Cyngor Llyfrau Cymru
Ffwlbart Ffred: Drewi Fel Ffwlbart
Ffwlbart Ffred: Drewi Fel Ffwlbart
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
'Mae Ffred a'i ffwlbart yn ffrindiau gorau ond digwyddodd rhywbeth od un bore wnaeth newid lliw trwyn Anti Gyrti - ar fy ngwir! Dyma'r stori...' Dewch i gwrdd â Ffred a'i ffwlbart yn y llyfr cyntaf mewn cyfres newydd o lyfrau stori-a-llun am ffrindiau bach direidus. Stori llawn hwyl gyda thestun sy'n odli yn seiliedig ar un o'n dywediadau Cymraeg mwyaf od!
Disgrifiad Saesneg / English Description
A first picture story book in a series of three titles about mischievous friends and the amazing stories behind our strangest Welsh sayings. Fred and Ffwlbart are always in trouble, but Ffwlbart is also a genius who solves every problem!
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781913245023
- Gwales Code
- gwales.com.9781913245023
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Ffwlbart Ffred: Drewi Fel Ffwlbart
- Awdur / Author
- Roberts, Sioned Wyn
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2020-04-22
- Cyhoeddwr / Publisher
- Atebol
- Darlunydd / Illustrator
- Mai, Bethan
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 28 pages
- Size
- 245 × 245 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, mae Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am Cyw a Stwnsh. Cyn hynny, bu'n cynhyrchu ac uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda'r BBC. Dewiswyd Sioned fel un o awduron cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd Chwefror 2019). Dyma lle datblygodd ei syniad ar gyfer y gyfres hon o lyfrau. Credai Sioned fod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy'n tanio dychymyg plant ac sy'n helpu caffael iaith yn hanfodol.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Un peth sy’n siŵr o wneud i blant bach chwerthin ydy sôn am ddrewdod! Ac mae Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart yn llyfr doniol iawn am fachgen bach o’r enw Ffred a’i ffrind gorau yn y byd i gyd – ei ffwlbart. Pan mae ffwlbart Ffred yn dechrau drewi un diwrnod, a’r cymdogion yn dechrau cwyno, mae’r ffwlbart yn cael syniad gwych sy’n troi’r sefyllfa anffodus yn gyfle euraid! Dwi’n meddwl y bydd yn apelio at blant bach oherwydd ei hiwmor (pwy all beidio chwerthin am ben geiriau fel ‘stinc bom’ a ‘pongi’?), y darluniau lliwgar a deinamig a’r stori fach syml ond difyr. Mi faswn i’n tybio bod hwn yn llyfr da i blant sy’n dechrau darllen eu hunain hefyd, gan nad oes llawer o eiriau ar bob tudalen. Un o fy hoff bethau am y llyfr yma ydy’r llinellau byrion sy’n odli, felly mae’r stori’n llifo’n rhwydd ac mae’r ffordd mae Sioned Wyn Roberts wedi chwarae gyda’r odlau yn arwain at linellau doniol. Mae’n arddull sy’n gweddu’n dda i’r gyfrol yma. Mae’r bartneriaeth rhwng yr awdur ac artist yr arlunwaith, Bethan Mai, yn gweithio’n wych hefyd. Mae hi’n amlwg bod y ddwy’n wedi deall ei gilydd i’r dim wrth fynd ati i greu stori Ffred a’i ffwlbart bach drewllyd. Ar bob tudalen mae lluniau deniadol, llawn bywyd sy’n adrodd y stori yn eu ffordd eu hunain. Dwi’n arbennig o hoff o’r darluniau o Anti Gyrti drws nesa a’r ffordd mae’r blodau yn yr ardd yn trigo o ganlyniad i’r drewdod, hyd yn oed! Mae hiwmor y geiriau yn treiddio i’r darluniau hefyd, sy’n creu cyfrol apelgar. Mae yna sawl cyffyrddiad sy’n gwneud y profiad o ddarllen i blentyn, neu efo nhw, yn ddifyr i’r oedolion hefyd e.e. ambell air fel ‘eau-de-ffwlbart’ yn enw ar bersawr, neu gyfeirio at ‘afftershêf Taid’. Mae’n debyg mai’r gyntaf mewn cyfres o lyfrau yn seiliedig ar rai o ddywediadau mwyaf od yr iaith Gymraeg yw hon ac, er nad oeddwn i wedi clywed y dywediad ‘drewi fel ffwlbart’, mae’n sicr yn fan cychwyn gwych ar gyfer llyfr stori a llun! A dyna finnau hefyd wedi dysgu rhywbeth newydd trwy ddarllen llyfr i blant. Rwy’n edrych ymlaen at weld rhagor yn cael eu cyhoeddi yn y gyfres yma.
Share
