Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Estyn Llaw — 366 o Bytiau Sy'n Hwb i'r Galon

Estyn Llaw — 366 o Bytiau Sy'n Hwb i'r Galon

Regular price £4.95 GBP
Regular price Sale price £4.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

366 o bytiau difyr ar gyfer bob diwrnod o'r flwyddyn - pytiau fydd yn hwb i'r galon, yn codi gwên ac yn procio'r meddwl.

Disgrifiad Saesneg / English Description

366 interesting snippets - one for each day of the year. A book you'll return to, time and time again.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781907424779
Gwales Code
gwales.com.9781907424779
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Estyn Llaw — 366 o Bytiau Sy'n Hwb i'r Galon
Sub Title
366 o Bytiau Sy'n Hwb i'r Galon
Awdur / Author
Maelor, Esyllt; Northey, Sian; Evans-Jones, Gareth; Jones, Marred Glynn; Parri, Harri
Current Price ex VAT
£4.95
Current Price inc VAT
£4.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2015-10-05
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg y Bwthyn
Editor
Owen, Geraint Lloyd
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
176 pages
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Amrywiol (yn Gymraeg) | EN: Miscellaneous (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Onid yw hi’n braf weithiau cael llyfr bwrdd coffi – llyfr y gallwch droi ato'n awr ac yn y man i gael mymryn o wybodaeth neu ddoethineb, yn arbennig felly pan fo'r pytiau yr ydych yn eu darllen yn codi eich calon? Wel, dyna'n union a geir yn y gyfrol hon. Llyfr yw Estyn Llaw sy’n cynnwys pwt difyr ar gyfer pob dydd o’r flwyddyn. Weithiau cawn ddyfyniad gan rywun, bryd arall ddihareb, rhyw hanesyn cryno neu ddwy frawddeg fer. Ar gyfer 17 Mai, er enghraifft, ceir y canlynol: ‘Paid â llusgo dy groes heddiw. Cofia fod help ar gael i’w chario hi.’ Ar gyfer 13 Awst, rhan o hunangofiant a llythyrau Twm o’r Nant a leinw’r gofod ac yn niwedd mis Awst ceir y dyfyniad a ganlyn gan Charlie Chaplin: ‘Mae diwrnod heb chwerthin yn ddiwrnod a wastraffwyd.' Fel y gwelir, mae’r dyfyniadau yn amrywiol iawn o ran eu hyd a'u ffynhonnell, ond yr hyn sy’n gyffredin iddynt oll yw eu bod yn codi calon. Yn cyfoethogi’r dyfyniadau oll y mae lluniau hyfryd a pherthnasol. Geraint Lloyd Owen sydd wedi golygu’r gyfrol ac y mae pump arall wedi cyfrannu iddi, sef Gareth Evans-Jones, Harri Parri, Esyllt Maelor, Sian Northey a Marred Glynn Jones. Yn ei ragymadrodd fe ddywed y golygydd fod y gyfrol yn ‘arweinlyfr sy’n ein cyfeirio’n gyson o dywyllwch i oleuni’, ac meddai ymhellach: ‘Mae’n gyfle inni atgyfnerthu gogyfer â’r yfory a mwynhau ambell ddywediad a hanesyn sy’n rhoddi blas a lliw ar fywyd a gwneud byw o ddydd i ddydd yn werth chweil.’ Yn sicr mae’r gyfrol wedi llwyddo yn ei bwriad, ac mae'n llyfr defnyddiol iawn i bob athro sy’n paratoi at wasanaeth ysgol. Yn fwy na dim, mewn dyddiau tywyll, dyma gyfrol sy’n falm i’r galon.

View full details