Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau

Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel feiddgar sy'n sôn am brofiadau ysgytwol a dialgar enaid ifanc a beiddgar sy'n garcharor i lygredd byd y cyfryngau. Gan 'athrylith pennaf' gwobr Daniel Owen 2005. Yn cynnwys rhegfeydd a chynnwys sy'n addas ar gyfer oedolion yn unig. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn Chwefror 2006.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A novel recounting the shocking and avengeful experiences of a young soul who is enslaved by the media-dominated world. By a leading competitor in the 2005 Daniel Owen award. Contains swearing and contents suitable for adult readers only. Reprint; first published in February 2006.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780862438609
Gwales Code
gwales.com.9780862438609
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau
Awdur / Author
Owen, Llwyd
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-06-15
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
288 pages
Size
120 × 185 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Brodor o Gaerdydd sydd wedi gweithio mewn amryw o swyddi yn y cyfryngau ers 1998. Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau yw ei nofel gyntaf. Ar hyn o bryd mae Llwyd wrthi’n gorffen ei ail nofel (fydd allan yn hwyrach eleni... gobeithio) ac hefyd wedi dechrau ar y broses o addasu Ffawd… yn ffilm. Mae'n byw yn ardal Parc Buddug y ddinas gyda'i wraig Lisa a'u 'plant' Moses a Marley.

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

A native from Cardiff that has worked in several media jobs since 1998. Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau ("Fate, Shame and Lies") is his first novel. At the moment he's finishing his second novel (which will be published later this year...hopefully) and has started the process of adapting Ffawd...into a film. He lives in Cardiff's Victoria Park area with his wife Lisa and their 'children' Moses and Marley.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cyhoeddi Llyfr Mwya Dadleuol ac “Athrylithgar” y Flwyddyn Ar Ddiwrnod y Llyfr, pan gyhoeddwyd rhestr hir Llyfr y Flwyddyn, lansiwyd hefyd y llyfr sydd, yn ôl llawer, y mwya dadleuol i’w gyhoeddi yn y Gymraeg – Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau gan Llwyd Owen. Bu’r ymateb hyd yma’n gadarnhaol gydag adolygiadau ffafriol iawn yn y wasg. Yn ôl yr adolygydd Rhodri Ll. Evans: “Roeddwn wrth fy modd yn plymio i fyd tywyll Luc – byd doniol, byd dychanol, byd dig, byd chwerw, byd unig a byd trist. Mae hon yn nofel arloesol – o ran gwreiddioldeb ei stori ac o ran ei mynegiant unigryw. Dylid ei derbyn â chroeso brwd.” Lansiwyd Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau gan Llwyd Owen yng Nghanolfan Celfyddydau y Chapter, Caerdydd. Cafwyd cerddoriaeth gan Fflur Dafydd a DJs Gardd Edam. Mae’r nofel yn rhoi darlun cignoeth o fywyd dinesig a byd y cyfryngau gan fynd i grombil enaid ifanc sydd ar goll mewn swydd wael yng Nghaerdydd. Dyn sy’n cael ei gorddi gan ei orffennol a’i bresennol anobeithiol ac sy’n boddi ei ofidiau yn yr is-fyd dinesig. "Fe ddylai'r nofel hon achosi daeargryn. Mae hi'n hollol wahanol i unrhyw beth rydym wedi ei ddarllen yn y Gymraeg o'r blaen." "Yr hyn sy'n drawiadol am yr ysgrifennu yw'r egni aruthrol a berthyn iddo. Mae yna bendilio parhaus o'r doniol i'r dwys…ac yn raddol fe ddatgelir y tristwch sobreiddiol sy'n sail i'r stori." Western Mail "Yn bersonol, roeddwn wrth fy modd yn plymio i fyd tywyll Luc - byd doniol, byd dychanol, byd dig, byd chwerw, byd unig a byd trist. Mwynheiais Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau yn fawr. Mae hon yn nofel arloesol - o ran gwreiddioldeb ei stori ac o ran ei mynegiant unigryw. Dylid ei dderbyn a chroeso brwd." Rhodri Ll Evans, BBC Cymru'r Byd “Mae’r plot a’r cymeriadu’n gryf, ac mae naratif llif-yr-ymennydd yn dull perffaith I gyfleu anesmwythyd meddyliol y prif gymeriad.” Owain Rhys, Taliesin Haf 2006

View full details