Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Ffenestri Gobaith

Ffenestri Gobaith

Regular price £7.99 GBP
Regular price Sale price £7.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae Ffenestri Gobaith yn tarddu o awen y bardd a'i argyhoeddiad Cristnogol. Bydd y casgliad o ddiddordeb i'r rhai sy'n mwynhau darllen barddoniaeth yn y mesurau caeth a rhydd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Ffenestri Gobaith is a collection of poems [both free and strict metre] by John Emyr, emanating from his Christian conviction.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781859949658
Gwales Code
gwales.com.9781859949658
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Ffenestri Gobaith
Awdur / Author
Emyr, John
Current Price ex VAT
£7.99
Current Price inc VAT
£7.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2023-07-21
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau'r Gair
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
112 pages
Size
210 × 148 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae’n gyfnod o drai ar grefydd gydag eglwysi a chapeli yn cau ym mhob man a Chymru’n prysur droi yn wlad ddigrefydd. Llaciwyd gafael ar y gwerthoedd Cristnogol wrth i gymdeithas droi’n fwyfwy hunanol a materol. Gellid dadlau, felly, fod mwy o angen y gyfrol amserol hon arnom heddiw nag a fu erioed o’r blaen. Yn naturiol, mae hyn yn loes calon i fab gweinidog ond nid yw’n esgyn i bulpud y pregethwr i geryddu ein difaterwch. Gwell ganddo ein cyfeirio yn dawel at amgenach ffordd o fyw. Mae’n ymwrthod hefyd â’r demtasiwn i ddigalonni. Yn hytrach, wyneba’r heriau gyda ffydd un a gredo. Ffenestri Gobaith yw’r teitl a cheir llun ar y clawr o ffenestr goffa y ddwy nyrs, Dilwen a Mair Harries, sydd i’w gweld yng nghapel Bethel, Penarth. Mae’r argraffiad hwn o waith Gareth Morgan, yr arlunydd gwydr lliw o Gaerfyrddin, gyda’i gyfoeth o ddelweddau beiblaidd, yn gosod y naws i’r dim. Yna, o fewn y cloriau, cawn gyffes ffydd y bardd a’r Cristion, John Emyr, wrth iddo edrych allan ar y byd sydd ohoni drwy ffenestri lliw y cerddi unigol. Gwneir hynny ar amrywiaeth o fesurau. Ceir yma ddwy awdl goffa, un i’r Athro R. Geraint Gruffydd a’r llall i’r genhades Eluned Mair Davies o Batagonia, yn ogystal â chywyddau, englynion, hir-a-thoddeidiau, emynau, sonedau, caneuon, cerddi penrhydd, dwy filanel, tribannau, penillion telyn a chwpledi unigol. Mae’r grefft yn lân a’r geiriau’n canu, ac o’u darllen yn uchel daw’n amlwg fod clust yr awdur wedi’i diwnio i fiwsig cystrawennau Beibl William Morgan a rhythmau’r hen emynwyr. Mae hon yn gyfrol gynnes, gartrefol, sy’n llawn pobol, a theimlwn ein bod yn dod i adnabod yr awdur o fewn y tudalennau. Awen gymdeithasol ydyw sy’n dathlu achlysuron hapus gyda’i ffrindiau ac yn cofio am y rhai a gollwyd, a hynny yn y dull traddodiadol Cymreig. Un o nodweddion pennaf y gyfrol yw’r Cymreictod naturiol sy’n treiddio drwyddi. Ynddi mae’n cofleidio’r genedl gyfan a’i hamrywiol ardaloedd. Mae gwreiddiau’r bardd yn ddwfn yng Ngwynedd: bu’n ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd, yn fyfyriwr yng Ngholeg Aberystwyth, priododd ferch o Gwmafan a magodd deulu yng Nghaerdydd. Ac mae’r iaith Gymraeg yn goron ar y cyfan. Hi, fel y dywedodd, yw ‘mur egwan llys ein cof a llais ein cân’. Daw hyn â ni at y teulu agos ac unwaith eto ceir cerddi’n dathlu cerrig milltir y daith, o ben-blwydd Olwen ei wyres, hyd at ganrif ei fam Grace Roberts. Cyflwynir y gyfrol i’r wyrion a’r wyresau – chwech ohonynt – a chlosiwn at y dyn teulu yn y delyneg annwyl ‘Tad-cu ac ŵyr’, yn y cywydd crefftus i’w fab yngnghyfraith, yr arlunydd Huw Aaron, ac yn enwedig yn ei gerddi serch i’w wraig Gwen. Yn yr amseroedd anodd sydd ohoni, bydd y gyfrol hyfryd hon yn fodd i atgyfnerthu ffydd y gweddill ffyddlon sy’n dal i gadw drysau ein haddoldai ar agor. Bydd hefyd yn gyfrwng i bigo cydwybod y rhai ohonom a gollodd yr arfer o fynychu oedfa ar y Sul. Diolch amdani.

View full details