Cyngor Llyfrau Cymru
Fi a Mr Huws
Fi a Mr Huws
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma nofel wedi ei hanelu'n bennaf at ddysgwyr, gyda iaith addas a rhestr o eirfa perthnasol yn y cefn. Mae unig fab Ben a Lena wedi gadael am y brifysgol am y tro cyntaf ac mae hynny'n gosod straen ar eu perthynas ac yn codi cwestiynau am eu dyfodol. Mae amheuon yn codi ac mae cyfrinachau'n dod i'r amlwg.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A novel aimed mainly at Welsh learners, including a glossary of select words. Ben and Lena's only son has gone to university, and this places strain on the couple's relationship and raises questions about their future. Doubts are raised and secrets are revealed.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784614003
- Gwales Code
- gwales.com.9781784614003
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Fi a Mr Huws
- Awdur / Author
- Lewis, Mared
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2017-07-27
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 160 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Mared Lewis yn awdures boblogaidd, ac wedi cyhoeddi nifer o nofelau i oedolion ac i bobl ifanc. Cyrhaeddodd Maison du Soleil restr fer Llyfr y Flwyddyn. Mae ei nofel ddiweddaraf, Rhwng Dau Fyd , wedi gwerthu dros 700 copi. Mae’n byw ar Ynys Môn, yn briod, a chanddi ddau fab sydd wedi gadael am y brifysgol.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Pan fo Lena Richards ar groesffordd yn ei bywyd ac unigrwydd yn cydio, mae hi’n gwneud ffrind annisgwyl iawn sydd yn newid ei golwg ar bethau ac yn dod â hi at ei choed. Mae'n bosib mai Fi, a Mr Huws gan Mared Lewis yw un o’r nofelau anwylaf a ddarllenwch chi byth ac mae hi'n un wych ar gyfer dysgwyr Cymraeg hefyd. Nid hawdd yw gweld plentyn yn gadael y nyth a deffro i wacter na chafwyd yn y tŷ ers deunaw mlynedd. Mae’n newid popeth ac yn anffodus yn amlygu'r gwir ac yn codi amheuon di-ri. Mae'r gŵr wedi troi yn hen gariad rydych wedi ei gymryd yn ganiataol ers blynyddoedd lawer. Dydi'r gath hyd yn oed yn ddim byd ond poen. Does dim byd ar ôl ond gwaith, ac er bod yr oriau hynny yn llawn o ffrindiau da i Lena, mae rhywbeth mawr ar goll. O nunlle, daw cyfle i Lena agor drws newydd i fywyd hen greadures o'r enw Thelma Morris, ac yno mae hi'n dod o hyd i bartner newydd sy'n adfywio ei bywyd ac yn ei harwain at ddigwyddiadau dirgel! Mae'n wir bod y nofel hon ar gyfer dysgwyr yn bennaf, ond y gwir glyfrwch yma yw bod hynny bron yn eilradd i stori werth chweil, lawn cymeriadau mor agos atoch. O fewn ychydig funudau i ddechrau darllen, mae'r darllenydd yn teimlo fel cymydog i Lena, yn sbecian dros glawdd yr ardd! Byddwch yn teimlo i'r byw yma hefyd, o ddarllen am fab yn gadael cartref i ŵr sy'n cadw cyfrinach, a'r holl anwadalwch sy'n dod gyda'r amau. I unrhyw un sy'n hoff o gŵn (ac sydd ddim yn or-hoff o gathod!), daw'r cymeriad sy'n achub Lena yn arwr i ni i gyd. Yn llawn deialog hwyliog a chwim yn iaith lafar y gogledd, brawddegau cynnil sy'n effro i anghenion dysgwyr a geirfa ddefnyddiol ar waelod pob tudalen, a hyd yn oed iaith negeseuon testun, mae'r nofel hon wedi ei sgwennu'n graff ac yn bell o fod wedi ei hanelu at ddysgwyr yn unig, sydd yn rhywbeth i'w ganmol. Does dim iaith ffurfiol na phatrymau chwithig ar ei chyfyl, ac mewn ffordd mae hi'n nofel i’w darllen ar lefel is na lefel Uwch gan ddarllenwyr/ddysgwyr brwd a hyderus. Mae'r penodau byrion yn help mawr i'w darllen mewn pytiau. Cofiwch, does dim rhaid deall pob gair i fwynhau nofel dda! Dyma nofel i bawb, a gorau oll os ydi'r ci yn gwmni i chi wrth i chi ei darllen!
Share
