feysydd ar y tudalennau sy’n dathlu sefydlu mis Hydref fel mis Hanes Pobl Dduon. Mae’n debyg mai’n fwriadol yr hepgorir enwi’r Brenin Siarl a Nelson Mandela ar y tudalennau blaenorol. Mae’r ysgrifennu’n syml ac effeithiol, ac fel Bardd Plant Cymru mae Nia Morais ei hun am annog plant i feithrin eu hannibyniaeth a’u hunaniaeth unigryw gan ddatblygu eu lleisiau personol a phwerus eu hunain fel y gwnaeth Betty Campbell o’u blaenau.
Share
