Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Fel yr Haul

Fel yr Haul

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel hanesyddol newydd gan Eigra Lewis Roberts yn portreadu chwe blynedd olaf Morfydd Llwyn Owen, cyfansoddwraig ddisglair a chantores dalentog a fu farw yn drasig o ifanc.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A historical novel portraying the final six years in the life of talented musician and composer Morfydd Llwyn Owen, who died at a tragically young age.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781848515529
Gwales Code
gwales.com.9781848515529
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Fel yr Haul
Awdur / Author
Roberts, Eigra Lewis
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2014-07-23
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
376 pages
Size
127 × 192 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Tybed faint ohonom ni’r Cymry a ŵyr unrhyw beth erbyn hyn am Forfydd Llwyn Owen? Ar wahân i ambell gerddor neu hanesydd cerddorol, ychydig, dybiwn i. Ac ar yr adegau prin pan genir ‘Gweddi Pechadur’ gan Thomas William, Bethesda’r Fro, mewn oedfa, faint fedr gysylltu’r dôn â Morfydd? Eto i gyd, mae hanes y ferch o Drefforest a gyflawnodd cymaint yn ystod ei hoes fer yn darllen fel nofel. A dyma’r nofel honno. Mewn atodiad pwysleisia Eigra Lewis Roberts mai nofel yw hon, nid bywgraffiad. ‘Fel hyn y gwelais i hi,’ meddai. Mae’r nofel yn agor yng Nghapel Charing Cross yn Llundain lle mae’r gweinidog, y Parchedig Peter Hughes Griffiths, yn cyflwyno wyneb newydd yn y gynulleidfa. Morfydd yw hi, a adawodd am Lundain i astudio cerddoriaeth yn 17 oed. Ceir portread byw o fywyd y Cymry yn Llundain adeg blynyddoedd y Rhyfel Mawr yn bennaf, gydag ymweliadau â gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Cawn ddarlun o Aberystwyth, lle bu’n efrydydd, a gwahanol Eisteddfodau Cenedlaethol, yn arbennig felly Eisteddfod Penbedw. Mae’r darlun byr o’r cadeirio yno yn gampwaith. Ac yna’r diwedd ym Mro Gŵyr. Roedd Morfydd a’i chriw yn troi mewn cylchoedd ffasiynol yn Llundain. Roedd hi ar delerau cyfeillgar ag o leiaf dau Aelod Seneddol, ac mae D. H. Lawrence ac Ezra Pound yn rhan o’r stori. Tynnir sylw hefyd at waith yr artist Turner, a cherddi Walt Whitman a Sigmund Freud; roedd Ernest Jones, priod Morfydd, yn un o’i ddisgyblion. Yr hyn a’m trawodd i o’r dechrau yw gallu rhyfeddol Eigra i droi o un dafodiaith i'r llall, o roi cymysgedd o Gymraeg a Saesneg yn neialog un o’r cymeriadau, a hyd yn oed droi at dafodiaith Cocni yn achlysurol. Mae’r stori’n llifo – cryn gamp i’w chynnal dros 372 o dudalennau. Tuedd amryw o adolygwyr wrth drafod nofel yw chwilio am ddeunydd ynddi ar gyfer drama deledu neu ffilm. Ond fel y dywedodd Eigra ei hun, nofel yw hon yn ei hanfod. Ac fel nofel y dylid ei hystyried. Ond am unwaith, dyma ddweud yn gwbl gyfiawn y gwnâi Fel yr Haul , o’i haddasu, ddrama deledu neu ffilm gofiadwy. Mae yna gymaint yn y nofel hon fel mai annheg fyddai bodloni ar ei darllen unwaith yn unig. Mae yma haenau o ystyrlonrwydd. Ond ei rhagoriaeth yw ei harddull lifeiriol a darllenadwy. I mi, Eigra yw olynydd naturiol Islwyn Ffowc Elis. Fedrwn i ddim cynnig canmoliaeth uwch.

View full details