Cyngor Llyfrau Cymru
Fesul Gair - Blodeugerdd Barddoniaeth
Fesul Gair - Blodeugerdd Barddoniaeth
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Argraffiad newydd o gasgliad cynhwysfawr o dros gant a hanner o gerddi o'r unfed ganrif ar hugain gan feirdd cyfarwydd a llai cyfarwydd a hynny er mwyn dangos ystod eang o fesurau barddoniaeth a themâu. Plant 14-18 oed yw prif gynulleidfa'r llyfr a cheir yr holl gerddi ar fanylebau Llenyddiaeth Gymraeg TGAU, TAG Cymraeg Iaith Gyntaf a Chymraeg Ail Iaith.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A new and updated edition of a comprehensive collection of over 150 poems from the 21st century by familiar and less familiar poets reflecting a wide range of poetic metres and themes. Aimed at 14-18 year olds in particular, the volume includes all set works in the GCSE Welsh Literature, GCE Welsh First Language and GCE Welsh Second Language examination specifications.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781785620188
- Gwales Code
- gwales.com.9781785620188
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Fesul Gair - Blodeugerdd Barddoniaeth
- Awdur / Author
- Gomer
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-03-19
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Editor
- Jones, Tudur Dylan
- Darlunydd / Illustrator
- Jones, Rhys Bevan
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 256 pages
- Size
- 127 × 192 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed
Cynnwys / Table of Contents
Mae dros gant a hanner o gerddi yn y casgliad gan: Gwynn ap Gwilym, Ifor ap Glyn, Myrddin ap Dafydd, Dilys Cadwaladr, Ceiriog, Crwys, Cynan, Rhys Dafis, Catrin Dafydd, Bryan Martin Davies, Dai Rees Davies, Grahame Davies, Roy Davies, Steve Eaves, Huw Meirion Edwards, Menna Elfyn, Dewi Emrys, Aled Lewis Evans, Glyn Evans, MarI George, Gwyneth Glyn, Hywel Griffiths, W. J. Gruffydd, Gwenallt, Gwion Hallam, I.D. Hooson, Mererid Hopwood, T. Rowland Hughes, Meirion MacIntyre Huws, John Hywyn, Rhys Iorwerth, Arwel Emlyn Jones, Ceri Wyn Jones, Cynan Jones, Cyril Jones, Dafydd Wyn Jones, Dic Jones, Einir Jones, Huw Dylan Jones, John Glyn Jones, John Gwilym Jones, Nesta Wyn Jones, Osian Rhys Jones, R. Gerallt Jones, T. Llew Jones, T. James Jones, William Jones, Aneirin Karadog, Emyr Lewis, Mari Lisa, Alan Llwyd, Iwan Llwyd, Haf Llywelyn, Mihangel Morgan, John Morris-Jones, Nia Môn, Twm Morys, W. Rhys Nicholas, Sian Northey, Gerallt Lloyd Owen, Karen Owen, Wyn Owens, R. Williams Parry, Caradog Pritchard, TH Parry-Williams, Elinor Wyn Reynolds, Idris Reynolds, Iwan Rhys. W. Leslie Richards, Llion Pryderi Roberts, Dafydd Rowlands, Eurig Salisbury, Gwilym R. Tilsley, Gwyn Thomas, Harri Webb, Cen Williams, Gerwyn Williams, Gwynne Williams, Rhydwen Williams, T. Arfon Williams, Waldo Williams, Eifion Wyn, Hedd Wyn, Ieuan Wyn.
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Tudur Dylan Jones yn adnabyddus fel prifardd, awdur, meuryn ac athro ysgol. Enillodd y Gadair am yr ail waith yn Eisteddfod Genedaethol Eryri a’r Cyffiniau yn 2005 ar ôl ennill ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn yn 1995. Enillodd hefyd Goron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffuniau yn 2007. Mae ef wedi awduro, addasu neu gyfrannu at nifer o gyfrolau ar gyfer plant ac oedolion. Mae’n hyddysg iawn mewn barddoniaeth Gymraeg a’r traddodiad barddol ac yn hanes bywydau amrywiol feirdd, fel y dangosodd y gyfres deledu ddiweddar Gwlad Beirdd ar S4C oedd yn olrhain hanes nifer ohonynt. Bu hefyd yn Fardd Plant Cymru yn ystod 2004/5. Ganed ef yng Nghaerfyrddin ond symudodd y teulu i Fangor lle’r aeth i’r ysgol ac yna i’r Brifysgol ac mae’n byw yng Nghaerfyrddin ar hyn o bryd ac yn athro Cymraeg yn Ysgol y Strade, Llanelli.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Casgliad cynhwysfawr o dros gant a hanner o gerddi o’r ugeinfed ganrif ar hugain gan feirdd cyfarwydd a llai cyfarwydd a hynny er mwyn dangos ystod eang o fesurau barddoniaeth a themau. Plant 14-18 oed yw prif gynulleidfa'r llyfr ac o fewn y flodeugerdd ceir yr holl gerddi ar fanylebau Llenyddiaeth Gymraeg TGAU, TAG Cymraeg Iaith Gyntaf a Chymraeg Ail Iaith a cherddi pellach i ddyfnhau profiad barddonol y disgyblion.Bydd adran yng nghefn y llyfr yn cynnig rhai themâu amlwg sy’n treiddio drwy’r casgliad. Ceir darluniau du a gwyn dyfeisgar gan y seiciatrydd Rhys Bevan Jones drwy’r gyfrol. Cyhoeddir ap ac e-lyfr i gyd-fynd â'r llyfr.
Share
